Pen-pals ers dros 60 mlynedd yn dal i fod yn 'ffrindiau annwyl'

Mae Lauralei (chwith) o Efrog Newydd a Lynwen, gafodd ei magu ym Mhenarth, wedi bod yn ysgrifennu at ei gilydd ers dros 60 mlynedd
- Cyhoeddwyd
"Ti wedi dysgu i mi pa mor bwysig ydy cadw'r hunaniaeth a'r iaith Gymraeg yn fyw," medd menyw o Efrog Newydd sydd wedi cael pen-pal yng Nghymru ers dros hanner canrif.
Pan roedd Lynwen, o Faesteg, yn 13 oed yn Ysgol Ramadeg Penarth, fe gafodd ei pharu â Lauralei o Efrog Newydd ac ers anfon y llythyr cyntaf yn ferched ifanc mae'r ddwy'n dal i gysylltu sawl gwaith yr wythnos – 61 mlynedd yn ddiweddarach.
"'Dan ni wedi rhannu llawer dros y blynyddoedd – amseroedd hapus a thrist," meddai Lynwen, ond "dwi'n ystyried Lauralei fel ffrind annwyl, arbennig iawn".
"Ni wedi bod yn sounding board i'n gilydd a bob amser moyn y gorau i'n gilydd," medd Lauralei sy'n 74 bellach, "mae 'da ni unbreakable bond".

Mae Lynwen wedi cadw copïau o'u llythyrau cyntaf ac hefyd anrhegion a anfonwyd at ei gilydd dros y blynyddoedd
Mae Lauralei yn cofio'r cyffro pan gafodd hi ei llythyr cyntaf gan Lynwen yn ôl yn y 60au ond mae'n dweud bod clywed ganddi "dal yn ei gwneud hi'n hapus" hyd heddiw.
"Mae ein ffurf o gyfathrebu wedi newid ar draws y blynyddoedd," meddai, "o'r llythyron flimsy cyntaf i nawr allu siarad in real-time ac ar y cyfrifiadur".
"Ni 'di bod trwy gymaint o hanes gyda'n gilydd o 1964 hyd at nawr ma' hwna'n 61 mlynedd."
Mae'n cofio'r Beatles yn mynd i America am y tro cyntaf – roedd y ddwy yn ddilynwyr brwd o'r band ac yn aml yn eu trafod yn eu llythyrau cyntaf.
Ond buodd y ddwy'n ymateb i ddigwyddiadau mawr a thrychinebau hefyd gydag Aberfan a 9/11 yn aros yn y cof.
"Ond nid dim ond yr hanes sy 'di digwydd yn y byd, ni 'di byw trwy ein naratifau personol hefyd – mynd i'r coleg, priodi, cael plant, colli ein rhieni.
"Ni bob amser wedi caru a chefnogi ein gilydd – yn ffrindiau gorau," meddai Lauralei.

Mae'r ddwy wedi cwrdd yn Llundain ddwywaith, yn 1979 a 2001, ac yn Efrog Newydd yn 2016
Mae Lynwen yn dweud bod y gyfeillgarwch wedi bod mor bwysig iddi dros y blynyddoedd ond mae'r ddwy'n cytuno mai'r uchafbwyntiau oedd cwrdd wyneb yn wyneb.
Cafodd y "ffrindiau annwyl" gyfle i gwrdd dwywaith yn Llundain ac un waith yn Efrog Newydd.
"Mae gen i atgofion melys iawn o Efrog Newydd," meddai Lynwen, "roedd pawb yn gyfeillgar a siaradus iawn".
"Dwi'n cofio cael vertigo ar ôl edrych i fyny ar yr holl adeiladau uchel," meddai.
"Lle prysur a swnllyd ond roeddwn i wrth fy modd yn enwedig yn ei chwmni".
'Anhygoel pa mor debyg ydyn ni'
Mae Lynwen wedi dysgu Cymraeg ei hun ac yn gwbl rhugl bellach ac mae wedi mwynhau trafod hanes a diwylliant Cymru â Lauralei dros y blynyddoedd.
"Mae [Lauralei] 'di dysgu llawer am ein tradoddiadau fel Y Fari Lwyd, llwyau caru, Eisteddfodau" ond hefyd am ein hanes, gyda'r "Welsh Not a Tywysogion Cymru" yn sefyll allan.
Dywedodd Lauralei: "Pan o'n i'n ferch fach naïf 13 oed, doeddwn i ddim yn deall pa mor bwysig oedd cael hunaniaeth Gymraeg.
"O'n i'n ystyried pawb fel un ym Mhrydain" meddai ond bod Lynwen wedi dysgu iddi "pa mor bwysig ydy cadw'r hunaniaeth a'r iaith Gymraeg yn fyw".
Mae'r ddwy yn dal i siarad sawl gwaith yr wythnos ac yn bwriadu parhau i wneud hynny.
"Mae'n anhygoel pa mor debyg ydyn ni," meddai Lauralei o ystyried nad oes ganddi unrhyw gysylltiad arall â Chymru a Lynwen heb unrhyw "DNA Italian-American".
"Mae gyda ni wahaniaethau ond dyna sy'n ein gwneud ni'n unigolion," ychwanegodd.
Dywedodd Lynwen eu bod "mor ffodus i ffeindio ein gilydd.
"Mae'n drueni ein bod yn byw mor bell i ffwrdd" ond ei bod yn teimlo'n lwcus iawn i gael cyfeillgarwch "mor sbesial".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.