Mwy o alw am fwsogl - ond nifer y casglwyr proffesiynol yn lleihau

Tri yn casglu mwsogl mewn ardal niwlog
Disgrifiad o’r llun,

Mae casglwr mwsogl yn y canolbarth wedi rhannu ei brofiadau ar yr amod bod y BBC ddim yn datgelu'r union leoliad

  • Cyhoeddwyd

Mae'r galw am fwsogl wedi dyblu yn ystod y blynyddoedd diweddar - boed ar gyfer basgedi blodau yn y gwanwyn, torchau Nadolig yn y gaeaf neu i'w roi mewn fifariwm i'r rhai sy'n berchen ar geco neu igwana.

Mae Cymru wedi cael ei disgrifio fel y lle gorau yn y DU i'w gasglu gan fod yr amodau ar gyfer ei dyfu yn arbennig o ffafriol yma.

Serch hynny, mae nifer y bobl sy'n casglu mwsogl fel proffesiwn wedi lleihau yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Bangor - o tua 50 yn 2003 i 20 erbyn hyn.

Mae ffactorau fel mewnforio, rheolau llymach a phryderon amgylcheddol yn cymhlethu'r sefyllfa.

Graham Wilson yn dal cribin mewn ardal niwlog ble mae 'r tir yn drwch o fwsogl
Disgrifiad o’r llun,

Mae Graham Wilson yn dilyn hen draddodiad teuluol - ond er sawl newid dros y degawdau mae'r dull o gasglu mwsogl yr un mor syml ag erioed

Fel sawl ffermwr, mae Graham Wilson, 54, o Ddylife ym Mhowys yn arallgyfeirio, ac un o'i fentrau yw casglu mwsogl yn ardaloedd mwyaf niwlog yr Elenydd.

Yn hynny o beth, mae'n dilyn traddodiad a ddechreuodd yn y 1950au - ef yw trydedd cenhedlaeth y teulu i gasglu mwsogl yn fasnachol.

"Roedd fy nhaid i arfer mynd â mwsogl gyda cheffyl a chert i'r orsaf leol ym Machynlleth ar gyfer dinasoedd fel Lerpwl a Menceinion," dywedodd.

"Wedi 12 mis, wnaethon nhw lwyddo i arbed digon o arian i brynu fan fach, ac yna lorri i gludo'r mwsogl."

Erbyn hyn, mae Graham yn casglu hyd at 10,000 o fagiau y flwyddyn, gan gystadlu â mewnforion o China, Chile a Seland Newydd.

Ond mae'r gwaith casglu ei hun yr un fath ag erioed: "Does dim wedi newid - cribinio a'i roi mewn bag."

Fe gytunodd Graham i BBC Cymru ei ddilyn wrth iddo gasglu ar un amod - sef peidio â datgelu'r union leoliad.

Mae hynny ar gais y tirfeddiannwr, sy'n gorfod rhoi caniatâd i gasglu mwsogl.

Jenny Wong yn yr awyr agored mewn ardal wledig - mae pecynnau mwsogl ar y llawr y tu ôl iddi
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai casglwyr yn amharod i fod yn rhan o waith ymchwil Jenny Wong

Jenny Wong sy'n gyfrifol am ymchwil Prifysgol Bangor i'r diwydiant.

Doedd dim awydd gan fwyafrif y casglwyr i fod yn rhan o'i hymchwil.

Mae hi'n credu nad oedden nhw am ddatgelu'r hyn maen nhw'n ei wneud na rhannu gwybodaeth fasnachol.

"Roedd rhai ddim am i ni amharu ar eu gwaith," meddai.

"Weithiau, dydy pobol sy'n hoffi bod i fyny yn y mynyddoedd a'r glaw ddim y bobol fwyaf cymdeithasol," awgrymodd.

"Dydy'r rhan fwyaf o bobol ddim yn ei weld yn digwydd."

Llun agos o fwsogl
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna hen hanes o gasglu a gwerthu mwsogl, medd Jenny Wong

"Mae'n debyg bod casglu mwsogl wedi digwydd yng Nghymru cyn belled yn ôl â'r Rhyfel Byd Cyntaf pan gafodd ei ddefnyddio i rwymo [anafiadau rhyfel].

"Cymru yw'r lle gorau ar gyfer casglu mwsogl yn y DU. Ar yn adeg roedd llwythi sawl lori yn mynd i'r farchnad Ewropeaidd.

"Mae gyda ni fantais dros gystadleuwyr oherwydd mae gyda ni'r amodau delfrydol i'w dyfu."

Ffred Kehoe mewn coedwig ble mae mae mwsogl yn gorchuddio'r tir
Disgrifiad o’r llun,

Does dim bwriad gwahardd casglu mwsogl, medd Ffred Kenoe o Gyfoeth Naturiol Cymru, ond mae angen i gasglwyr roi mwy o fanylion nawr nag yn y gorffennol er mwyn cael trwydded

Mae newidiadau wedi dod yn sgil tynhau rheolau a phryderon amgylcheddol am figwyn (sphagnum) – mwsogl y gors sy'n troi i fawn - ond mae casglu mwsogl cyffredin yn fasnachol yn dal yn gyfreithlon yng Nghymru, cyn belled â bod gan y casglwyr drwydded.

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy'n rheoli coedlannau cyhoeddus, bod dim cynlluniau i wahardd casglu mwsogl, ond maen nhw'n mynnu mwy o fanylion nawr gan gasglwyr cyn rhoi caniatâd.

Mae pob achos yn cael ei asesu'n unigol, medd Ffred Kehoe, Uwch-swyddog Rheoli Tir gyda CNC, sy'n cynnwys cael manylion union leoliadau gan gasglwyr sy'n draddodiadol wedi gwneud y gwaith ar sail ymddiriedaeth.

"Mae'r amser mae'n ei gymryd i ni edrych ar y safleoedd ble maen nhw eisiau gweithio a monitro'r hyn maen nhw'n ei wneud hefyd yn ffactor," eglurodd.

"Rhaid ystyried faint o adnoddau staff sydd gyda ni ar gyfer hynny, ond dydyn ni ddim yn ei wrthwynebu."

Mwsogl mewn coedwig
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwsogl yn tyfu'n ôl yn gyflymach yn ddiweddar, medd Graham Wilson - o bosib yn sgil newid hinsawdd

Fe gafodd trwydded Graham Wilson ei hadnewyddu yn ddiweddar i gasglu mwsogl yng nghoedwig Hafren, ble mae'n casglu tua chwarter ei gyflenwad.

Mae'n cydnabod yr angen i weithio gyda'r awdurdodau, ond yn credu bod angen mwy o gefnogaeth i gasglwyr fel rhan o ddiwydiant traddodiadol, cynaliadwy all ffynnu unwaith yn rhagor.

"Mae wedi bod yn ddiwydiant dirgel ond mae'r galw yna nawr am y mwsogl," meddai.

Mae Graham wedi sylwi bod y galw hwnnw'n tyfu.

"Mae'r hinsawdd yn newid, mae'r gaeaf yn fwy gwlyb, mae'r haf yn fwy sych ac mae'r mwsogl i'w weld yn tyfu'n gyflymach.

"Roedd yn arfer tyfu'n ôl mewn pum mlynedd - nawr mae'n dair blynedd."

Ychwanegodd ei fod "gwneud yn iawn" gyda chasglwyr eraill "ond dydyn ddim yn cyfarfod gymaint â hynny. Mae pawb â'u patch eu hunain".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.