Cymeradwyo cynlluniau £140m i adnewyddu gorsaf drenau Caerdydd Canolog

Mae'r cynlluniau'n gobeithio cyd-fynd â "hanes a threftadaeth" yr orsaf
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau ar gyfer gwaith adnewyddu gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog wedi cael eu cymeradwyo.
Nod y gwelliannau gwerth £140m - sy'n cynnwys adnewyddu'r fynedfa gefn, cael cyntedd mwy a mannau aros gwell - yw annog mwy o deithwyr yn y dyfodol a helpu gyda thorfeydd a gorlenwi.
Mi fydd y cynlluniau hefyd yn gwneud yr orsaf yn fwy hygyrch i bobl â symudedd cyfyngedig ac yn cynnwys adnoddau beicio ychwanegol.
Mae'r gwaith i fod i ddechrau yng ngwanwyn y flwyddyn nesaf gyda'r nod o gwblhau'r rhan fwyaf ohono o fewn tair blynedd. Bydd yr orsaf, sy'n eiddo i Network Rail, yn aros ar agor yn ystod y gwaith.
Datgelu cynlluniau tram Caerdydd gwerth £100m
- Cyhoeddwyd16 Medi 2024
Gwaith atgyweirio 'brys' i reilffordd i barhau am ddiwrnod arall
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2025
Mae tua 35,000 o deithwyr yn defnyddio'r orsaf bob dydd ac mae'r niferoedd yna'n cynyddu yn ystod cyngherddau a gemau rygbi rhyngwladol.
Mae'r cynllun yn cael ei arwain gan Drafnidiaeth Cymru, gyda'r cyllid yn cynnwys £78m gan Adran Drafnidiaeth y DU, £40m o gytundeb dinas prifddinas-ranbarth Caerdydd a £21m gan Lywodraeth Cymru.
Mae arian Llywodraeth y DU yn rhan o'r £445m fydd yn cael ei neilltuo ar gyfer gwelliannau rheilffyrdd ar draws Cymru yn dilyn adolygiad gwariant y Canghellor Rachel Reeves ym mis Mehefin.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Heidi Alexander, y byddai'r gwelliannau'n "trawsnewid profiad y miliynau o deithwyr sy'n defnyddio'r orsaf bob blwyddyn, gan groesawu pobl trwy orsaf eang, fodern sy'n addas i'r ddinas y mae'n ei gwasanaethu".
"Nid yn unig y bydd hyn yn gwella profiadau i deithwyr, ond bydd hefyd yn gwella capasiti yn yr orsaf ac yn datgloi cysylltedd â gweddill Cymru a thu hwnt – gan gefnogi swyddi a helpu i roi hwb i dwf economaidd," meddai.

Y gobaith yw gallu gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith o fewn tair blynedd
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Ken Skates, yn croesawu'r hyn a alwodd yn "garreg filltir bwysig ar gyfer ein cynlluniau uchelgeisiol i uwchraddio gorsaf Caerdydd Canolog, canolfan allweddol ar ein Metro De Cymru a phorth i brifddinas Cymru".
Dywedodd y bydd y buddsoddiad yn "moderneiddio ac yn gwella'r orsaf, gan fod o fudd i deithwyr a darparu ar gyfer ein huchelgeisiau ar gyfer twf hirdymor".
Mae cynlluniau Metro De Cymru hefyd yn cynnwys addewid i ddarparu dwywaith nifer y gwasanaethau ar draws rhwydwaith de Cymru erbyn dechrau'r flwyddyn nesaf - gyda chynigion am nifer o orsafoedd newydd gan gynnwys Parcffordd Caerdydd, Dwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, arosfannau yn Somerton a Llanwern yng Nghasnewydd a gorsaf ym Magwyr a Gwndy yn Sir Fynwy.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.