Cyn-swyddog S4C 'wedi ei thrin yn wahanol' i staff eraill wynebodd honiadau

Llun o Llinos Griffin-WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llinos Griffin-Williams yn dwyn achos yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-brif swyddog cynnwys S4C, a gafodd ei diswyddo am gamymddwyn difrifol, wedi honni mewn dogfennau cyfreithiol ei bod hi wedi cael ei thrin yn wahanol i uwch swyddogion eraill oedd wedi wynebu honiadau y "gellid eu hystyried oedd gyfystyr â chamymddwyn difrifol".

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo yn 2023 ar ôl honiadau ei bod hi'n feddw ac wedi "ymosod yn eiriol" ar y chwaraewr rygbi Mike Phillips mewn bar yn Nantes, tra ei bod hi yno yn cynrychioli'r sianel.

Mae hi'n dwyn achos yn erbyn ei chyn-gyflogwr a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams ar ôl iddo ei diswyddo.

Mae S4C wedi mynnu nad oes gan y sianel gofnod o gwynion am yr ymddygiad amhriodol honedig gan unrhyw aelod arall o staff S4C.

'Dim cyfle i ymateb i honiadau'

Ym mis Hydref, fe ddatgelwyd bod S4C wedi cytuno ar setliad ariannol gyda'r cyn-brif weithredwr Siân Doyle, oedd hefyd wedi dwyn achos yn erbyn y darlledwr am niwed personol.

Ni ddatgelwyd telerau'r setliad, ond dywedodd S4C fod y cytundeb wedi'i gyrraedd "heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd".

Mewn dogfennau sydd wedi cael eu cyflwyno i'r Uchel Lys yn ddiweddar, mae Llinos Griffin-Williams yn honni iddi gael ei thrin yn annheg gan S4C ac "na chafodd hi gyfle i roi ei hymateb i'r honiadau yn ei herbyn... o dan broses deg" cyn iddi gael ei diswyddo.

Mae hi'n gwadu ymddwyn mewn ffordd oedd gyfystyr â chamymddwyn difrifol mewn man cyhoeddus, ac mi fyddai wedi gwadu'r cyhuddiad petasai wedi ei gyflwyno iddi.

Mae dogfennau sydd eisoes wedi eu cyflwyno gan S4C yn honni bod Ms Griffin-Williams dan ddylanwad alcohol i'r graddau ei fod wedi amharu ar ei hymddygiad, a'i bod hi wedi defnyddio "iaith amhroffesiynol" oedd yn cynnwys cyfres o regfeydd tuag at Mr Phillips a staff cynhyrchu oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn Nantes.

Mike Phillips yn gweithio i S4CFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo dros honiadau ei bod hi'n feddw ac wedi "ymosod yn eiriol" ar Mike Phillips

Yn y dogfennau, mae Ms Griffin-Williams yn honni na chafodd unigolion eraill yn S4C oedd yn "wynebu honiadau allai fod gyfystyr â chamymddwyn difrifol" eu diswyddo, er dyw hi ddim yn enwi'r unigolion hynny.

Mewn cyhuddiadau, mae hi'n honni ei bod hi'n "rheoli perfformiad aelodau o staff am gyhuddiadau o gamymddwyn".

Mae hi'n honni bod aelodau o staff wedi bod yn "drwm dan ddylanwad alcohol" mewn digwyddiadau gwaith fel seremonïau gwobrwyo a taw'r cyngor gan adran adnoddau dynol S4C oedd i beidio â chymryd camau yn erbyn yr unigolion hynny, i gael sgwrs anffurfiol, eu symud i dimau eraill neu i roi rhybudd anffurfiol.

Mae ei thîm cyfreithiol yn dadlau fod y broses yn ei herbyn yn annheg ac efallai y byddai cosb arall yn hytrach na diswyddo wedi bod yn addas petasai ei chyflogwr wedi bod yn "deg ac yn feddwl agored".

Mewn datganiad dywedodd S4C eu bod eisoes wedi cyflwyno amddiffyniad i'r llys ac na fyddai'n briodol i wneud sylw pellach ar honiadau sydd heb gael eu clywed eto mewn achos llys.

Ychwanegodd y llefarydd: "Fel nodwyd yn ein hamddiffyniad i'r llys, nid oes cofnod o gwynion am yr ymddygiad amhriodol honedig gan unrhyw aelod arall o staff S4C."

Dywedodd hefyd bod yr honiadau'n deillio o gyfnod dros ddwy flynedd yn ôl, ac ers hynny bod S4C "wedi bod trwy gyfnod o drawsnewid o ran llywodraethant, rheolaeth a diwylliant i sicrhau bod yma weithle iach lle gall pawb ffynnu".

Ron Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ms Griffin-Williams yn honni bod perygl nad oedd Ron Jones yn "dyst gwrthrychol a dibynadwy"

Mae hi hefyd yn cwestiynu hygrededd adroddiadau am ei hymddygiad, gan ddweud efallai bod un o bosib yn "dystiolaeth ail-law" [hearsay].

Mae hi'n honni nad oedd Ron Jones, cadeirydd Tinopolis, yn bresennol yn ystod ei hymddygiad honedig, a bod yna "berygl nad oedd yn dyst gwrthrychol a dibynadwy" am ei bod hi, yn rhinwedd ei swydd, wedi canslo nifer o gytundebau gyda'r cwmni teledu.

Mae hi hefyd yn dweud ei bod hi wedi anghytuno gyda Mr Jones ynglŷn â chwyn yn ymwneud â rhaglen, a bod cyn-gadeirydd y sianel, Rhodri Williams, wnaeth ei diswyddo, wedi sefydlu Agenda gyda Mr Jones - y cwmni fyddai wedi datblygu i fod yn Tinopolis.

Penderfynodd Mr Jones i beidio â gwneud sylw.

Tyst arall 'ddim yn bresennol' i'r holl ddigwyddiad

Yn ôl Ms Griffin-Williams, doedd tyst arall, Liam Bowen, "ddim yn bresennol yn ystod yr holl ymddygiad" roedd yn honni ei fod wedi gweld.

Mae hi'n dweud nad oedd Mr Bowen yn y digwyddiad pan honnir iddi ddefnyddio iaith amhroffesiynol tuag at Mike Phillips ac eraill.

Mae hi'n dweud hefyd bod yna "densiwn personol" rhyngddi hi a Mr Bowen, a oedd ar y pryd yn swyddog cyfryngau cymdeithasol i S4C, ar ôl iddi wneud cais i ddileu deunydd a bostiwyd ar-lein gan Mr Bowen yn ymwneud â gêm Cymru yn erbyn Fiji, wythnos cyn yr ymweliad â Nantes.

Mae hi'n dweud hefyd bod Mr Bowen wedi gadael S4C i fynd i weithio i Ron Jones a chwmni Tinopolis.

Dywedodd Mr Bowen wrth BBC Cymru iddo fod yn gwbl agored ynglŷn â'r ffaith nad oedd yn bresennol yn y lleoliad cyntaf yn Nantes, ble yr honnir i Llinos Griffin-Williams ymddwyn yn amhriodol, ond bod aelodau o staff cynhyrchu wedi codi pryderon.

Mae'n dweud ei fod yn bresennol mewn ail ddigwyddiad yn Nantes pan welodd ymddygiad wnaeth beri pryder iddo.

Mae hefyd yn nodi ei fod wedi gadael S4C i fynd i weithio i BBC Cymru, ac na wnaeth ymuno gyda chwmni Tinopolis am naw mis arall.

Rhodri WilliamsFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Rhodri Williams "wrthdaro buddiannau clir", yn ôl Ms Griffin-Williams

Mewn dogfen arall, mae Ms Griffin-Wililams yn honni bod adroddiad a gafodd ei baratoi i S4C gan gwmni Capital Law wedi derbyn honiadau dienw ac na chafodd y rheiny eu cyflwyno iddi fel rhan o gŵyn swyddogol, ac felly na chafodd gyfle i ymateb iddyn nhw.

Mae hi'n herio tegwch yr adroddiad, ac yn honni bod gan y cyn-gadeirydd Rhodri Williams "rôl weithredol" wrth baratoi sut roedd yr adroddiad yn mynd i gael ei "fframio a'i gyflwyno", a bod ganddo "wrthdaro buddiannau clir" am ei fod yn destun cwynion ei hun.

Dywedodd Mr Williams ei fod yn gwadu'r holl honiadau gan Llinos Griffin-Williams, ac mae eisoes wedi gwadu rhyddhau gwybodaeth i'r wasg am ei hachos mewn dogfen gyfreithiol ar gyfer yr Uchel Lys, ac o ymddwyn mewn ffordd anonest yn ei herbyn.

Llun o adeilad S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd S4C nad oedd modd gwneud sylw am ei fod yn fater cyfreithiol cyfredol

Cyn cyhoeddi adroddiad Capital Law, roedd undeb BECTU wedi dweud wrth S4C bod eu haelodau sy'n gweithio i'r sianel yn cael eu hanwybyddu a'u tanseilio gan y tîm rheoli, a bod yna "ddiwylliant o ofn" yn S4C.

Yn ôl S4C, roedd comisiynu adroddiad Capital law yn "ymateb rhesymol a chywir" i'r materion a godwyd gan BECTU.

Mae Llinos Griffin-Williams yn dwyn achos yn erbyn S4C a'r cyn-gadeirydd Rhodri Williams am gamymddwyn honedig gan swyddog cyhoeddus, a thorri deddfau diogelu data.

Mae hi'n honni na ddilynwyd prosesau cywir.

Mae S4C a Rhodri Williams yn gwadu ei honiadau. Maen nhw'n ymladd yr achos cyfreithiol ac mae'n parhau.

Fe allai cynnwys y dogfennau cyfreithiol sydd wedi cael eu cyflwyno gan y ddwy ochr arwain at frwydr gyfreithiol gyhoeddus iawn rhwng Llinos Griffin-Williams ac S4C, ac un allai beri embaras, os ydy'r mater yn cyrraedd gwrandawiad yn yr Uchel Lys.

Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd Ms Griffin-Williams nad oedd ganddi "unrhyw ddewis arall" ond dwyn achos yn yr Uchel Lys a bod ei brwydr gyfreithiol yn ymwneud a'r "gwirionedd, atebolrwydd a'r hawl i gael fy nhrin yn deg... ac mi fydda i wastad yn brwydro dros gydraddoldeb".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig