'Mae gan bobl ofn ym mhobman' - pryderon diogelwch ymhlith Iddewon

Mary Green
Disgrifiad o’r llun,

Er y braw a'r dychryn, dyw ymosodiadau ar y gymuned Iddewig ddim yn syndod bellach, meddai Mary Green

  • Cyhoeddwyd

Ar adeg pan fo cymunedau Iddewig yn dod at ei gilydd i nodi Hanukkah, mae ymosodiad terfysgol yn Sydney, Awstralia yn ystod digwyddiad i ddathlu'r ŵyl wedi achosi pryder mawr ynghylch diogelwch.

Mae Heddlu De Cymru wedi dweud y bydd cymunedau Iddewig yn gweld mwy o blismyn ar ddyletswydd, yn enwedig mewn ardaloedd ble mae adeiladau Iddewig fel synagogau, er mwyn tawelu ofnau pobl.

Mae swyddogion hefyd yn dweud eu bod yn trafod y sefyllfa gydag arweinwyr cymunedau Iddewig.

Dywedodd Dave Rich, cyfarwyddwr polisi'r elusen Iddewig, fod "ton o gasineb at Iddewon" wedi'i weld ers i ddau Iddew gael eu lladd mewn ymosodiad ar synagog ym Manceinion ym mis Hydref.

Yn siarad ddydd Llun dywedodd Prif Weinidog Cymru fod y gymuned Iddewig yng Nghymru yn teimlo eu bod "dan warchae".

Dywedodd Eluned Morgan fod ei meddyliau gyda'r rhai a gafodd eu heffeithio yn Sydney ond hefyd gyda'r gymuned Iddewig yng Nghymru – oedd yn dal i ymdopi â'r ymosodiad diwethaf ym Manceinion.

Anogodd Ms Morgan i bobl "lapio ein breichiau" o amgylch y gymuned Iddewig, gan ddweud ei bod am weld "gobaith" nid "rhwygiadau".

Mae Mary Green, Iddewes 76 oed, yn byw drws nesaf i'r synagog yn Heaton Park, Manceinion.

Symudodd hi i'r ddinas o Ynys Môn ar ôl cwrdd â'i gŵr, oedd yn Iddew.

Ar 2 Hydref fe dargedodd terfysgwr y synagog, gan yrru car tuag at gerddwyr cyn dechrau trywanu addolwyr. Cafodd dau berson eu lladd yn yr ymosodiad gan Jihad Al-Shamie, 35 oed.

O'i fflat, clywodd Mary sŵn fel ergyd enfawr y tu allan, a phan aeth allan i'w balconi, gwelodd pobl yn gorwedd ar y llawr.

"Dwi ddim isio meddwl am y peth, a wna' i byth byth anghofio hyn".

'Dyw hyn ddim yn newydd'

Roedd hi i fod i fynd i'r synagog y diwrnod hwnnw gan ei bod yn ddiwrnod Yom Kippur, gŵyl bwysicaf y flwyddyn i Iddewon, ond newidiodd y cyfan o fewn eiliadau.

"Fe glywes i pan wnaeth y terrorist crasho i'r giât, a wnaeth e wedyn redeg o gwmpas â chyllell a brifo rhai pobl," meddai mewn cyfweliad â rhaglen Dros Frecwast.

O fewn dim, roedd y gwasanaethau brys wedi cyrraedd, gyda'r ffordd yn llawn heddlu, ambiwlansys a'r gwasanaeth tân. Dyna pryd y sylweddolodd Mary fod "rhywbeth ofnadwy wedi digwydd".

Er y braw a'r dychryn, dywedodd nad oedd y digwyddiad yn syndod i Iddewon fel hi: "Ma' security wedi bod yn rhan o'n bywyd cyn hyn.

"Pan oedd fy mhlant yn mynd i'r ysgol Iddewig roedd swyddfa security ar gael bryd hynny yn yr ysgol hyd yn oed. Felly dyw hyn yn ddim byd newydd."

swyddogion heddlu ym ManceinionFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Mary ddim yn credu bod agweddau pobl tuag at yr Iddewon wedi newid ers yr ymosodiad ym Manceinion

Mae Ms Green yn poeni am y dyfodol ac yn teimlo os yw terfysgwr yn benderfynol o dargedu Iddewon mewn ymosodiad, y bydden nhw'n "ffeindio ffordd i lwyddo, os ydyn nhw isio eich cael chi fe wna' nhw".

"Ond dwi ddim yn mynd i actio fel victim i neb, dwi yn ofalus o ran be dwi'n 'neud cofiwch. Ond be wna i? Ydw i isio symud o fan hyn nawr neu beth?"

Yn dilyn yr ymosodiad, cafodd Mary a'i chymdogion o amgylch y synagog eu symud allan ar frys.

"Daeth dyn tân a bangio ar y drws - ges i andros o ddychryn. 'Evacuate', medda fo, 'get out'. Es i â fy ffôn a goriadau'r tŷ gyda fi a dim arall, a buon ni allan o'r tŷ am dri diwrnod."

Wrth gofio diwrnod yr ymosodiad, dywedodd fod yr effaith yn parhau.

"Dwi yn nerfus o hyd, a dwi ddim yn credu mai hyn fydd y diwedd... Gobeithio fod pawb wedi dysgu lot."

Mae Mary Green yn ymwybodol iawn o agweddau gwrth-Iddewig, ac yn ofni nad oes digon o wersi wedi'u dysgu ers yr ymosodiad ger ei chartref.

"Ma' gan bobl ofn ym mhobman. Dwi ddim yn credu bod pobl isio'r Iddewon yma dim mwy. Efallai mod i yn cerdded â blincers 'mlaen ond dwi ddim 'di gweld dim byd wedi newid o ran hynny ers 2 Hydref."

Pynciau cysylltiedig