Rhoi'r gorau i bregethu wedi 70 mlynedd 'ddifyr a phleserus'

yr Athro John Tudno Williams
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r 70 mlynedd o bregethu wedi bod yn daith ddifyr" i'r Athro John Tudno Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae'n ddiwedd cyfnod i'r Athro John Tudno Williams o bentref Capel Seion ger Aberystwyth, wrth iddo bregethu am y tro olaf ddydd Sul.

Cafodd yr Athro Williams - a anwyd yn Y Fflint ond a fagwyd yn rhannol yn Llundain - ei ordeinio yn 1963, ond roedd wedi dechrau pregethu pan yn yr ysgol.

"Ges i gyfle i bregethu am y tro cyntaf yn y capel lle ges i'm medyddio, sef Caersalem, Y Fflint, a hynny yn 1956," meddai.

"Dwi'n cofio yn iawn, roeddwn i ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf yn y chweched ac roedd fy mhregeth i yn seiliedig ar adnod 5, Rhufeiniaid 12 - sef ein bod ni'n un yng Nghrist, ac mae undod eglwysig ac eciwmeniaeth wedi bod yn rhan bwysig o fy mhregethu ers hynny."

'Dyna fy nhynged'

Doedd fawr o syndod i'r Athro Williams fynd yn weinidog, fel y mae'n egluro yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.

"Dyna fy nhynged i debyg - roedd fy nhad yn weinidog a fy nhaid, a do, fe ges i bob cefnogaeth gan yr Henaduriaeth yn Llundain.

"Wedi'r bregeth gyntaf honno fe ges alwad ffôn i fynd i bregethu i Charing Cross yn Llundain - ac roedd oedfa nos y capel hwnnw yn y 50au yn orlawn.

"Fues i hefyd yn pregethu yng nghapel Jewin - dim lot yn fanno yn y bore gan bod yr aelodau ar y rownd laeth, ond roedd yr oedfa nos (cyn ailadeiladu Jewin) yn Grays Inn Road yn llawn dop - roeddwn yn llawn cryndod ac wedi fy nhaflu i ddyfnder."

John Tudno Williams (mewn gwyn yn y blaen) yn cario Beibl William Morgan mewn gwasanaeth yn Llundain yn 1954Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

John Tudno Williams (mewn gwyn yn y blaen) yn cario Beibl William Morgan mewn gwasanaeth yn Llundain yn 1954

Yn 1954, fe gariodd y Parchedig John Tudno Williams y Beibl Cymraeg drwy eglwys St Martin in the Fields, Llundain mewn gwasanaeth i nodi 350 o flynyddoedd ers marwolaeth William Morgan.

Yn fuan yn ei yrfa cafodd yr Athro Williams, a fydd yn 87 ddiwedd y flwyddyn, ei benodi yn ddarlithydd yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth, a rhwng 1998 a 2003 ef oedd pennaeth yr adran.

Ei brif waith oedd hyfforddi gweinidogion newydd, ac yn ystod yr un cyfnod roedd yn weinidog yng ngogledd Ceredigion.

'Braf gweld newid ar droed'

Dywed ei fod wedi gweld cryn newid yn ystod ei weinidogaeth wrth i lai fynd i'r capeli, ond bellach bod yna newyddion calonogol wrth i arolwg diweddar Cymdeithas y Beibl ddangos bod ffydd wedi dod yn bwysicach i bobl - yn enwedig y to iau.

"Un gwahaniaeth mawr dwi 'di weld ar hyd y blynyddoedd yma yng Ngheredigion yw bod teuluoedd cyfan ddim yn dod i'r capel mwyach - cynrychiolydd sy' 'na a gan amlaf y wraig, y fam neu'r nain sy'n dod," meddai.

"Ond mae'n braf gweld bod newid, o bosib, ar droed."

Wrth gyfeirio at oedfaon arbennig, mae'n cofio am y tristwch wrth bregethu yn oedfa cau capel ei blentyndod sef Lewisham yn Llundain a hefyd pregethu o flaen tyrfa yn Newcastle pan oedd yn llywydd Eglwysi Rhyddion Cymru a Lloegr.

"Roeddwn i mewn neuadd enfawr ac yn cystadlu â sŵn band Byddin yr Iachawdwriaeth, ond roedd e'n brofiad arbennig iawn - diwrnod llawn brwdfrydedd."

Dywed yr Athro Williams ei fod yn teimlo bellach ei bod yn amser iddo roi'r gorau i bregethu, ond y bydd yn helpu yn ei bentref yng Nghapel Seion o hyd.

O ystyried yr hyn sydd wedi bod yn bwysig iddo ar hyd y degawdau, dywed bod rhoi cyd-destun amserol i'w bregethau wedi bod yn hanfodol.

"Dwi wedi ceisio rhoi pwyslais mawr ar adnabod y byd a'i amgylchiadau er mwyn cyrraedd y gynulleidfa - ac ydy, mae hi wedi bod yn daith ddifyr a phleserus dros ben."

Bydd cyfweliad yr Athro John Tudno Williams i'w glywed yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig