'Poeni am ddiogelwch yn rhan o swydd' DJs benywaidd

Llun menyw yn sefyll wrth ddesg DJ yn gweithio mewn clwb.
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r menywod sy'n gweithio yn y maes ac sydd wedi siarad gyda'r BBC yn dweud eu bod nhw'n poeni am eu diogelwch

  • Cyhoeddwyd

Mae nifer o fenywod sy'n gweithio fel DJs yng Nghymru yn dweud bod pryderon am eu diogelwch, aflonyddu a diffyg cydraddoldeb yn dal i fod yn rhan annatod o'u bywydau gwaith.

Wrth rannu profiadau maen nhw'n dweud eu bod yn "teimlo'n ofn yn y gweithle", bod dynion yn "stelcian" a'i bod hi'n "anoddach i fenywod" yn y diwydiant.

Mae rhai DJs wedi gwrthod siarad â'r BBC, gan ddweud bod eu profiadau wedi bod mor anodd fel nad ydyn nhw'n teimlo'n barod i siarad amdanyn nhw'n gyhoeddus.

Ond mae'r pedair sydd wedi rhannu eu profiadau yn galw am "fwy o addysg o fewn y diwydiant, yn enwedig i dimau diogelwch, er mwyn sicrhau bod DJs yn cael eu diogelu'n well."

'Bendant yn anoddach i fenywod'

Wedi gweithio yn Llundain, Bryste a chlybiau ledled Cymru, mae Esyllt Williams yn DJ profiadol.

Ond yn ystod ei gyrfa 20 mlynedd dywed ei bod wedi profi ochr dywyll y maes, yn enwedig fel DJ benywaidd.

"Ma'n bendant yn anoddach i fenywod gan fod 'na lot o ragfarn yn erbyn chi a ma' pobl yn trin chi yn wahanol.

"Mae'n anoddach cael gigs ac mae e hefyd yn anoddach cael mewn i bethau."

Yn ôl Esyllt, mae bod yn DJ benywaidd yn golygu bod pobl yn aml yn ei chwestiynu a'i thrin hi'n wahanol.

"Mae 'na lot o bobl yn gofyn os taw fi yw'r DJ hyd yn oed os ydw i'n gwisgo'r headphones a fi yw'r unig berson sy yna.

"Ma pobl yn meddwl bod gyda nhw'r hawl i siarad am be chi'n gwneud, pobl yn trio dod mewn i'r booth, cyffwrdd pethau, cyffwrdd yr offer, cyffwrdd chi.

"Mae pobl hefyd yn gwneud i mi deimlo yn eithaf anniogel weithiau, sefyll rhy agos, twtchad bach gormod," ychwanegodd.

Llun o Esyllt yn eistedd ar soffa oren mewn swyddfa. Mae'n edrych ar y camer ac mae ganddi gwallt a llygaid brown. Mae'n gwisgo crys-t du.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Esyllt yn dweud ei bod hi wedi profi trais wrth weithio fel DJ yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf

Yn ystod blynyddoedd o weithio mewn clybiau nos, dywed Esyllt ei bod wedi dod i ddisgwyl profiadau negyddol fel rhan o'r swydd.

Mewn un digwyddiad dywed fod dyn meddw wedi mynd yn dreisgar ac wedi "dal dwylo fi a bango nhw yn erbyn y gwydr".

"Roedd yn rhaid i'r bouncers ddod i'w helpu gan fod y dyn yn gwrthod gadael fynd."

Disgrifiad,

Mae Katie'n ofni hysbysebu ei gwaith ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl profiadau gwael wrth weithio

Mae'r heriau mae Esyllt wedi wynebu yn rhai mae'r DJ Katie Owen, sy'n wreiddiol o Ferthyr Tudful, yn gallu uniaethu â nhw hefyd.

Mae ei wyth mlynedd yn gweithio fel DJ wedi cynnwys uchafbwyntiau mawr.

Ond mae rhai profiadau wedi ei gadael yn teimlo'n arbennig o fregus.

"Mae dynion trio cydio ynof a fy nghusanu ac un tro fe wnaeth rywun drio dilyn fi ar y night bus," meddai Katie.

"Mae pobl yn gweud bod ti ond yn DJ yma achos ti'n cysgu efo'r promoter.

"Ma'n gwneud fi teimlo yn rili trist, o'n i angen stopio postio gigs fi ar social media achos o'n i'n poeni bod stalker fi am troi lan."

Ychwanegodd: "Dwi'n osgoi neud lot o gigs nawr achos allai ddim delio efo'r holl harrassment."

'Fi'n teimlo ofn yn y gweithle'

Llun o Molly yn eistedd ar gadair wrth ymyl desg stiwdio radio. Mae'n edrych at y camera. Mae ganddi wallt a llygaid brown a sbectol gron. Mae'n gwisgo siwmper du.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly'n galw am fwy o addysg i weithwyr o fewn y diwydiant er mwyn gwella diogelwch

Mae teimlo'n anniogel wedi bod yn brofiad cyffredin i Molly Palmer hefyd.

"Fi wedi cael dynion yn gweiddi arnai, fi wedi cael dynion yn taflu pethau atai, ma gen i fideo o pan o'n i'n ffilmio y gynulleidfa mewn clwb a nath rhywun taflu potel ar fy mhen i," meddai Molly, sydd wedi gweithio fel DJ ers dros bum mlynedd.

"Fi yn cael dynion yn dod ato fi trwy'r amser.... yn ceisio intimidato fi ac yn gweud bod fi ddim yn gwybod be fi'n neud, a mae hyn mor dorcalonnus achos fi wedi bod yn gwneud hyn am amser hir."

Ychwanegodd: "Fi'n gwybod am lwyth o ddynion sy'n DJs a dydyn nhw ddim angen delio efo hyn."

Mae Molly yn meddwl bod angen addysgu pobl o fewn y diwydiant, yn enwedig timau diogelwch, er mwyn sicrhau bod DJs yn cael eu hamddiffyn yn well.

"Dyw e ddim yn iawn fod menywod fel fi yn mynd i'r gwaith yn gwybod bod nhw am dderbyn rhyw fath o verbal abuse neu abuse rhywiol."

Ychwanegodd: "Gobeithio yn y dyfodol bydd modd gweld mwy o amrywiaeth ar y lineups a thegwch yn y clybiau tuag at fenywod sy'n gweithio yna."

Llun o Trishna yn eistedd ar soffa oren yn swyddfa. Mae'n edrych ar draws y camera. Mae ganddi wallt du a llygaid brown. Mae'n gwisgo siaced borffor a sgarff pinc patrymog
Disgrifiad o’r llun,

Mae Trishna wedi sefydlu grwp penodol sy'n cefnogi menywod o fewn y diwydiant cerddoriaeth

Mae Trishna Singh Davies wedi sefydlu grŵp sydd wedi creu "man saff" i fenywod i allu gweithio, dysgu a chael hyfforddiant yn y maes.

Yn ôl Trishna, y nod yw herio'r diffyg cydraddoldeb sydd wedi bodoli yn y diwydiant ers blynyddoedd.

"Mae'r gwaith rydyn ni'n ei wneud yn Ladies of Rage yn mynd i'r afael â hyn i gyd, fel pan fydd fy mabi tri mis oed yn 21, bydd hi'n gweld y diwydiant cerddoriaeth fel maes chwarae teg.

"Fydd hi ddim yn gorfod dioddef unrhyw sexism yn y gweithle.

"Mae'n bryd sylweddoli dim maes i ddynion yn unig yw hwn – mae'n un i bawb sydd â'r sgil, y dalent a'r angerdd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig