Pryder am dangyfrif nifer y carcharorion sy'n siarad Cymraeg

Dim ond 4.1% o boblogaeth Carchar y Berwyn, Wrecsam oedd yn siaradwyr Cymraeg ar ddiwedd Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd
Mae pryderon bod nifer y carcharorion sy'n siarad Cymraeg yn cael ei dangyfrif.
Dywed Dr Robert Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, bod "diffyg data a gwybodaeth am y Gymraeg mewn carchardai wedi bod yn thema sy'n codi dro ar ôl tro mewn dadleuon ar garcharu yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf".
Un o'r ymrwymiadau yng nghynllun iaith y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf yw cofnodi data am y Gymraeg, a dywedodd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, wrth y BBC y bydd hi'n ystyried a ydy hyn yn digwydd fel rhan o ymchwiliad statudol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai wrth y BBC bod eu Cynllun Iaith 2024-27 yn "nodi camau pendant i ehangu gwasanaethau'r iaith Gymraeg a gwella data ar siaradwyr, ond bydd yn cymryd amser i gynhyrchu data mwy cadarn".
Mae data swyddogol y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos, ar gyfartaledd, fod 192 o garcharorion yn siarad Cymraeg yng Nghymru yn 2024.

Mae pryderon am "anghywirdeb data" meddai Dr Robert Jones, uwch ddarlithydd ar gyfundrefn cyfiawnder troseddol Cymru
Dywedodd Dr Robert Jones wrth bwyllgor cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol Senedd Cymru: "Yn seiliedig ar nifer cyfartalog y Cymry (yn seiliedig ar gyfeiriad cartref) mewn carchardai Cymru yn 2024, mae ffigyrau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos mai dim ond 5.3 y cant o boblogaeth carchardai Cymru oedd yn siaradwyr Cymraeg yn 2024.
"O ystyried bod 12.6 y cant o boblogaeth Cymru 16 oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg (Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2022a), mae'r wybodaeth a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ychwanegu at bryderon presennol ynghylch anghywirdeb data a'r posibilrwydd o dangyfrif carcharorion sy'n siarad Cymraeg.
"Er gwaethaf ymrwymiadau dro ar ôl tro gan y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf i gasglu gwybodaeth am ddewisiadau iaith Gymraeg carcharorion, mae adroddiadau arolygu blaenorol yng Ngharchar Parc [Pen-y-bont ar Ogwr] a Charchar y Berwyn [Wrecsam] yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd yn gyson ar draws ystad carchardai Cymru o hyd.
"Yng Ngharchar y Berwyn, lle'r oedd tua dwy ran o dair (65 y cant) o boblogaeth y carchar o'r tu allan i Gymru ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024, dim ond 4.1 y cant o boblogaeth gyffredinol y carchar oedd yn siaradwyr Cymraeg."

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisiau i'r gwasanaeth carchardai ddod o dan gyfundrefn safonau'r Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi penderfynu agor ymchwiliad statudol o dan Adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 i'r modd y caiff y Gymraeg ei thrin ar draws y Gwasanaeth Carchardai a Phrawf.
Daw'r ymchwiliad wedi cwynion gan gyn-garcharorion yng ngharchar mwyaf Cymru bod staff yn gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg.
Dywedodd y comisiynydd wrth y BBC am y gwasanaeth a'u hymdriniaeth o'r Gymraeg: "Un o'r ymrwymiadau yn eu Cynllun Iaith presennol yw y byddant yn cofnodi data am y Gymraeg a byddaf yn ystyried a ydy hyn yn digwydd fel rhan o'r ymchwiliad.
"Byddaf yn cyhoeddi canlyniadau'r ymchwiliad unwaith y bydd wedi ei gwblhau."
Mae'r comisiynydd wedi galw am ymestyn ei grymoedd i gyflwyno safonau'r Gymraeg i garchardai - ac unrhyw gyrff neu asiantaethau'r goron.
Dywedodd fis diwethaf ei bod wedi clywed "pryderon difrifol" gan garcharorion yng Ngharchar y Berwyn am eu gallu i gael mynediad i radio a theledu Cymraeg, gwasanaethau crefyddol Cymraeg, a hyd yn oed cael yr hawl i siarad Cymraeg.
'Cryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg'
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Rydym yn croesawu'r defnydd o'r iaith Gymraeg gan garcharorion, ymwelwyr a staff, ac rydym yn gweithio gyda swyddfa Comisiynydd y Gymraeg i gryfhau hawliau siaradwyr Cymraeg ar draws pob carchar yng Nghymru a Lloegr.
"Mae ein Cynllun Iaith 2024-27 bellach wedi'i gymeradwyo gan y comisiynydd – gan nodi camau pendant i ehangu gwasanaethau'r iaith Gymraeg a gwella data ar siaradwyr, ond bydd yn cymryd amser i gynhyrchu data mwy cadarn."
Nid oedd Llywodraeth Cymru am wneud sylw.
Ar gyfartaledd, roedd 57 o garcharorion Cymraeg eu hiaith mewn carchardai yn Lloegr yn 2024.
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2024, roedd carcharorion Cymraeg eu hiaith mewn 34 o garchardai yn Lloegr.
Mae data'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dangos bod 32 o swyddogion carchar yn siaradwyr Cymraeg yng Nghymru (ac eithrio Parc) yn 2024.
Ar gyfartaledd, roedd un o bob deg (10%) o swyddogion carchar yng Nghymru yn siaradwyr Cymraeg y llynedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd23 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2018
