Dyn o Geredigion yn pledio'n euog i dwyll bridio cŵn anghyfreithlon

Mae Thomas John Jones wedi pledio yn euog i fod yn rhan o fusnes at ddiben twyllodrusFfynhonnell y llun, Athena Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Thomas John Jones wedi pledio yn euog i fod yn rhan o fusnes at ddiben twyllodrus

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o Geredigion wedi pledio yn euog i gyhuddiad o fod yn rhan o fusnes at ddiben twyllodrus er mwyn bridio cŵn bach yn anghyfreithlon.

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Thomas John Jones, o Brengwyn ger Llandysul, yn ymestyn yn ôl i 1 Mawrth 2015 pan oedd yn 17 oed, tan 16 Tachwedd 2023.

Mae'r cyhuddiad yn ymwneud gyda menter i fridio a chyflenwi cŵn yn anghyfreithlon a allai olygu celu hanes y cŵn, darparu dogfennau neu wybodaeth ffug a chynnal y gweithgaredd heb y drwydded addas.

Cyngor Sir Ceredigion oedd yn erlyn gyda chymorth tîm safonau masnach cenedlaethol.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod menyw arall, Nerys Wyn Davies sy'n 55 oed ac o Aberbanc ger Penrhiwllan, eisoes wedi pleidio'n euog i'r un cyhuddiad mewn gwrandawiad blaenorol ar 9 Rhagfyr.

Cafodd tri o unigolion rybudd ffurfiol, sef David Bethell 37 oed o Saron, Llandysul; Cara Barrett, 39 oed o Gaerfyrddin a David Peter Jones, 77 oed o Landysul, sy'n golygu eu bod wedi derbyn cyfrifoldeb am yr un cyhuddiad.

Penderfynodd yr erlyniad i beidio â chynnig tystiolaeth yn erbyn Margaret Ann Jones, 71 oed, ac fe gafwyd hi'n ddieuog yn ffurfiol gan y Barnwr Huw Rees.

Fe fydd pump o ddiffynyddion eraill yn sefyll eu prawf ar 9 Tachwedd 2026;

  • Y Cynghorydd Euros Davies, 60 oed o Gwmsychpant ger Llanybydder;

  • Sara Pritchard Davies, 28 oed – cyn-enillydd Cân i Gymru yn 2024;

  • Rebecca Bailey, 30 oed o Langrannog;

  • Rhydian Davies, 28 oed o Brengwyn;

  • Delyth Mathias, 29 oed o Gaerdydd.

Pynciau cysylltiedig