Ymgyrchwyr yn galw am fwy o Warchodfeydd Natur Lleol

Mae Shirley Hodges a Nic Hodges ymhlith y rhai sy'n ymgyrchu dros ddynodi hen harbwr Y Barri yn Warchodfa Natur Leol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn galw am sefydlu mwy o Warchodfeydd Natur Lleol ledled Cymru, gan ddadlau bod angen gweithredu ar frys i ymateb i'r argyfwng natur a chyrraedd targed Llywodraeth Cymru o ddiogelu 30% o dir a môr y wlad erbyn 2030.
Yn Y Barri, mae ymgyrch i ddynodi hen harbwr y dref yn Warchodfa Natur Leol.
Mae ecolegwyr yn pwysleisio bod dynodi safle yn gam cyntaf ond bod angen buddsoddiad a rheolaeth barhaus i wneud Gwarchodfeydd Natur Lleol yn fuddiol i adfer bioamrywiaeth.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Gwarchodfeydd Natur Lleol yn ganolog i'w hymdrechion i fynd i'r afael â'r argyfwng natur, gan sicrhau bod cymunedau wrth wraidd y gwaith o adfer bioamrywiaeth a chyflawni eu targed 30x30, dolen allanol.

Yn ôl ymgyrchwyr, mae buddsoddi mewn Gwarchodfeydd Natur Lleol yn bwysig nid yn unig i ymateb i'r argyfwng natur, ond hefyd i addysgu pobl am eu hamgylchedd
Mae'r ymgyrch dros hen harbwr Y Barri yn galw ar Gyngor Bro Morgannwg i ddynodi'r safle'n Warchodfa Natur Leol a buddsoddi ynddi.
Daw hynny yn dilyn datganiad Argyfwng Natur gan y Senedd yn 2021 ac ymrwymiad 30x30 Llywodraeth Cymru - targed i ddiogelu 30% o dir, dŵr croyw a môr ar gyfer pobl a natur erbyn 2030.
Mae'r ddeiseb gan grŵp Barry Action for Nature yn pwysleisio pwysigrwydd y safle fel cynefin ar gyfer adar prin.
Mae'r morfeydd heli (coastal saltmarsh) yn rhai o gynefinoedd prinnaf y DU, ac mae'r ymgyrchwyr yn dweud bod potensial plannu morwellt yno, sy'n storio carbon.
'Ddim yn cael ei drin fel argyfwng'
Mae'r cynghorydd lleol Nic Hodges yn dweud bod angen rhoi cynlluniau ar waith yn hytrach na "siarad gwag".
Mae'n galw am sefydlu mwy o Warchodfeydd Natur Lleol a buddsoddi ynddyn nhw, gan ddechrau gyda'r hen harbwr.
Dywedodd fod y safle, a oedd yn wreiddiol yn harbwr lloches i gychod mewn tywydd garw, wedi datblygu dros y blynyddoedd yn gynefin naturiol gwerthfawr, a'i fod yn bwysig dynodi safleoedd fel hyn i "fynd i'r afael ag argyfwng natur".
"Os ydyn ni'n colli ein natur ni nawr - rydyn ni eisoes yn dechrau ei cholli mewn rhannau helaeth o Gymru - yna does dim llawer o ddyfodol i genedlaethau'r dyfodol.
"Cymru oedd gwlad gyntaf y byd i gyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, felly mae'n rhaid i ni beidio â siarad gwag - mae'n rhaid gweithredu er eu lles nhw."
Ychwanegodd fod angen "gwneud mwy - dyw'r argyfwng natur ddim yn teimlo fel ei fod yn cael ei drin fel argyfwng gan ein gwleidyddion," meddai.
"Mae angen i'n gwleidyddion ddod at ei gilydd a chymryd golwg rhagweithiol ar sut mae cyllid, rheolaeth a buddsoddiad yn cael eu hystyried ar gyfer materion amgylcheddol yng Nghymru - dim ond wedyn y gall unrhyw beth newid."

Mae'r adarwr a'r darlledwr Daniel Jenkins-Jones yn galw am greu mwy o Warchodfeydd Natur Lleol i greu "coridorau gwyrdd" i gysylltu cynefinoedd
Dywedodd yr adarwr Daniel Jenkins-Jones fod hen harbwr Y Barri yn bwysig iawn ar gyfer adar, gan gynnwys hwyaid yr eithin, crehyrod bach, piod y môr a'r gylfinir.
Dywedodd bod creu mwy o Warchodfeydd Natur Lleol yn hanfodol er mwyn creu coridorau gwyrdd sy'n cysylltu cynefinoedd, "sy'n hollbwysig gan fod bywyd gwyllt yn fwy bregus pan mae poblogaethau'n cael eu hynysu".
"Mae morfeydd heli a morwellt yn dda am storio carbon ac ry'n ni'n gwybod ein bod ni 'di colli hyd at 92% o'n morwellt.
"Felly mae'n rhaid i ni fynd ati i'w hailsefydlu, a'r ffordd gyflymaf o wneud hynny yw i bobl i fynd mas i blannu, ac mae cyfleoedd i wneud hyn mewn mannau fel hen harbwr Y Barri."
'Cynefin ar gyfer bywyd gwyllt a phobl'
Yn ôl Mr Jenkins-Jones, mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn "hollbwysig" i helpu cyrraedd targed 30x30 Llywodraeth Cymru, ond mae angen sicrhau buddsoddiad ar ôl dynodi safle.
"Maen nhw'n gymaint o gynefin ar gyfer bywyd gwyllt ag ydyn nhw ar gyfer pobl hefyd," meddai, gan ychwanegu eu bod yn rhoi cyfle i gymunedau ddysgu am eu hardaloedd lleol a gwirfoddoli.
"Dyw ein gwleidyddion na'n hawdurdodau lleol ddim yn gwerthfawrogi hyn ddigon."

Mae hen harbwr Y Barri, wrth ymyl aber Afon Hafren, yn safle sydd "o bwys rhyngwladol ar gyfer bywyd gwyllt ac adar", yn ôl Daniel Jenkins-Jones
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod Gwarchodfeydd Natur Lleol yn "ganolog i ymdrechion Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng natur, gan roi cymunedau wrth wraidd y gweithredu" i gyflawni targed 30x30.
Ychwanegodd llefarydd eu bod "yn cefnogi Partneriaethau Natur Lleol i yrru darpariaeth" drwy raglenni amrywiol a "datblygu statws Naturfa" ar gyfer safleoedd sydd angen cefnogaeth ychwanegol i gyflawni'r targed.
Ymateb y pleidiau
Yn ôl Plaid Cymru, maen nhw'n "cydnabod y bygythiad difrifol sy'n wynebu Cymru yn sgil yr argyfwng natur a'r bygythiadau mae hyn yn golygu i fioamrywiaeth".
"Mae gan y Blaid hanes balch o ymladd dros gryfhau rheoliadau i sicrhau hyfywedd natur a bywyd gwyllt ar draws Gymru," meddai llefarydd.
"Bydd Llywodraeth Plaid Cymru yn gweithio yn ddiflino i sicrhau fod natur yn cael ei amddiffyn a'i gefnogi ledled Cymru."
Dywedodd Janet Finch-Saunders o'r Ceidwadwyr Cymreig, nad yw'r mater "yn cael ei drin yn briodol gan y Lywodraeth Lafur".
Ychwanegodd fod y "broblem yn parhau yng Nghymru dan oruchwyliaeth Llywodraeth Lafur Cymru", gan gyhuddo Llafur a Phlaid Cymru o "siarad yn unig, heb weithredu".
"Mae ein hamgylchedd naturiol yn hanfodol bwysig, ac mae'n rhaid i ni ei warchod a'i ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol," meddai.
Dywedodd Llafur Cymru eu bod am gyfeirio at ymateb Llywodraeth Cymru ar y mater.
Mae'r Blaid Werdd, y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform UK wedi cael cais am sylw
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021

- Cyhoeddwyd10 Chwefror
