Swyddfa'r Post: 'Gobeithio bydd erlyniadau ond ddim yn dal fy ngwynt'

Roedd Dewi Lewis yn gynghorydd sir ac yn rhedeg is-swyddfa bost yn ei siop ym Mhenrhyndeudraeth cyn cael ei erlyn a'i garcharu ar gam yn 2011
- Cyhoeddwyd
Mae cyn is-bostfeistr o Wynedd a gafodd ei garcharu ar gam yn sgil sgandal Horizon y Swyddfa'r Post yn dweud bod rhaid canolbwyntio ar "symud ymlaen" gyda'i fywyd, er mor araf y camau i sicrhau cyfiawnder llawn i'r holl ddioddefwyr.
Roedd Dewi Lewis, oedd yn rhedeg is-swyddfa bost ym Mhenrhyndeudraeth, ymhlith dros 700 o bobl a gafodd eu cyhuddo a'u herlyn ar gam oherwydd gwallau system gyfrifiadurol Horizon.
Fe dreuliodd bedwar mis dan glo yn 2011 wedi i'r system awgrymu bwlch anesboniadwy o dros £50,000 yn ei gyfrifon, ond fe gafodd ei euogfarn ei dileu yn 2024.
Dywedodd wrth raglen Dros Frecwast ei fod yn "gobeithio'n fawr fydd 'na achosion ac erlyniadau'n digwydd, ond dwi'm yn dal fy ngwynt", wedi i'r heddlu gadarnhau ddechrau'r wythnos eu bod yn ystyried cyhuddiadau posib o ddynladdiad corfforaethol.
Daeth ei sylwadau mewn sgwrs yn edrych yn ôl ar flwyddyn a welodd gyhoeddi adroddiad cyntaf ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal, dan gadeiryddiaeth y cyn-farnwr Uchel Lys o'r Rhondda, Syr Wyn Williams.
Fe nododd hwnnw bod effaith y sgandal ar is-bostfeistri wedi bod yn "drychinebus" a bod ymddygiad swyddogion Swyddfa'r Post a Fujitsu - oedd yn gyfrifol am system gyfrifiadurol Horizon - yn "gwbl annerbyniol".
Dywedodd Mr Lewis y "bydd hi'n ddiddorol iawn" gweld casgliadau ail adroddiad Syr Wyn, a bod ymgyrchwyr ac is-bostfeistri'n "gobeithio bydd hwnnw yn dod hanner cynta'r flwyddyn" newydd.

Mae sgandal Swyddfa'r Post yn cael ei hystyried yr achos gwaethaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes y DU
Dywedodd Mr Lewis bod pob adroddiad a datblygiad yn yr ymdrechion i sicrhau cyfiawnder "yn ailagor y briwiau" ond mae'n falch bod adroddiad cyntaf Syr Wyn wedi "cadarnhau be' oeddan ni'n gyd yn 'i wybod ac yn meddwl oedd yn digwydd".
Un o'r sgil-effeithiau "anodda', yn gyhoeddus" i Mr Lewis oedd colli ei safle fel cynghorydd sir oedd "yn arwain ar yr economi yng Ngwynedd am flynyddoedd".
"Ga'th hynny i gyd ei gymeryd i ffwrdd dros nos," meddai.
"Dwi'm yn meddwl bod neb yn medru cywiro be gollish i, [yr hyn] o'n i'n medru 'neud dros fy nghymuned ac yn ehangach. 'Di hwnnw byth yn mynd i ddod yn ôl, 'di'r otsh be' 'di'r iawndal.
"Dwi'n goro roid o tu cefn i fi a symud ymlaen neu 'sa rhywun yn medru mynd yn chwerw iawn, a'r cyfan ma' rhywun yn 'neud wedyn ydi dinistrio fy hun.
"Dwi'n trio adeiladu i'r dyfodol ŵan."

Erthygl ar wefan Newyddion BBC Cymru o 2011 yn nodi dedfrydu Dewi Lewis i gyfnod o garchar - fe gollodd ei enw da am gyfnod hir yn sgil yr erlyniad
"Braf", meddai, oedd cael 2025 "cymharol ddistaw" wedi 2024 llawn datblygiadau allweddol.
Roedd y rheiny i raddau helaeth yn sgil ymateb y cyhoedd i'r gyfres ddrama Mr Bates v The Post Office - ymateb a gynyddodd y pwysau ar Lywodraeth y DU i gyflymu'r broses o sicrhau cyfiawnder a iawndal i is-bostfeistri.
Y llynedd hefyd y cafodd Dewi Lewis ei enw da yn ôl yn swyddogol, wedi diddymiad ei euogfarn.
Ond mae cryn ffordd eto i fynd, mae'n dweud, gan deimlo bod datganiadau'r awdurdodau'n "dod drosodd fel geiria' gwag yn aml iawn".
Gan ymateb i'r cadarnhad bod cyhuddiadau o ddynladdiad corfforaethol bellach dan ystyriaeth, dywedodd bod "rhaid i ni weld be' ddigwyddith".

Roedd rhan gyntaf yr adroddiad - a gafodd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf - yn canolbwyntio ar y broses o dalu iawndal ac effaith ddynol y sgandal
Gan gyfeirio at adroddiad ddechrau'r wythnos i'r ffordd y deliodd yr heddlu â thrychineb Hillsborough, dywedodd: "Mae'r sefydliad yn medru cymryd oesoedd i gyfiawnhau ac i weld cyfiawnder yn digwydd.
"Os fysan ni jyst yn disgwyl am hynny, fysan ni ddim yn symud ymlaen efo'n bywydau.
"Dwi'n gobeithio'n fawr bydd 'na erlyniada' ond dwi'm yn dal fy ngwynt."

Noel Thomas (canol) a'i fab Edwin (olaf ar y dde) yn cyfarfod rhai o gast cynhyrchiad Theatr Fach Llangefni am y sgandal, STAMP
Roedd sawl rheswm arall i Dewi Lewis gofio 2025, gan gynnwys llwyddo i werthu ei fusnes a phrynu cartref newydd.
Uchafbwynt arall oedd y ddrama STAMP, am hanes erlyn a charcharu Noel Thomas - y cyn is-bostfeistr o Ynys Môn a gafodd ei bortreadu hefyd yn y gyfres ddrama Mr Bates v The Post Office.
"Oedd honno'n ddirdynnol o agos at ei lle, ac roedd hi'n fraint ca'l bod yn Theatr Fach Llangefni i fod yn dyst i ddrama mor wych...
"Dwi'n weddol ffodus - mae'n iechyd i yn weddol, ond mae rhywun yn meddwl am bobol fel Noel sydd wedi'i cha'l hi'n lot anoddach na fi drwy'r cyfnod.
"Dwi 'di bod yn ffodus iawn ac yn cyfri pa mor freintiedig dwi 'di bod drwy hyn i gyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd11 Medi 2025
