Pedwar yn pledio'n ddieuog wedi marwolaeth dyn 22 oed

Bu farw Liam Woolford yn Rhydyfelin ar 23 Medi
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiadau'n ymwneud â marwolaeth dyn 22 oed yn Rhondda Cynon Taf ym mis Medi.
Bu farw Liam Woolford, o Borth, yn dilyn digwyddiad yn Rhydyfelin yn oriau mân 23 Medi.
Mae pump o bobl wedi eu cyhuddo mewn cysylltiad â'r farwolaeth.
Yn Llys y Goron Caerdydd dydd Llun fe wnaeth Ethan Ross, 23, Abeyshake Karunanithy, 22, a Zoe Peters, 36, wadu cyhuddiadau o geisio llofruddio, anafu gyda bwriad ac anrhefn dreisgar.
Fe wnaeth Mr Ross a Mr Karunanithy hefyd wadu cyhuddiad o fod â chyllell yn eu meddiant.
Clywodd y llys bod y cyhuddiadau o geisio llofruddio ac anafu gyda bwriad yn ymwneud â diffynnydd arall yn yr achos - Jake Staples.
Fe wnaeth Mr Staples, 24, ymddangos yn ddiweddarach gan bledio'n ddieuog i gyhuddiadau o lofruddiaeth yn ymwneud â Mr Woolford, ceisio llofruddio ac anafu gyda bwriad mewn cysylltiad â Mr Ross, a dau gyhuddiad o anafu gyda bwriad yn ymwneud â Mr Karunanithy.
Fe wnaeth Mr Staples hefyd wadu cyhuddiad o anrhefn dreisgar, ond plediodd yn euog i fod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd y pedwar eu cadw yn y ddalfa, gydag 16 Mawrth wedi'i bennu fel dyddiad ar gyfer yr achos.
Ni wnaeth pumed person - Jesse Wandera, 30, sydd wedi'i gyhuddo o gynllwynio i anafu - ymddangos yn y llys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Medi 2025
