Amser panto! Lluniau o berfformiad blynyddol Theatr Fach Llangefni

- Cyhoeddwyd
"Tu ôl i chi!" Ydi mae'n dymor y pantomeim….
O rai o neuaddau mwyaf Cymru gyda'u cynyrchiadau proffesiynol i berfformiadau bychan gan griwiau amatur, mae hwyl y panto yn rhan bwysig o draddodiad y Nadolig.
Ac fel mae'r lluniau yma yn dangos, mae hynny'n wir ar Ynys Môn. Mae Theatr Fach Llangefni, sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac yn dathlu pen-blwydd 70 oed eleni, wedi gwerthu pob tocyn o'u naw perfformiad, a hynny ers wythnosau lawer.
"O na dydyn nhw heb!" Do, maen nhw wedi.

Ar ddechrau'r noson mae'r cast a'r holl wirfoddolwyr yn cyrraedd yn gynnar i baratoi, gan gynnwys Lowri Cêt, cadeirydd Theatr Fach Llangefni, sy'n rhoi colur ar Gethin Rees Roberts, y Dame

Rhan fwyaf o'r flwyddyn mae'r dyn yma yn cael ei adnabod fel Gethin Williams, aelod o bwyllgor Theatr Fach Llangefni, ond ar noson pantomeim 2025...

... y fo ydi'r Brenin Bodlon

Mae Mared Edwards wedi actio mewn sawl cynhyrchiad yn Theatr Fach, ond eleni ydi ei thro cyntaf yn y panto

Mae yna ddigon o hwyl gefn llwyfan - a digon o waith paratoi i'r Dame bob blwyddyn. O'r chwith - Manon Wyn (Ffion Ffurflen), Carwyn Jones (Tomi Trôns), Gethin Rees Roberts (Nansi Nics), Ceuron Parry (Tywysog Trystan) a Sion Taylor (sy'n helpu gefn llwyfan)

Marlyn Samuel, y cyfarwyddwr, ac Ania Moore - sy'n actio rhan Gwenno Gwnïo yn Deuddeg Drws y Dolig

Barod i gamu ar y llwyfan - Non Dafydd, sy'n actio Siân Corn, a Manon Wyn, sy'n actio cymeriad Ffion Ffurflen

A dyma Siân Corn yn cyrraedd Theatr Fach Llangefni ar ôl teithio o begwn y gogledd... neu gefn llwyfan

Mared Edwards yn serennu fel Cassandra Cadwaladr Câs Beth

Cadeirydd y Theatr a'r arbenigwr coluro Lowri Cêt wedi trawsnewid i fod yn Tesni Tylwythen Deg y Nadolig. Mae Lowri wedi bod yn rhan o bantos y theatr ers iddi fod yn rhan o'r criw ieuenctid, fel y rhai sydd gyda hi yn y llun yma

Rhybudd: peidiwch ag eistedd yn rhy agos at y llwyfan os yn berson swil. Rhan bwysig o'r pantomeim blynyddol ydi'r Dame yn tynnu coes y gynulleidfa

Tomi Trôns yn arwain y conga yn y carnifal gyda chriw ieuenctid y pantomeim - aelodau Theatr Ieuenctid Môn

Cyfle am seibiant hanner amser

Nôl iddi - gyda Nansi Nics yn cipio'r goriad coll oedd Cassandra gas wedi'i ddwyn

Ceisio cael gwared â'r camel sydd wedi dilyn y cast i'r Aifft

Deuawd ramantus rhwng Gwenno Gwnïo a'r Tywysog Trystan - ond does dim rhaid actio gan fod Ania a Ceuron yn gariadon go iawn hefyd

Mae yna wastad firi a giamocs ym mhantomeim Theatr Fach Llangefni

Y curtain call pwysig gydag aelodau'r cast yn cymeradwyo rhai o'r prif gymeriadau

Ac mae'r gynulleidfa wedi eu plesio unwaith eto eleni...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd3 Mai 2025

- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025
