Edrych yn ôl ar 2025
- Cyhoeddwyd
Wrth i 2025 ddirwyn i ben, dyma gyfle i edrych yn ôl ar rai o'n hoff straeon, lluniau a fideos fu ar Cymru Fyw eleni.
Ionawr
Roedd Aurora Borealis, neu Llewyrch yr Arth, i'w weld yn glir yn yr awyr dros Gymru ar ddechrau'r flwyddyn. Dyma lun trawiadol o'r ffenomenon yn ymddangos dros dref Caernarfon.

Pa ffordd well o groesawu'r flwyddyn newydd nag ymdrochi yn y môr? Dyna oedd y grŵp syrffio yma i bobl canol oed yn ardal Abertawe yn ei wneud - a hynny fel dull o therapi. Darllenwch am eu hanes.

Cennydd o'r grŵp 'Ocean Therapy' yn ardal Abertawe
Ym mis Ionawr roedd 'na Gymraes yn cystadlu ar y rhaglen BBC, The Traitors. Dywedodd Elen Wyn, o Lanfair-yng-Nghornwy ym Môn, mai un o'r prif resymau iddi ymgeisio i fod ar y rhaglen oedd er mwyn "hyrwyddo'r Gymraeg oherwydd ei bod hi'n rhan mor fawr o bwy ydw i ac o fy magwraeth i".
Elen Wyn yn ateb rhai o gwestiynau Cymru Fyw am The Traitors
Colli o 43 pwynt i 0 oedd hanes Cymru yng ngêm agoriadol y Chwe Gwlad. Y tro cyntaf erioed yn y Chwe Gwlad i Gymru fethu sgorio pwynt mewn gêm. Fe gollon nhw pob gêm yn y bencampwriaeth.

Chwefror
Am flwyddyn gyfan bu'r grŵp poblogaidd Mynediad am Ddim yn teithio o amgylch neuaddau Cymru yn perfformio.
Fe ddaeth y daith i ben mewn noson emosiynol yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth lle perfformiodd y grŵp am y tro olaf wedi 50 mlynedd o fodolaeth.

Roedd hi'n ddiwedd cyfnod hefyd i Alice ac Andrew Lui wrth iddyn nhw ymddeol ar ôl 40 mlynedd o redeg bwyty Cantonaidd y Garden Hotel ym Mangor.
"Mae fel ddoe," meddai Andrew, 70, wrth gofio sefydlu'r busnes yn 1984. "Mae wedi mynd mor gyflym."

Ym mis Chwefor fe gafodd mainc deyrnged a oedd wedi ei gosod ar Ynys Môn ei dychwelyd i deulu Cymreg ar ôl cael ei darganfod 80 milltir i ffwrdd yng ngogledd Lloegr ar ôl storm ddifrifol.
Roedd y fainc wedi ei gosod ym Mhorth Llechog ar Ynys Môn i goffáu Bill Batcock, a fu farw o lewcemia yn 2018.
Ond cafodd y fainc ei chwythu i'r môr yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024.
Dyma lun o'r teulu'n casglu'r fainc yn Cumbria.

Grŵp o Sir Gaefyrddin 'Dros Dro' oedd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2025 gyda chân o'r enw Troseddwr yr Awr.
Bydd y gystadleuaeth yn dychwelyd i Ynys Môn yn 2026 am y tro cyntaf ers 2015, ond nid yw'r union leoliad wedi ei gyhoeddi eto.

Mawrth
Daeth y newyddion trist ym mis Mawrth fod y cerddor Geraint Jarman wedi marw yn 74 oed wedi salwch byr.
Roedd teyrngedau lu iddo o ar draws Cymru gyda phobl yn ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".

Ym mis Mawrth fe gynhaliwyd angladd i ffigwr arall pwysig yng Nghymru, sef yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a fu farw fis Chwefror.
Roedd canoedd yn ei angladd yn Eglwys Gadeiriol Llandaf. Fe yrrodd yr hers heibio'r Senedd ym Mae Caerdydd ar ôl y gwasanaeth.

Cafodd dolffin ifanc ei achub rhag mynd yn sownd ar draeth ym Mae Ceredigion ym mis Mawrth diolch i dîm ar un o gychod teithiau gwylio dolffiniaid yr ardal a chriw bychan o wirfoddolwyr. Gwyliwch fideo isod o'r dolffin yn cael ei achub.
Roedd tanau gwyllt ar draws Cymru yn 2025. Dyma lun o fis Mawrth pan aeth 20 hectar o eithin ar dân ar Fynydd Gelliwastad ger Clydach.

Ddiwedd mis Mawrth gwelodd bobl ledled Cymru droellen lachar yn disgleirio yn yr awyr dywyll.
Heidiodd nifer i'r cyfryngau cymdeithasol i holi beth oedd y siâp dieithr; diwedd y byd? Ymwelwyr estron o'r gofod?

Trodd yr awyr yn las yn Y Felinheli wrth i roced Elon Musk 'Falcon 9' oleuo'r awyr
Ebrill
Roedd tanau gwyllt yn effeithio ar Gymru ym mis Ebrill hefyd. Roedd tanau gwair yn llosgi yng Ngheredigion am sawl diwrnod, gyda chynghorwyr yn dweud bod hi'n "amser pryderus" i'r ardal.
Fideo o'r fflamau ym mynyddoedd ardal Ystrad Fflur yng Ngheredigion dros nos
Mae cyrraedd yr ysgol yn y bore yn gallu bod yn strach, yn enwedig mewn dinas fel Caerdydd. Dyna pam fod grŵp o bobl wedi sefydlu 'Bws Beics' i gludo plant i ysgolion cynradd Pwll Coch a Treganna mewn ffordd sy'n hwyl a diogel.
Gwyliwch nhw wrthi isod.
Cannoedd o ddisgyblion cynradd yn ymuno â Bws Beic i'r ysgol
Edrychwch ar y llun trawiadol hwn o gopa'r Wyddfa gyda'r lleuad llawn yn gefnlen iddo. Cafodd y llun ei dynnu gan y ffotograffydd Tony Harnett o bellter o chwe milltir (10km) i ffwrdd o'r Wyddfa ger llynnoedd prydferth Llynnau Mymbyr, wrth Capel Curig yn sir Conwy.

Arhoswn ar gopa'r Wyddfa a hynny gyda Dylan Hughes o Fangor. Cafodd Cymru Fyw air gydag o tra'r oedd yng nghanol sialens i ddringo mynydd uchaf Cymru 100 o weithiau, a hynny wedi gwisgo fel Spiderman.
Mai
David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe oedd enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled, Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr Parc Margam a'r Fro yn 2025.
Cafodd y pâr priod eu cydnabod am ddegawdau o waith yn hybu'r Gymraeg a diwylliant Cymreig ymhlith plant a phobl ifanc eu hardal.

David Gwyn a Pamela John o Dreforys, Abertawe yn derbyn y tlws gan Heledd Cynwal
Roedd tre'r Cofi dan ei sang ar 10 Mai ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon.
Bydd yr ŵyl, sy'n denu miloedd i'r dref yn flynyddol, yn cael blwyddyn o seibiant yn 2026 er mwyn ail-gynllunio ac osgoi "llosgi allan, a allai arwain at ddiwedd parhaol yr ŵyl".

Y dorf yn heidio yn eu miloedd o flaen wal yr Anglesey
Dyma un o luniau hardd y ffotograffydd Mike Alexander wedi ei dynnu yn Sir Benfro yn ystod y gwanwyn. Cliciwch i weld y casgliad yn ei gyfanrwydd fan hyn.

Un o draethau hyfryd niferus Sir Benfro
Roedd hi'n Eisteddfod yr Urdd wlyb ym mis Mai wrth i'r ŵyl cael ei chynnal ym Mharc Margam ger Port Talbot, ond roedd y teulu yma'n mwynhau!

Y teulu Hulse o'r Trallwng wedi llwyddo i gael gafael ar y ponshos gan Y Frigad Dân
Mehefin
Dyma lun o gwch cyflym yn gwibio drwy'r môr ger Llandudno. Mae'n un o nifer o luniau gan y ffotograffydd Gareth Ellidge sy'n teithio ledled y gogledd yn tynnu lluniau o olygfeydd cyfarwydd o'r awyr.

Mae orielau lluniau Cymru Fyw yn boblogaidd tu hwnt. Dyma lun o gasgliad gan y ffotograffydd James William Mahoney sy'n gofnod o fywyd sipsiwn ym Merthyr o'r 1990au hyd heddiw.
Y diweddar Annie Shaw sydd yn y llun. Pan fu farw Annie, cafodd ei charafán a'i heiddo ei llosgi gyda hi, yn hen draddodiad y sipsiwn Romani.

Daeth miloedd o bobl i barc Bute yng Nghaerdydd ym mis Mehefin i fwynhau Tafwyl. Mae'r ŵyl wedi bod yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ers 2006 ac wedi tyfu yn sylweddol ers hynny.

Dyma Celt, 10 oed o Nebo ger Dyffryn Conwy. Mae Celt wedi gorfod stopio gwerthu wyau ger ei gartref oherwydd lladron. Cafodd Cymru Fyw glywed am ei hanes, a nifer o achosion eraill tebyg, ym mis Mehefin.

Pan aeth Lleucu'r gath ar goll ym mis Ebrill, roedd ei pherchnogion, Dei a Cheryl Jones o Gricieth, yn dechrau anobeithio y byddan nhw'n ei gweld hi eto.
Ond wedyn cawson nhw alwad ffôn, a dysgu fod Lleucu wedi mynd am antur... ac wedi ei ffeindio yng Nghrucywel yn ne Powys!

Gorffennaf
Yng Ngorffennaf cafodd bachgen yn ei arddegau ei achub gan hofrennydd gwylwyr y glannau o glogwyn ger Castell Cricieth.
Roedd y bachgen wedi bod yn neidio o'r clogwyni i'r môr gyda ffrindiau ond aeth yn sownd ar ôl dringo o fan uwch. Cafodd y bachgen ei lusgo i ddiogelwch heb ei anafu.

Bron i 16 mlynedd ers i Oasis berfformio'n fyw ddiwethaf, fe wnaeth Liam a Noel Gallagher ddychwelyd i'r llwyfan yng Nghaerdydd.
Dechreuodd y brodyr eu taith newydd hir-ddisgwyledig yn y brifddinas gan berfformio am ddwy noson yn Stadiwm Principality ar 4 a 5 Gorffennaf. Fel sy'n amlwg yn y fideo isod... roedd y ffans wrth eu boddau.
'Gweld y ddau frawd yn cael cwtsh ar y diwedd – anhygoel'
Tîm merched Cymru'n bloeddio'r anthem cyn eu gêm gyntaf yn yr Euros yn erbyn yr Iseldiroedd. Yn anffodus, colli oedd eu hanes o dair gôl i ddim...

...ond fe wnaeth Jess Fishlock greu hanes wrth sgorio gôl gyntaf Cymru mewn cystadluaeth fawr, a hynny'n erbyn Ffrainc ar y 9fed o Orffennaf.

Gan aros ym myd y bêl gron, cafodd un o glybiau Cymru fuddsoddwr go enwog yn ymuno â nhw.
"Rwy'n falch o fod yn rhan o Glwb Pêl-droed Abertawe" meddai'r rapiwr Americanaidd Snoop Dogg, wrth i'r newyddion dorri ei fod wedi buddsoddi yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe gan ddod yn gyd-berchennog.

Fel sy'n digwydd pob blwyddyn, cafodd gŵyl werin y Sesiwn Fawr ei chynnal yn nhref Dolgellau yn Sir Feirionnydd.
Heidiodd miloedd o bobl yno i weld mwy na 50 o artistiaid yn perfformio ledled y dref, gyda'r prif lwyfan yng nghefn Gwesty'r Ship. Dyma gwpl yn mwynhau'r twmpdaith ar y sgwâr.

Cafodd bedwar teigr Sumatra prin eu croesawu i sŵ yn Sir Benfor ym mis Gorffennaf, gan roi gobaith newydd i rywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu.
Fe gafodd y cenawod "swnllyd ond ciwt iawn" eu geni yn Manor House Wildlife Park.
Dywedodd y perchennog, Anna Ryder-Richardson: "Dyma'r hatsied fwyaf ym Mhrydain, o bosib trwy Ewrop, ac mae'n gyffrous iawn."
Awst
Roedd Eisteddfod Wrecsam yn un wych. Un fyddai'n cytuno efo hynny yw Jean Rhodes. Teithiodd Jean sy'n 94 oed o'i chartref yn Albuquerque, New Mexico, i Eisteddfod Wrecsam ar ei phen ei hun ar gyfer ei heisteddfod olaf.
Jean Rhoades: Teithio dros 6000 o filltiroedd i'w heisteddfod olaf?
Wrth i'r haul dywynnu ar ddiwrnod cyntaf Sioe Môn yn nghanol yr ynys ym mis Awst, roedd yn rhaid i berchnogion da byw gymryd camau i'w hatal rhag gorboethi. Roedd hynny oherwydd fod tymereddau dros 30 gradd selsiws wedi eu cofnodi yng Nghymru wrth i rannau o'r wlad brofi'r drydedd don wres y flwyddyn honno.

Rhian Thomas gydag un o'i gwartheg ucheldir mewn sied ar faes Sioe Môn
Os oeddech chi'n gwylio'r rhaglen boblogaidd University Challenge ar BBC 2 ym mis Awst, fe fyddwch wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar y rhaglen, a hynny gan fyfyriwr o Wrecsam o'r enw Harri Slaughter (ynghŷd a'i gyd-gystadleuydd Aeron Wheel).
Gwyliwch y fideo isod:
Myfyrwyr yn defnyddio’r Gymraeg ar raglen University Challenge wythnos yma
Dyma lun o Lyn Aled, Mynydd Hiraethog, ar ôl i statws sychder gael ei ddatgan yng ngogledd Cymru yn dilyn y chwech mis sychaf ers bron i 50 mlynedd.

Medi
Tyrrodd miloedd o gefnogwyr i strydoedd Caerdydd i weld reid olaf y seiclwr Geraint Thomas ym mis Medi.
Roedd y seiclwr yn ei ddagrau wrth i'w yrfa ddisglair ddod i ben. "Mae o'n haeddu dathliad," dywedodd ei dad-yng-nghyfraith, Eifion Thomas. Mae'n anodd anghytuno!
"Mae o'n haeddu dathliad," dywedodd ei dad-yng-nghyfraith, Eifion Thomas
Cafodd murlun ei ddadorchuddio yng Nghaerdydd er cof am un o gapteiniaid mwyaf poblogaidd yr Adar Gleision ym mis Medi.
Chwaraeodd Sol Bamba ran allweddol yn un o gyfnodau mwyaf llewyrchus Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, gan eu helpu i gyrraedd Uwchgynghrair Lloegr yn 2018.
Roedd y cyn-amddiffynnwr yn rheoli tîm Adanaspor yn Nhwrci pan fu farw'r llynedd yn 39 oed, ar ôl brwydr hir gyda chanser.

Fe helpodd y gymuned i beintio'r murlun ar Ffordd Penarth yn Grangetown
Roedd tua 2,700 o bobl yn cystadlu yn Ironman Cymru 2025 ar 21 Medi yn y ras hynod heriol sy'n mynd drwy rai o ardaloedd prydferthaf Cymru.
Gan gychwyn yn nhref liwgar Dinbych-y-pysgod, rhaid nofio 2.4 milltir yn y môr, seiclo 112 milltir o amgylch cefn gwlad Sir Benfro, a gorffen drwy redeg marathon 26.2 milltir o bellter.

Dilyn y don
Ym mis Medi dywedodd yr actor byd-enwog Michael Sheen y bydd yn chwarae rhan Owain Glyndŵr mewn cynhyrchiad theatr newydd yn 2026.
Hwn fydd un o gynyrchiadau cyntaf cwmni theatr newydd Michael Sheen, sef Welsh National Theatre.
Bydd y cynhyrchiad, Owain & Henry, yn adrodd hanes gwrthryfel Glyndŵr - wnaeth arwain ato'n dod yn symbol o genedlaetholdeb Cymreig yn ddiweddarach.

Hydref
Yn ystod gêm Cymru yn erbyn Gwlad Belg yng Nghaerdydd fis Hydref, fe gafodd y chwarae ei rwystro am rai munudau wrth i lygoden fawr ddod ar y cae.
Roedd yn rhaid i Brennan Johnson ei hel oddi ar y cae. Colli 2-4 wnaeth Cymru yn erbyn y Belgiaid.

Tybed ai'r un llygoden fawr y tynodd Gildas Griffiths lun ohoni wrth iddo grwydro ar hyd llwybrau'r Taf ar gyrion Radyr? Cliciwch i weld fwy o luniau trawiadol o fywyd gwyllt Caerdydd a'r Fro gan y ffotograffydd.

Cafodd yr ŵyl aml-leoliad, Sŵn, ei chynnal ar draws y brifddinas ym mis Hydref fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd. Dyma oriel luniau gyda rhai o olygfeydd y penwythnos hwnnw.

Moonchild Sanelly, a oedd yn perfformio set hynod fywiog yng Ngŵyl Sŵn
Roedd llygaid y genedl a thu hwnt ar isetholiad Caerffili ym mis Hydref. Ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle wnaeth ennill gyda 47% o'r bleidlais.
Reform UK oedd yn ail gyda 36% o'r bleidlais, a Llafur ymhell ar eu hôl gydag 11%.

Lindsay Whittle yn gorfoleddu ar ôl i Plaid Cymru ennill isetholiad Caerffili
Tachwedd
Yn wreiddiol o Idofin, Nigeria, mae'r ffotograffydd Taiye Omokore bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae ei lyfr cyntaf My Story in Red, yn brosiect personol iawn sy'n plethu cynhesrwydd ac egni diwylliant Nigeria gyda thirwedd ac ysbryd Cymru. Cliciwch i weld ei luniau trawiadol.

Fel rhan o'u hymgyrch i godi arian at elusen Plant mewn Angen, fe wnaeth y cyflwynwyr radio Trystan ac Emma gwblhau Dawnsathon 24 awr. Fe wnaeth y ddau ddechrau dawnsio am 11:00 fore dydd Iau y 13eg, a gorffen ar ddiwedd eu rhaglen fore Gwener y 14eg.
Cafodd y cyfan ei ddarlledu'n fyw ar Radio Cymru, Radio Cymru 2 ac iPlayer.

Roedd goleuadau Llewyrch yr Arth i'w gweld yn glir mewn sawl man yn y gogledd eto ym mis Tachwedd. Dyma fo'n goleuo'r awyr uwchben Bae Colwyn.

Cafodd 'digwyddiad difrifol' ei ddatgan ym mis Tachwedd ar ôl i Storm Claudia daro Cymru, a llifogydd i'w gweld mewn sawl ardal yn enwedig Trefynwy ac Y Fenni.

Yr olygfa yn Nhrefynwy ar ôl i Storm Claudia achosi llifogydd ar draws yr ardal
Roedd digon o hwyl a chystadlu yn Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc wrth i aelodau ar draws Cymru ddod at ei gilydd yn y Drenewydd ym mis Tachwedd.

Enillwyr y ddeuawd neu driawd doniol oedd Llywela a Ceridwen, CFfI Clwyd
Deffrodd nifer yn y gogledd i olygfa wen drwy'r ffenest yng nghanol mis Tachwedd, wrth i eira ddisgyn ar y bryniau am y tro cyntaf y gaeaf yma.

Bu'r haul yn disgleirio dros ardal Llanbister ym Mhowys
Heidiodd miloedd o bobl i ganolbarth Cymru i weld y gorau sydd gan fyd amaethyddol y genedl i'w gynnig yn y Ffair Aeaf. Dyma rhywfaint o'r golygfeydd oedd i'w gweld yn Llanelwedd.

Ychydig o'r cynyrch o safon uchel oedd i'w weld yn y ffair
Dyma Catrin Meurig o Borthmadog ar gopa Ama Dablam, un o fynyddoedd mwyaf eiconig Yr Himalaia. Fe ddringodd hi'r mynydd ym mis Tachwedd. Mae'r copa'n 6812 metr o lefel y môr, ac felly'n dros chwe gwaith uwch na'r Wyddfa sy'n 1085 o fetrau. Tipyn o gamp!

Catrin Meurig ar gopa Ama Dablam
Fe wnaeth y gyrrwr rali Elfyn Evans golli allan ar gael ei goroni'n bencampwr ralio'r byd am y tro cyntaf ar ôl iddo orffen yn chweched yn Rali Saudi Arabia.
Yn siarad ar ôl y cymal olaf, dywedodd Evans: "Yn amlwg mae o wedi bod yn ddigwyddiad anodd.
"Rydyn ni wedi gwneud be allwn ni, a dyna ni. Rydyn ni'n gystadleuwyr ar ddiwedd y dydd, rydyn ni bob amser eisiau gwneud yn well, rydyn ni bob amser eisiau mwy."

Rhagfyr
Dechreuodd mis Rhagfyr gyda mwy o law trwm a mwy o lifogydd ar draws Cymru. Gwelwyd llifogydd yn nifer o lefydd yn Sir Gaerfyrddin ac yn y gogledd. Dyma'r olygfa yn Llanfechell, Ynys Môn.
Llifogydd ger Llanfechell, Ynys Môn fore Llun
Mae pencampwriaeth Ewropeaidd i rasio cŵn gyda sled yn digwydd yn Sweden ym mis Hydref 2026. Mae 'na griw o bobl ifanc yn y gogledd yn gobeithio cystadlu yn y bencampwriaeth.
Dyma un o'r criw yn hyfforddi gydag Academi Cŵn Sled Cymru yng Nghoedwig yr Alwen ger Cerrigydrudion.

Mae rhai o aelodau Academi Cŵn Sled Cymru yn gobeithio cystadlu ym mhencampwriaeth Ewrop y flwyddyn nesaf
Gyda'r Nadolig rownd y gornel, fe ddiddanodd rhai o blant Cymru gynulleidfa Cymru Fyw gyda detholiad o rai o'i hoff jôcs Nadoligaidd.
Hoff jôcs Nadolig Plant Cymru
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.