Mab Annette Bryn Parri yn cyhoeddi cân i lansio cronfa er cof amdani

Annette Bryn ParriFfynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Mae cronfa Annette Bryn Parri wedi cael ei lansio er cof am y gyfeilyddes amryddawn

  • Cyhoeddwyd

Mae mab y diweddar Annette Bryn Parri wedi recordio fersiwn o gân arbennig er cof am ei fam.

Bu farw'r cyfeilydd a'r hyfforddwr o Ddeiniolen ym mis Mai eleni yn 62 oed.

Mae'r gân Dagrau, sy'n defnyddio cyfeiliant a threfniant Annette, yn ffordd o lansio cronfa newydd sydd wedi'i sefydlu gan ei theulu er cof amdani.

Bydd y gronfa, sydd wedi'i henwi ar ei hôl, yn cefnogi cerddorion ifanc Cymru.

Wrth gyflwyno'r gân am y tro cyntaf ar raglen Bore Cothi, fe wnaeth Bedwyr Bryn Parri ei disgrifio fel ei "deyrnged fach" i'w fam.

"Mae o 'di bod yn brofiad anhygoel," meddai.

'Dyna oedd Mam ar ei gorau'

Ers yn blentyn ifanc iawn roedd Annette Bryn Parri â'i bryd ar ganu'r piano, a bu'n cyfeilio i nifer o sêr - yn eu plith Bryn Terfel, Aled Jones, Rebecca Evans, Eirian James, Rhys Meirion, Gwyn Hughes Jones a Leah Marian Jones.

Bu hefyd yn cyfeilio i Hogia'r Wyddfa am flynyddoedd.

Roedd hi'n gyfeilydd cyson yn y Brifwyl, Eisteddfod yr Urdd ac Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Yn y gân Dagrau, sy'n gyfieithiad o'r gân Tears in Heaven gan Eric Clapton, mae Annette yn cyfeilio, gyda'i mab Bedwyr yn canu.

"Ro'n i yn trefnu angladd mam ac yn cael rhestr o ganeuon at ei gilydd," meddai Bedwyr.

"Dyma oedd un o'r caneuon oedd ar fy rhestr - mae'n gân sbesial iawn, a dyma'r syniad o greu fersiwn newydd yn dod i mi."

Fe wnaeth John Williams a Manon Llwyd yrru cyfeiliant Annette at Bedwyr o'r gân wreiddiol a gafodd ei recordio gan Timothy Evans, oedd yn "ofnadwy o bwerus".

"Dwi'n gwrando mwy ar gyfeiliant mam na fy llais fy hun yn y gân, felly dwi'n ofnadwy o lwcus jyst cael rhoi fy llais i arno fo," meddai.

"Dwi'n meddwl yn bersonol, dyna oedd Mam ar ei gorau."

Annette gyda'i diweddar ŵr Gwyn a'r plant Heledd, Ynyr a Bedwyr.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Annette gyda'i diweddar ŵr Gwyn a'u plant Heledd, Ynyr a Bedwyr

Mae'r gân wedi'i rhyddhau er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gronfa Annette Bryn Parri.

Dyma gronfa newydd sydd wedi'i sefydlu gan ei phlant - Heledd, Ynyr a Bedwyr - i hybu offerynwyr Cymraeg.

"'Da ni'n gwybod bod Mam wedi mentora llawer, yn cynhyrchu ac yn cyfeilio. Roedd hi'n gwneud cymaint o waith," meddai Bedwyr.

"Roedd o'n anodd i ni ddewis un elusen achos bod hi wedi gwneud cymaint, felly 'da ni yn edrych ymlaen at weithio ar hwn dros y flwyddyn nesaf."

Ychwanegodd: "S'gynno ni ddim syniad be' yn union 'da ni'n mynd i wneud efo fo ar y funud, ond mae'r posibilrwydd o be' fedrwn ni wneud - os ydi o'n gyngherddau, cydweithio gyda'r Eisteddfod neu rywbeth arall - yn anhygoel."

'Profiad anhygoel'

Ychwanegodd Bedwyr: "Dwi'n meddwl y cyfnod mwyaf heriol oedd yr wythnosau yn cael y syniad at ei gilydd a wedyn gwrando ar y cyfeiliant.

"O'n i'n teimlo fy mod i'n barod i recordio fo, ond doeddwn i ddim.

"Ges i recordio gyda Manon Llwyd a John Williams yn stiwdio Bethel.

"Yn syndod roedd o fath â bo' fi 'mond yn cael ymarfer gyda mam yn tŷ, roedd o'n rhwydd.

"Daeth y recordiad mewn rhyw dair awr - rhywbeth sydd fel arfer yn cymryd diwrnodau i wneud.

"Dwi'n teimlo'n ffodus iawn... roedd y recordio yn brofiad anhygoel."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig