Brodyr yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ôl tua 60 mlynedd

Cafodd aduniad Russell a Peter ei ddisgrifio ei fel un naturiol a llawen
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cwrdd â'i frawd hŷn yn y cnawd am y tro cyntaf, ar ôl tua 60 mlynedd ar wahân.
Roedd 10,000 o filltiroedd yn gwahanu'r ddau, ond teithiodd Russell Gower, 64 o Lanharan, am 23 awr er mwyn cyfarfod Peter, 69, yn Awstralia o'r diwedd.
Disgrifiodd Russell y cyfarfyddiad fel un hollol naturiol a bod "dim byd ond llawenydd".
Bydd aduniad y ddau yn cael ei nodi'n swyddogol trwy gael parti teuluol mawr yn Brisbane ar Ddiwrnod Nadolig.

Ray a Jill Gower oedd rhieni biolegol y ddau
Cafodd y ddau eu geni yn Llundain i'w rhieni, Ray a Jill, ond dim ond 15 oed oedd y fam pan gafodd Peter ei eni.
Roedd stigma ynghlwm â sefyllfaoedd o'r fath yn yr 1950au, oedd yn golygu ei fod wedi cael ei roi i'w fabwysiadu a'i gludo i Awstralia, lle cafodd ei fagu.
Aeth y diweddar Ray a Jill ymlaen i briodi ar ôl i'w mab cyntaf gael ei fabwysiadu.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cafodd Russell ei eni ac yna chwaer o'r enw Jackie, sydd hefyd wedi marw.
Bu Peter yn byw'r rhan fwyaf o'i oes yn Awstralia, heb wybod y gwir am ei deulu genedigol tan i'w chwaer fabwysiedig ddweud wrtho yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Llwyddodd ei wyres yn Awstralia i ddarganfod Russell, sydd wedi byw yn Llanharan ers dros 30 mlynedd ac mae profion DNA wedi'u cynnal i gadarnhau'r cysylltiad.

Peter a rhai o'i deulu yn Awstralia
Roedd chwaer Russell wedi dweud wrtho pan oedd yn ei arddegau bod ganddo frawd mabwysiedig, ond ni wnaeth ei fam erioed siarad yn uniongyrchol am Peter wrtho.
Ond dywedodd wrtho, gydag ond ychydig ddyddiau i fyw gyda chanser terfynol yn 2007: "Mae rhywbeth dwi angen dweud wrthat ti."
Roedd Russell yn siŵr ei bod am ddweud wrtho am ei frawd, ond bu farw Jill cyn iddi gael y cyfle.
"Yn amlwg, cafodd fy mam ei thrawmateiddio gan hyn, er na fyddwn i byth wedi gwybod hynny," meddai.
"Dywedodd wrth fy chwaer yn y diwedd. Dwi ddim yn gwybod sut y llwyddodd i oroesi ei bywyd ar ôl colli babi yn yr amgylchiadau hynny.
"Mae'n rhaid ei bod wedi meddwl bob dydd am beth oedd e'n ei wneud - sut oedd ei ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol? Oedd ganddo blant?
"Mae'n rhaid ei fod wedi bod yn anodd iawn iawn iddi."

Dywedodd Russell ei fod wedi poeni am y cyfarfod, ond bellach yn credu na fydd yr ymweliad tair wythnos yn Awstralia yn teimlo'n ddigon hir
Teithiodd Russell draw i gyfarfod Peter ar ben ei hun, ond mae'r teulu ehangach wedi casglu yno at Ddiwrnod y Nadolig.
Wrth gyfarfod ei gilydd, dywedodd Russell eu bod wedi mynd "ychydig yn emosiynol" ar ôl dweud y byddai eu mam wedi bod yn 85 oed.
"Tynged yw e mewn gwirionedd. Gallwn i fod wedi mynd trwy fy mywyd cyfan a pheidio â dod o hyd iddo ac yn sydyn dyma ni."
"Mae wedi newid fy myd," ychwanegodd Russell.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.