Cyngor Sir Gâr yn derbyn cais Hen Galan gan y Fari Lwyd ac ysgol

Bu plant Ysgol Meidrim yn canu wrth Neuadd y Sir ar ddydd Calan Hen
- Cyhoeddwyd
Mae Ysgol Meidrim a'r Fari Lwyd wedi gofyn i Gyngor Sir Caerfyrddin wneud adduned blwyddyn newydd, sef i gydweithio â chymunedau er mwyn achub ysgolion lleol.
Daw hyn ar ddiwrnod lle'r oedd ymgynghoriad statudol ar gynnig i gau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro Llangyndeyrn i fod i agor.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ni ddigwyddodd hyn oherwydd bod gwaith i'w wneud ar y ddogfen Gymraeg gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd cynigion i ail-lunio'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn y sir "yn destun ymgynghoriad ffurfiol" ar 16 Ionawr.

Aeth y Fari Lwyd, rhieni, plant a llywodraethwyr Ysgol Meidrim i guro ar ddrws Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin ddydd Mawrth
Fis Tachwedd, penderfynodd aelodau cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin gymeradwyo cynlluniau i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llansteffan, ynghyd â dechrau cyfnod ymgynghori statudol ar ddyfodol Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro Llangyndeyrn.
Yn ôl y cyngor sir, roedd pob un o'r ysgolion yn seiliedig ar feini prawf a nodwyd yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg, oedd yn cynnwys ffactorau megis nifer isel iawn o ddisgyblion, nifer uchel o leoedd gwag a materion ynghylch cyllideb.
Roedd y cyfnod ymgynghori statudol ar gyfer y ddwy ysgol wedi ei benodi ar gyfer 13 Ionawr tan 24 Chwefror 2026.
A hithau'n ddiwrnod Calan Hen, aeth y Fari Lwyd, rhieni, plant a llywodraethwyr Ysgol Meidrim i guro ar ddrws Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin i gyflwyno cerdyn Calan i'r cynghorwyr.
'Fi ffili meddwl am effaith' cau tair ysgol Gymraeg yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025
Gallai pedair ysgol gynradd yn Sir Gâr orfod cau yn 2026
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2025
Roedd y cerdyn yn gofyn i gynghorwyr wneud adduned Blwyddyn Newydd, "i weithio gyda'r cymunedau lleol yn hytrach na'u distrywio".
Wedi ei lofnodi gan ddisgyblion Ysgol Meidrim, aeth y cerdyn ymlaen i ddweud: "Gwrandewch arnom ni, os gwelwch yn dda, i achub a datblygu ein hysgol."
Er y dyddiad penodedig, yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ni chafodd y cyfnod ymgynghori statudol ei agor fel y disgwyl ddydd Mawrth, oherwydd bod gwaith i'w wneud ar y ddogfen Gymraeg.

Mae'r cynlluniau i gau ysgolion Cymraeg yn "ergyd" i blant a rhieni, medd Ffred Ffransis
Dywedodd Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith bod y sefyllfa yn "anhygoel".
"Ni wedi cael gwybod neithiwr, nid yn unig bod y swyddogion am gau nifer o ysgolion Cymraeg mewn ardal lle mae prinder llefydd mewn addysg Gymraeg, ond maen nhw wedi creu'r dogfennau i gyd yn Saesneg a dydyn nhw ddim wedi eu cyfieithu nhw i'r Gymraeg mewn pryd i gychwyn yr ymgynghoriad heddiw.
"I Gymdeithas yr Iaith, ond yn bwysicach o lawer, i blant a rhieni'r ysgol, dyma ergyd arall iddyn nhw - yr ansicrwydd yma," meddai Mr Ffransis.

Mae Ann Jones a Jean Lewis yn anhapus gyda Cyngor Sir Caerfyrddin
Dywedodd Ann Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim, mai'r cyngor oedd wedi gosod y dyddiad ar gyfer agor yr ymgynghoriad statudol.
Mae hi wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters, yn rhannu ei rhwystredigaeth y bydd dechrau'r ymgynghoriad yn cael ei ohirio, oherwydd iddi hi hefyd gael gwybod nad oedd y fersiwn Gymraeg wedi'i chwblhau.
"Maen nhw'n gwybod y dyddiad ers misoedd ond yn gwneud esgus bod Nadolig wedi bod.
"Dyw hwnna ddim yn ddigon da. Mae fel tase nhw ddim yn cymryd y peth yn bwysig," meddai.
Yn ôl ffigyrau'r cyngor, roedd 31 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim ar adeg cynnal cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion ym mis Ionawr 2025, er bod capasiti ar gyfer 54 yno.
Y cynnig yw cau Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro Llangyndeyrn o 31 Rhagfyr 2026.

Dywedodd Oscar fod yr ysgol "yn bwysig i'n cymuned ni"
Yn ddisgybl yn Ysgol Meidrim dywedodd Oscar, 11, fod yr ysgol "yn bwysig i'n cymuned ni".
"Fi'n gallu cerdded i'r ysgol a gweld ffrindiau fi."
Bu Ceri Willingale yn ddisgybl yn Ysgol Meidrim ei hun. Mae hi bellach yn rhiant.
"Dwi yma achos mae mab fi yn mynd i'r ysgol ac oedd merch hynaf fi wedi mynd i'r ysgol hefyd.
"Mae Ysgol Meidrim yn rhan bwysig iawn o'r gymuned, mae e'n galon y gymuned a dwi yma heddiw i gefnogi'r ysgol."

Ysgol Meidrim ydy "calon y gymuned", yn ôl Ceri Willingale
Dywedodd Jean Lewis, Cynghorydd Ward Tre-lech ac yn un o Lywodraethwyr Ysgol Meidrim ei bod hi'n "gyfnod heriol iawn i'r cyngor sir".
"Fe fydd y cyngor sir yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn ystod yr wythnosau nesaf.
"Ond ar ôl dweud hynny, dyw'r arbediad fyddan nhw'n ei wneud o gau Ysgol Meidrim, tua £13,000 a falle llai, ddim yn cyfiawnhau cau'r ysgol."

Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin y bydd y cynigion "i ail-lunio'r ddarpariaeth ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin, fel rhan o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg, mewn perthynas âg Ysgol Meidrim ac Ysgol Y Fro, yn destun ymgynghoriad ffurfiol" ar 16 Ionawr.
"Bydd hyn yn rhoi cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach ddweud eu dweud ar y cynigion.
"Wedi'i nodi yn Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg y cytunwyd arni ym mis Tachwedd 2024 yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, mae'r ysgolion arfaethedig wedi'u clustnodi o dan yr ymarfer ail-fodelu.
Ychwanegodd y datganiad eu bod ar sail y meini prawf canlynol:
Nifer y disgyblion yn eithriadol o isel;
Nifer fawr o lefydd gwag a nifer fawr o'r disgyblion sy'n byw o fewn y dalgylchoedd yn mynychu ysgolion eraill;
Amcanestyniadau yn awgrymu nad yw'n debygol o gwbwl bydd nifer y disgyblion yn cynyddu'n ddigonol;
Diffyg yn y gyllideb neu ragweld diffyg yn y gyllideb o fewn y flwyddyn ariannol nesaf, gan arwain at sefyllfa ariannol anghynaladwy;
Costau adnewyddu anghynaladwy oherwydd oedran yr adeiladau.

"Ail-fodelu addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy" ydy bwriad Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg, medd Glynog Davies
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg, y Cynghorydd Glynog Davies: "Mae'n fwriad gan Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg i ail-fodelu addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gynaliadwy, tra'n sicrhau darpariaeth gytbwys i ddisgyblion ledled y sir.
"Byddai'r cynigion hyn yn helpu i fynd i'r afael â'r amgylchiadau heriol sy'n wynebu ysgolion unigol a'r system ysgolion ehangach.
"Mae'r rheiny'n cynnwys ysgolion yn gweithredu gyda niferoedd disgyblion llawer is na'r capasiti a fwriadwyd, a sefyllfaoedd ariannol anghynaladwy," meddai Mr Davies.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.