Cyhoeddi enw dyn ar goll yn Afon Teifi wrth i'r heddlu barhau i chwilio

Kurtis BrookFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r heddlu'n credu mai Kurtis Brook ydy'r unigolyn a gafodd ei weld yn yr afon

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn aeth ar goll yn Afon Teifi wrth i'r ymgyrch chwilio barhau.

Mae'r dyn wedi cael ei enwi fel Kurtis Brook, 30 oed, o ardal Aberteifi.

Cafodd y gwasanaethau brys alwad am 05:15 fore Sul yn dweud bod dyn yn yr afon ger Stryd y Castell.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y gwaith chwilio wedi parhau dros y tridiau diwethaf gyda chymorth swyddogion arbenigol, dronau, cŵn, uned forol a chefnogaeth yr RNLI a Gwylwyr y Glannau.

Ychwanegodd yr heddlu fod swyddogion yn parhau i fod mewn cysylltiad â theulu'r dyn i'w diweddaru a'u cefnogi.

Dywedodd y Prif Arolygydd Richard Yelland fod "swm sylweddol o dir a dyfrffyrdd" eisoes wedi'u chwilio wrth i'r heddlu wneud "popeth posib" i geisio dod o hyd iddo.

Mae'r heddlu unwaith eto yn galw ar aelodau'r cyhoedd i gadw draw o lannau'r afon, gan rybuddio y gall ymdrechion chwilio gan unigolion roi bywydau mewn perygl a tharfu ar y gwaith swyddogol.

Ychwanegodd y bydd unrhyw ardaloedd sy'n cael eu hystyried yn ddiogel i'r gymuned gymryd rhan mewn chwilio yn cael eu cyfleu drwy swyddogion.

Mae Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai gynorthwyo swyddogion, neu os mai nhw yw'r person a aeth i'r dŵr ac sydd bellach yn ddiogel, i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig