Dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru cerbyd JCB mewn i dafarn

Roedd difrod i du blaen tafarn y New Inn yng Nghefn Rhigos yn amlwg fore Gwener
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau bod rhywun wedi gyrru cerbyd JCB mewn i dafarn yn Hirwaun.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Smiths am tua 20:45 ble daeth i'r amlwg fod yr unigolyn hefyd wedi gyrru dros gar gwag oedd wedi parcio ar y stryd.
Mae dyn 35 oed o Rigos wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio achosi niwed corfforol difrifol, gyrru yn beryglus, gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ac achosi difrod troseddol.
Mae'r dyn yn yr ysbyty ar hyn o bryd, ond ni chafodd unrhyw un arall eu hanafu yn y digwyddiad.
Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad bod lle i gredu fod y digwyddiad yn un oedd wedi ei dargedu a'u bod yn ymchwilio i'r amgylchiadau arweiniodd ato ar hyn o bryd.
Adroddiad Meleri Williams, gohebydd BBC Cymru, o'r safle fore Gwener
Dywedodd un o ohebwyr BBC Cymru oedd ger safle'r digwyddiad fore Gwener fod y portsh ar du blaen tafarn y New Inn yng Nghefn Rhigos yn edrych fel ei fod wedi ei ddinistrio.
Mae'r to wedi disgyn i'r llawr ac mae'r waliau wedi eu difrodi yn sylweddol, meddai.
Mae pobl leol wedi dweud wrth y BBC fod y cerbyd JCB wedi cael ei weld yn gyrru i ffwrdd o'r safle am tua 20:45 nos Iau.
Dywedodd tafarn y New Inn mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol fore Gwener eu bod ar gau nes clywir yn wahanol "yn sgil amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld".
Roedd rhan o Ffordd Rhigos ar gau fore Gwener tra bod ymchwiliadau'r heddlu yn parhau, ond mae bellach wedi ailagor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.