Rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar Ddiwrnod Nadolig

Rhybudd Melyn y Swyddfa DywyddFfynhonnell y llun, Y Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhybudd melyn mewn grym trwy gydol ddydd Iau ac wedi dechrau ers 04:00

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o Gymru ar Ddiwrnod Nadolig.

Mae'r rhybudd mewn grym o 04:00 i 23:59 ddydd Iau.

Mae disgwyl gwyntoedd cryfion o'r dwyrain i'r gogledd ddwyrain drwy gydol y dydd, gyda hyrddiau o 45-55 mya, a hyd at 65 mya mewn rhai ardaloedd arfordirol.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd, dolen allanol y gallai achosi problemau i gerbydau tal, toriadau trydan ac effeithio ar ardaloedd arfordirol oherwydd tonnau mawr.

Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r awdurdodau lleol canlynol yng Nghymru:

  • Blaenau Gwent

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Caerffili

  • Caerdydd

  • Sir Gaerfyrddin

  • Ceredigion

  • Conwy

  • Gwynedd

  • Ynys Môn

  • Merthyr Tudful

  • Sir Fynwy

  • Castell-nedd Port Talbot

  • Casnewydd

  • Powys

  • Rhondda Cynon Taf

  • Abertawe

  • Torfaen

  • Bro Morgannwg

Pynciau cysylltiedig