Oedi cyfraith ar ôl i ddynes gael ei llofruddio yn achos gofid i deulu

Jade WardFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jade Ward ei llofruddio gan ei chyn-bartner Russell Marsh yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dynes gafodd ei llofruddio gan ei chyn-bartner yn Sir y Fflint yn dweud eu bod mewn "sioc a gofid" ar ôl darganfod nad ydi cyfraith, gafodd ei sefydlu yn ei henw ddim wedi cael ei gweithredu, ddeunaw mis ers cael ei phasio yn Nhŷ'r Cyffredin.

Cafodd yr hyn sy'n cael ei adnabod fel Cyfraith Jade ei sefydlu yn dilyn ymgyrch gan deulu Jade Ward, gafodd ei llofruddio gan Russell Marsh yn 2021.

Bwriad y gyfraith ydi tynnu hawliau rhiant oddi ar unigolyn sydd wedi lladd cyn-bartner.

Galwodd ei rhieni am newid y gyfraith, ar ôl i Marsh ofyn am luniau o'r plant ac adroddiadau ysgol o'r carchar.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder eu bod "wedi ymrwymo i weithredu Cyfraith Jade mor sydyn ac mor ddiogel â phosib."

Teulu a ffrindiau Jade Ward y tu allan i Dŷ'r Cyffredin yn ystod eu hymgyrch yn 2022
Disgrifiad o’r llun,

Aeth teulu a ffrindiau Jade â'u hymgyrch i San Steffan ym mis Mehefin 2022, a chafodd Cyfraith Jade ei phasio ym mis Mai 2024

Cafodd Ms Ward, o Shotton, Sir y Fflint, oedd yn 27 oed, ei thrywanu a'i thagu gan Marsh tra roedd eu pedwar plentyn yn cysgu mewn ystafelloedd gerllaw.

Cafodd Marsh ddedfryd o garchar am oes yn 2022, ond yna dechreuodd ofyn i'w theulu am luniau o'r plant ac am gael gweld eu hadroddiadau ysgol.

Ymgyrchodd ei theulu dros gael cyfraith, fyddai'n tynnu hawliau rhiant oddi ar unigolyn wrth gael ei ddedfrydu mewn achosion o'r fath.

Roedd Cyfraith Jade yn rhan o'r Mesur Dioddefwyr a Charcharorion 2024, ond mae'r rhai oedd yn rhan o'r ymgyrch yn dweud nad ydi'r gyfraith wedi cael ei gweithredu, ac na all gael ei defnyddio.

Dywedodd mam Jade, Karen Robinson, bod y teulu wedi eu llorio o ddarganfod bod Marsh yn parhau i fod â hawliau rhiant, a'i bod yn torri ei chalon o wybod bod teuluoedd yn parhau i ddioddef oherwydd rhywbeth y dylai Cyfraith Jade ei atal.

"Fe wnaethon ni i gyd weithio mor galed, yn feddyliol, yn emosiynol," meddai.

"Roedden ni mor falch...o bawb. Roeddwn i'n meddwl na fyddai'n rhaid i unrhyw deulu arall fynd drwy'r hyn rydyn ni wedi bod drwyddo."

Paul Ward a Karen Robinson
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhieni Jade yn dweud eu bod wedi cael "siom fawr" o ddarganfod nad ydi Cyfraith Jade wedi cael ei gweithredu er mwyn helpu teuluoedd

Dywedodd tad Jade, Paul Ward nad oedd Marsh erioed wedi dangos unrhyw edifeirwch, a'i bod hi'n teimlo fel petai'n ceisio gwawdio'r teulu drwy geisio parhau i fod yn rhan o fywydau'r plant.

Y gyfraith newydd oedd un o'r rhai olaf i gael eu pasio cyn Etholiad Cyffredinol 2024, ac ar y pryd dywedodd Llywodraeth y DU y byddai'r gyfraith yn amddiffyn plant drwy atal pobl sydd wedi eu cael yn euog o ladd rhag gallu dylanwadu ar fywydau eu plant.

Mae'r gyfraith yn berthnasol i unrhyw un sydd wedi eu cael yn euog o lofruddio neu ddynladdiad rhywun y mae nhw'n rhannu cyfrifoldebau rhianta â nhw, ag eithrio achosion lle mae dioddefwr trais yn y cartref wedi lladd eu camdriniwr.

Yn ôl mam Jade, roedden nhw o dan yr argraff bod y gyfraith wedi bod yn gweithio i amddiffyn teuluoedd ers cael ei phasio, ac roedd darganfod bod yna rwystrau gweinyddol yn parhau yn "siom fawr", meddai.

Edwin Duggan
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ymgyrchydd Edwin Duggan yn apelio ar yr Ysgrifennydd Cyfiawnder i sicrhau bod Cyfraith Jade yn cael ei gweithredu

Ffrind i'r teulu a'r ymgyrchydd Edwin Duggan ysgrifennodd y fframwaith ar gyfer Cyfraith Jade, ac mae'n parhau i weithio gydag elusen sy'n cefnogi plant sydd â rhiant yn y carchar.

Dywedodd ei fod yn "ddig" ar ôl i un teulu ddweud wrtho'n ddiweddar nad oedden nhw wedi gallu gweithredu Cyfraith Jade, oherwydd bod y camau statudol sydd angen eu rhoi yn eu lle, yn atal llysoedd ar hyn o bryd rhag defnyddio'r gyfraith.

Mae Mr Duggan wedi ysgrifennu llythyr agored at yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, gan obeithio y bydd hynny'n gwthio'r broses i'r cyfeiriad cywir.

"Gorau po fwyaf o lofnodion y gallwn ni ei gael ar y llythyr agored er mwyn rhoi mwy o sail i'r hyn rwy'n ceisio ei ddweud wrth David Lammy," meddai.

'Wedi ymrwymo i weithredu'r gyfraith'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod eu "cydymdeimlad dwysaf" gyda theuluoedd dioddefwyr, a'u bod wedi "ymrwymo i weithredu Cyfraith Jade mor sydyn a mor ddiogel â phosib, fel bod teuluoedd yn cael eu hamddiffyn rhag trawma pellach".

Ychwanegodd eu bod yn "gweithio gyda phartneriaid" yn cynnwys awdurdodau lleol a Gwasanaeth Erlyn y Goron fel y gall y system orau fod yn ei lle ar gyfer y newid.

Jade Ward
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Jade Ward ei bod yn berson "caredig, hardd, doniol a gofalgar"

Bedair blynedd a hanner ers ei marwolaeth, mae rhieni Jade yn dweud eu bod eisiau i'r gyfraith y gwnaethon nhw frwydro drosti yn enw ei merch wneud yr hyn y mae hi i fod i'w wneud.

"Tydyn nhw ddim eisiau gwneud hyn ddim mwy," meddai Mr Ward.

"Rydyn ni wedi blino. Rydyn ni jest eisiau i Jade orffwyso."

Ychwanegodd Ms Robinson bod y cyfan yn dod ag "atgofion gwael yn ôl".

"Rydyn ni eisiau i'r cyfan fod drosodd fel y gallwn ni symud ymlaen a chael ychydig o heddwch, gan nad ydyn ni mewn gwirionedd wedi cael hynny eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig