Ysgrifennu englyn mewn cardiau Nadolig ers 40 o flynyddoedd

- Cyhoeddwyd
Mae'r cyn-Archdderwydd Myrddin ap Dafydd yn cyfansoddi englyn bob blwyddyn i'w gynnwys yn ei gardiau Nadolig ers dros deugain o flynyddoedd.
Nadolig Llawen, Hwyl yr ŵyl, Cyfarchion y tymor. Dyna ambell gyfarchiad cyfarwydd Cymraeg mewn cardiau Nadolig. Ond yn ôl Myrddin, mae anfon englyn neu bennill mewn cerdyn yn rhan o gadw hen draddodiad yn fyw.
Fel un a fagwyd yn Llanrwst, a'i rieni'n cadw siop lyfrau yn y dref, meddai: "Dwi'n cofio oedd pobl yn dod i mewn i'r siop i gael cardyn Cymraeg a gofyn am bennill arno fo, cardiau pen-blwydd neu gydymdeimlad hyd yn oed.
"'Dan ni'n defnyddio penillion, englynion mewn ffordd gymdeithasol iawn yn Gymraeg a dwi'n meddwl mai rhan o hynny ydi rhoi englyn ar gardyn Nadolig.
"Mae ein traddodidad barddol Cymraeg ni yn ei hanfod yn gymdeithasol iawn o hyd. Mae'r elfen yna i weld mewn bob math o ddathliadau, o ddydd gŵyl Dwynwen i briodasa', i pan mae rhywun yn ymddeol. 'Dan ni'n defnyddio barddoniaeth gymdeithasol ac elfen o hynny ydi'r englyn cardyn 'Dolig."
Dwyn ysbrydoliaeth gan T. Llew Jones, Dic Jones a Richard Jones o Lanfechell
Dechreuodd Myrddin gyfansoddi englyn Nadolig a'i argraffu mewn cardiau Nadolig i'w deulu a'i ffrindiau pan sefydlodd Gwasg Carreg Gwalch yn 1980, ond fe ddechreuodd ysgrifennu englynion ar gardiau teuluol mewn llawysgrifen cyn dechrau argraffu.
A'r ysbrydoliaeth tu ôl i hynny oedd atgofion o'i rieni'n derbyn cerdyn Nadolig gydag englyn gan Richard Jones o Lanfechell.
Eglurai: "Oedd Dad wedi bod yn y Coleg Normal yn y 40au a ffrind i Nhad oedd Richard.
"Roedd yna groeso mawr yn y ffaith ei fod o wedi mynd ati i 'sgwennu englyn newydd bob 'Dolig ar eu cardyn."

Y diweddar T. Llew Jones
Ysbrydoliaeth arall iddo oedd y diweddar lenor T. Llew Jones a'r diweddar brifardd Dic Jones:
"Dwi'n cofio clywed T. Llew a Dic yn sgwrsio ac yn deud eu bod nhw'n gyrru englynion at ei gilydd bob Dolig."
Pan sefydlodd Myrddin wasg Carreg Gwalch yn 1980, roedd offer y wasg yn y misoedd cyntaf yn eithaf sylfaenol. O osod y llythrennau ar letterpress hen ffasiwn yn y dyddiau cynnar i osod ar gyfrifaduron llawer fwy soffistigedig erbyn heddiw, dywed mai "hwylusdod y wasg ydi bo' ti'n gallu argraffu englynion ar dy gardia' dy hun a gyrru hwnna at bawb."

Rhai o englynion y cardiau Nadolig dros y blynyddoedd
Goleuni, newyddion y dydd a digwyddiadau teuluol yn destun englyn
Ond beth fydd cynnwys yr englynion Nadolig?
"Mae rhywun yn crafu ei ben fis Tachwedd a meddwl be' sgenai ddeud eleni 'lly ond rhywust mae'r hyn sy'n digwydd o dy gwmpas yn effeithio arna chdi.
"Yr un amlwg wrth gwrs ydi'r hyn sydd wedi effeithio pobl erioed amwn i sef ti'n colli golau haul, mae'r nos yn hir a'r tywyllwch yna a ti'n cyferbynnu hynny efo golau llythrennol gŵyl y geni ond hefyd mae yna ryw fath o oleuni delweddol ynglyn â'r peth hefyd a mae honno yn thema gyffredin mewn carolau, mewn caneuon Nadolig ac mewn englynion 'Dolig. Yn aml iawn mae chwarae ar seren neu gannwyll yn gallu bod yn ddefnyddiol fel englyn.
"Wedyn mae yna rai eraill wedyn, ella fod yna elfennau o newyddion y dydd, ambell i flwyddyn go ddu wedi bod, rhywun yn meddwl am Covid, blynyddoedd lle mae yna ryfeloedd enbyd iawn wedi bod ar sawl cyfandir a wedyn bod yna rywun yn trio rhoi rhywbeth cadarnhaol mewn englyn Nadolig."
Ond nid dwyster yn unig sy'n ysbrydoli'r englynion. Dros y blynyddoedd mae'r llyfr Nadolig cyntaf Cymraeg i blant wedi ysbrydoli englyn sef Llyfr Mawr Y Plant, troeon trwstan fel colli trydan neu WiFi dros gyfnod yr ŵyl yn dilyn storm a digwyddiadau teuluol fel genedigaethau a dod yn dad ac yn daid.

Yn 2007, Llyfr Mawr Y Plant ysgogodd englyn Nadolig Myrddin
Eleni traddodiad Y Plygain sydd wedi ysgogi englyn Myrddin a hynny ar ôl iddo fwynhau noswaith o ganu plygain ym Morfa Nefyn yng nghwmni Arfon Gwilym, Sioned Webb a Mair Tomos Ifans.
Meddai: "Yn ogystal â chanu enghreifftiau gwych o'r carolau yma, mi roeddan nhw'n llawn straeon am y beirdd, y mesurau ac arferion cymdeithasol y plygeiniau. Ysbrydoledig a deud y gwir. Roedd gen i dri gair cynta'r englyn cyn gadael y noson!"
"Fel mae'n digwydd, mae ganddon ni ddarlun gwych o bobl yn tyrru i eglwys am wasanaeth plygain ar glawr 'Nadolig y Gath yn Sain Ffagan' a gyhoeddwyd ddwy flynedd yn ôl. Elin Manon o Gaerdydd wnaeth y lluniau hyfryd yma am y daith yn dilyn dathliadau'r Nadolig drwy wahanol adeiladau yn Sain Ffagan – a dwi wedi defnyddio ei llun o blygain yn Eglwys Teilo Sant, Sain Ffagan ar y cerdyn.
"Hen eglwys ddaeth o Landeilo Tal-y-bont yn nyffryn Llwchwr ydi hon yn wreiddiol – ac mae llawer o hynafiaid ein teulu ni ar ochr fy nhad-cu wedi'u claddu yn y fynwent honno."

Clawr cerdyn eleni gan yr artist Elin Manon
Traddodiad byw?
Ac yntau ei hun wedi cyfansoddi degau o englynion Nadolig dros y blynyddoedd, pa mor fyw yw'r traddodiad ymysg beirdd heddiw?
"Fyddai'n cael cerdyn ac englyn yn flynyddol gan Dylan Iowerth, Twm Morys, oedd Mei Mac yn gyrru rhai a dwi hefyd wedi cael un dwi'n ei drysori yn fawr iawn gan T. Llew Jones, gan Iolo, mab T. Llew Jones ac wrth fynd drwy'r hen gardiau, cwpled gan Ifor ap Glyn.

Rhai o'r englynion mae Myrddin wedi eu derbyn dros y blynyddoedd?
Er fod y traddodiad o yrru cardiau post wedi pylu gyda dyfodiad ebyst a'r cyfryngau cymdeithasol, mae'r traddodiad o yrru a derbyn cardiau Nadolig yn un sy'n parhau'n agos at galon Myrddin.
"Dwi'n hoff iawn o roi a derbyn cardyn, mae yna rwbath am y traddodiad yna sy'n reit annwyl gen i."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
