Cwpl lwcus o Bowys yn ennill y loteri... eto!

Roedd siawns Richard Davies a Faye Stevenson-Davies i ennill y loteri ddwywaith yn un mewn 24 triliwn
- Cyhoeddwyd
Mae cwpl o Aberhonddu wedi ennill £1m yn y Loteri Genedlaethol, a hynny am yr eildro!
Mae Richard Davies, 49, a Faye Stevenson-Davies, 43, wedi ennill er bod y siawns anhygoel o guro'r arian mawr eto yn un mewn 24 triliwn.
Roedd y ddau wedi dathlu eu buddugoliaeth gyntaf ar y rhifau lwcus saith mlynedd yn ôl.
Ond does gan y ddau ddim cynlluniau i roi'r gorau i'w swyddi ar ôl ennill y jacpot fis Tachwedd.
Bydd Mr Davies yn parhau i weithio'n llawn amser fel gyrrwr (courier) tra bydd Ms Stevenson-Davies, gweithiwr iechyd meddwl, yn parhau i gynnig cefnogaeth i'w chleifion dros wyliau'r Nadolig.
Dywedodd Mrs Stevenson-Davies "Roedden ni'n gwybod fod y posibiliadau o ennill eto yn anhygoel ond rydym yn brawf os ydych yn credu y gallwch ennill, gall unrhyw beth fod yn bosibl."

Y cwpl lwcus yn dathlu derbyn £1m am y tro cyntaf yn 2018
Mae'r tebygolrwydd o'r cwpl i ennill y ddwy loteri - EuroMillions Millionaire Maker yn 2018 ac yna pum rhif a'r bêl fonws ar y Lotto - yn fwy nag un mewn 24 triliwn, yn ôl arbenigwyr cwmni Allwyn, sy'n gyfrifol am y loteri genedlaethol.
Ar ôl ennill y £1m cyntaf, rhoddodd Ms Stevenson-Davies y gorau i'w gwaith fel nyrs iechyd meddwl ac aeth yn ôl i'r brifysgol, gan ennill gradd arall mewn cwnsela a gweithdrefnau therapiwtig.
Bellach, mae ganddi ei busnes ei hun, ac mae'n dweud nad oes ganddi gynlluniau i adael ei chleifion ar ôl ei llwyddiant.
Dywedodd Mr Davies, a oedd arfer bod yn dorrwr gwallt, iddo ddechrau ei swydd fel gyrrwr ddwy flynedd mae'n swydd mae'n "ei charu".
Mae'n defnyddio ei sgiliau i wirfoddoli gydag elusen Haircuts4Homeless yng Nghaerdydd, tra bod Faye'n coginio yn Cegin Hedyn yng Nghaerfyrddin.
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae pawb yn parhau i ofyn beth fyddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol, does gennym ddim syniad ar hyn o bryd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2024
