Comisiynydd y Gymraeg eisiau mwy o rym wedi 'pryderon difrifol' carchardai

Mae Comisiynydd y Gymraeg eisiau i'r gwasanaeth carchardai ddod o dan gyfundrefn safonau'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi galw am ymestyn ei grymoedd i gyflwyno safonau'r Gymraeg i garchardai - ac unrhyw gyrff neu asiantaethau'r goron.
Daw sylwadau Efa Gruffudd Jones wrth iddi roi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan ddydd Mercher.
Dywedodd ei bod wedi clywed "pryderon difrifol" gan garcharorion yng Ngharchar Berwyn, Wrecsam, am eu gallu i gael mynediad i radio a theledu Cymraeg, gwasanaethau crefyddol Cymraeg, a hyd yn oed cael yr hawl i siarad Cymraeg.
Wrth roi tystiolaeth, eglurodd y comisiynydd wrth ASau pam ei bod hi wedi agor ymchwiliad i'r cynllun iaith o fewn carchardai, gan ddweud ei bod hi "wedi gweld gyda'n llygaid fy hun nad yw pethau fel dylsen nhw fod, yn benodol yng Ngharchar Berwyn".
'Gorfodi siaradwyr Cymraeg i droi i'r Saesneg' yng ngharchar y Berwyn
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2025
Dywedodd y comisiynydd ei bod wedi clywed tystiolaeth "gan fwy nag un grŵp o garcharorion, yn annibynnol o'i gilydd, oedd yn codi pryderon difrifol".
"Dydyn nhw ddim yn gallu gwrando ar Radio Cymru nac S4C yn eu celloedd nhw," meddai.
"Mae gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn cymryd llawer hirach i'w cyrraedd nhw, os yn cyrraedd o gwbl - mae hynny yn wir am e-byst ac am lythyrau."
Ychwanegodd bod carcharorion wedi dweud wrthi eu bod "wedi cael eu gwahardd rhag siarad yn y Gymraeg gyda'i gilydd" ac nad oes ganddyn nhw fynediad i wasanaethau crefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Iau, dywedodd: "Does dim gwaith addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae nhw am weld cyrsiau am ddiwylliant Cymru."
Dywedodd bod "materion sy'n ymwneud â'r Gymraeg a hunaniaeth yn hynod bwysig i garcharorion".
Un o'r gobeithion yn ôl y comisiynydd oedd y byddai mwy o staff sy'n siarad Cymraeg yn y carchar.
"Mae'n sefydliad enfawr ond dwi'n siwr fod 'na bethau pellach y gellir eu rhoi mewn lle er mwyn gwella'r sefyllfa yn y carchar."

Agorodd Carchar Berwyn yn 2017
Dywedodd y comisiynydd ei bod yn gallu cynnal ymchwiliad a rhoi argymhellion ond nad oes ganddi bwerau gorfodi pan mae'n dod i garchardai.
"Dyna pam dwi yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod y gwasanaeth carchardai a chyrff tebyg yn dod o dan gyfundrefn safonau'r Gymraeg," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn falch o'r hyn sydd wedi ei gyflawni yn ystod tymor hwn y Senedd wrth ymestyn safonau'r Gymraeg i reoleiddwyr iechyd, cwmnïau dŵr, a chyrff cyhoeddus eraill. Bwriadwn hefyd roi rheoliadau terfynol ar gyfer cymdeithasau tai ddechrau yn 2026.
"Mae penderfynu blaenoriaethau a pharatoi cynllun gweithredu y tu hwnt i'r tymor hwn yn fater i'r llywodraeth nesaf."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.