Cyn-offeiriad wedi cyfaddef cam-drin plentyn cyn dod yn esgob - adroddiad

Cafodd cyn-esgob Abertawe ac Aberhonddu, Anthony Pierce, ei garcharu ym mis Mawrth am achos hanesyddol o gam-drin bachgen
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth cyn-esgob gyda'r Eglwys yng Nghymru sydd yn y carchar am gam-drin bachgen yn rhywiol "gyfaddef" iddo gam-drin bachgen arall, yn ôl dogfen sydd wedi dod i law BBC Cymru.
Misoedd cyn i Anthony Pierce gael ei benodi yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu yn 1999 fe ofynnodd i "ffrind" ysgrifennu adroddiad sy'n dweud iddo gyfaddef i'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "trosedd" pan oedd yn offeiriad.
Fe basiodd 11 mlynedd cyn i'r eglwys rannu'r adroddiad gyda'r heddlu, ac mae'r eglwys bellach yn dweud ei fod yn "rhan bwysig" o'u hadolygiad o sut y cafodd yr honiad yn erbyn Pierce ei drin ar y pryd.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru nad nhw oedd wedi comisiynu'r adroddiad, ac na fydd yr eglwys yn gwneud sylw pellach nes bod yr adolygiad wedi'i gwblhau.
Esgob yn gwybod am honiadau o gamymddwyn rhywiol ers blynyddoedd
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2025
Carcharu cyn-esgob am droseddau rhyw yn erbyn plentyn
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2025
Yr Eglwys yng Nghymru: Ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant yn rhywiol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2025
Mae'r ddogfen 25 tudalen yn dweud bod y cam-drin wedi digwydd yn 1990 ac yn nodi bod Pierce, sydd bellach yn 84 oed, yn teimlo'n "euog iawn" ac "na allai ddianc rhag y realiti ei fod yn oedolyn" tra bod y dioddefwr yn blentyn.
"Roedd ganddo ofn i'w gywilydd ddod yn gyhoeddus, ac y byddai'n colli ei weinidogaeth," medd yr adroddiad.
Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu ym mis Chwefror 1999, dim ond deufis cyn i Pierce ddod yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu - un o swyddi uchaf yr Eglwys yng Nghymru.
Rydym am alw'r dioddefwr honedig yn 'Dean' er mwyn gwarchod ei breifatrwydd.
Roedd Dean, sydd bellach wedi marw, yn mynychu hen eglwys Pierce yn ardal Abertawe.
Mae'r adroddiad yn honni bod Pierce – offeiriad yn ei 40au hwyr ar y pryd – yn "naïf" ac "wedi'i swyno" gan Dean, oedd yn 15 oed ac sy'n cael ei ddisgrifio yn yr adroddiad fel bachgen "deniadol iawn".
Dywed cyfreithwyr sy'n cynrychioli mam Dean fod y ddogfen yn ymddangos fel ymgais i "ladd ar ei gymeriad" a'i deulu i geisio cadw Pierce uwchlaw beirniadaeth.
'Rhywun wedi ceisio cuddio'r gwir'
Roedd mam Dean wedi adrodd yr honiad ddwywaith i'r eglwys – y tro cyntaf yn 1993, gan gwyno i Dewi Bridges, Esgob Abertawe ac Aberhonddu ar y pryd.
Yn ôl y ddogfen, ar ôl yr honiad hwn fe gyfaddefodd Pierce y "drosedd" i awdur yr adroddiad.
Cododd hi'r mater eto ym mis Ionawr 1999 - mis cyn i'r adroddiad gael ei ysgrifennu a thri mis cyn i Pierce olynu Mr Bridges fel Esgob Abertawe ac Aberhonddu ym mis Ebrill.
Ni chafodd yr honiad ei adrodd i'r heddlu tan 2010 – dwy flynedd ar ôl i Pierce ymddeol wedi naw mlynedd fel esgob.
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru eu bod wedi adrodd yr honiad i'r heddlu eto yn 2016 wrth gyflwyno dogfennau – gan gynnwys yr adroddiad yma – i'r Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol.
Ond erbyn hynny roedd Dean wedi marw a doedd yr heddlu ddim yn gallu cymryd unrhyw gamau pellach.
Dywedodd cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran teulu Dean fod hyn wedi achosi "poen enfawr" iddyn nhw.
"Mae wedi'i gynllunio i geisio atal unrhyw un sy'n ymchwilio i'r achos rhag credu stori Dean," meddai David Greenwood, cyfreithiwr sy'n arbenigo mewn achosion hawliadau cam-drin plant.
"Mae hyn wedi datgelu bod rhywun wedi ceisio cuddio'r gwir."

Ym mis Chwefror eleni plediodd Anthony Pierce yn euog i bum cyhuddiad o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed
Mae'r adroddiad, sy'n canolbwyntio ar blentyndod Dean a'i rywioldeb, yn sarhaus yn ei natur ac mae'r BBC wedi gweld copi cyn i adolygiad gael ei gyhoeddi am sut wnaeth yr Eglwys yng Nghymru ddelio gyda'r honiad yn ymwneud â Dean.
Mae'r BBC yn deall bod Pierce wedi gofyn i'r awdur baratoi'r adroddiad fel y gellid ei drosglwyddo i glerig uwch yn yr Eglwys.
Dyw hi ddim yn glir pwy welodd yr adroddiad na pha gamau gafodd eu cymryd.
Mewn gohebiaeth a welwyd gan y BBC, dywedodd aelod o staff yr eglwys: "Ni ddylai erioed fod wedi cael ei ysgrifennu o'r hyn sy'n amlwg yn wybodaeth hynod gyfrinachol, ac yn sicr ni ddylai fod wedi bod yn rhan o unrhyw broses gwneud penderfyniadau."
Dywedodd yr adroddiad fod Pierce yn "ddiniwed a heb brofiad o ymdopi ag unrhyw un oedd yn ei drin fel hyn.
"Roedd yn ddryslyd ac wedi'i swyno a heb amddiffyniad yn erbyn ymosodiad mor eofn.
"Nid wyf yn cyfiawnhau'r hyn a wnaeth Pierce ond yn ceisio gweld sut y digwyddodd.
"Nid wyf yn meddwl am eiliad fod Dean yn faleisus. Roedd yn bod yn ef ei hun ac yn archwilio bywyd a'i rywioldeb ei hun."
Mae'r adroddiad yn disgrifio sut y "cynhaliodd Pierce rwystr anweledig o'i gwmpas ei hun... ac fe wnaeth Dean dorri'n syth trwy'r rhwystr hwnnw".
Ysgrifennodd y BBC at Anthony Pierce yn y carchar ond gwrthododd wneud sylw.
Ym mis Mawrth, cafodd Pierce ei ddedfrydu i bedair blynedd ac un mis ar ôl cyfaddef pum cyhuddiad o ymosod anweddus ar blentyn arall rhwng 1985 a 1990.
Y llythyr yn 'dystiolaeth bwysig' yn yr adolygiad
Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod disgwyl i'w hadolygiad, sydd wedi cynnwys "archwiliad manwl o'r dystiolaeth a'r amgylchiadau", gael ei gyhoeddi yn y flwyddyn newydd.
Bydd adolygiad yr eglwys yn edrych ar gyfnodau pan gafodd caniatâd Pierce i weinyddu ei dynnu oddi wrtho, cyn ei adfer eto rhwng 2011 a 2016.
"Ysgrifennwyd y llythyr gan ffrind Anthony Pierce ac ni chafodd ei gomisiynu gan yr eglwys," meddai llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru.
"Mae'n ffurfio rhan bwysig o dystiolaeth yr adolygiad lle caiff ei drin mewn modd manwl a thrwyadl, a lle caiff y cwestiynau eraill a ofynnwyd eu hateb gyda chyd-destun llawn."
Mae'r BBC eisoes wedi datgelu bod honiadau yn erbyn Pierce wedi cyrraedd desg ei Esgob mor gynnar â chanol yr 1980au ond nid yw'r eglwys wedi dod o hyd i'w gofnod disgyblu.
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.