Yr archifydd roc a phop, Gari Melville, wedi marw yn 70

Bu farw Gari Melville, sy'n enw adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg, yn 70 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r archifydd roc a phop, Gari Melville, wedi marw yn 70 oed.
Roedd yn enw adnabyddus yn y sîn gerddoriaeth Gymraeg ac yn gyfrifol am y prosiect Archif Roc a Phop Cymru - oedd yn diogelu unrhyw gynnwys yn ymwneud â cherddoriaeth Cymru.
Fe aeth i Ysgol Uwchradd Cwmtawe ym Mhontardawe ac astudiodd Ddiwinyddiaeth a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Hull rhwng 1974 ac 1978.
Ymhlith y teyrngedau sydd wedi eu rhoi iddo fe gafodd ei ddisgrifio fel "cymeriad a hanner" a "cholled aruthrol i Gymru".
'Boi ffein iawn iawn'
Ar ôl graddio o'r brifysgol roedd yn gweithio fel archifydd yn HTV yn ystod yr 80au.
I nodi 40 mlwyddiant y label cerddoriaeth Fflach, fe dyrchodd drwy ei gasgliad helaeth o recordiau ar gyfer Cymru Fyw er mwyn rhoi rhestr at ei gilydd o'r caneuon gan Fflach y mae'n rhaid eu clywed.
Roedd hefyd yn gyd-olygydd cyfrol Caniadau sy'n gofnod o waith y cerddor Meic Stevens.
Yn ogystal â hyn fe ysgrifennodd Gari Melville eiriau cân ar gyfer un o'r grwpiau punk Cymraeg cyntaf.
Fe ryddhaodd Llygod Ffyrnig o Lanelli sengl o'r enw NCB ym 1978 - mae geiriau'r gân yn trafod y sefyllfa o ran gweithio yn y pyllau clo yn ystod y cyfnod.
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd yr actor Hywel Emrys a weithiodd gyda Gari i HTV Cymru yn ystod yr 80au ei fod yn "golled aruthrol i Gymru".
"Roedd e'n arbenigwr ar gerddoriaeth fodern Cymru, pop a grwpie ac artisitiaid i gyd.
"Odd e fel rhyw fath o lyfrgell i bawb – os o chi isie unrhyw wybodaeth am gerddoriaeth Cymru odd pawb yn mynd at Gari" meddai.
"Roedd e'n foi ffein iawn iawn, yn gwrtais ac annwyl" ac yn "golled enfawr," ychwanegodd.
'Person hollol hyfryd'
Mewn teyrnged ar y cyfryngau cymdeithasol rhannodd yr actor Ieuan Rhys ei "dristwch" wrth glywed y newyddion.
Disgrifiodd Gary fel "dyn ffeind iawn" a "cymeriad a hanner."
"Cofio'i ddyddie gydag HTV - dyddie da," meddai Ieuan.
Ychwanegodd: "Cysga'n dawel Gari."
Mewn neges arall ar-lein, disgrifiodd y cerddor Alan Holmes Gari fel "un o anogwyr diwylliannol mwyaf Cymru."
"Gweithiodd ei holl fywyd i gefnogi a hyrwyddo artistiaid cerddorol diddorol ac anghyffredin yn y wlad hon, ar adeg pan nad oedd llawer o bobl eraill yn gwneud hynny," meddai Alan.
Dywedodd hefyd fod Gari wedi cael "effaith mor bwysig" ar ei fywyd, gan ei ddisgrifio fel person "hollol hyfryd."
Dywedodd yr actor a digrifwr Mici Plwm fod Gari "yn wir golled i'r diwydiant ac i ni ei gyfeillion," mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ychwanegodd: "Dyma golli y person mwya gwreiddiol ei syniadau a'i weledigaeth brwdfrydig...Enseiclopidia ac Almanac mewn un a phob amser am wbod popeth oedd i wbod am y byd 'pop' Cymraeg - Archifydd Film a Fidio HTV am nifer fawr o flynyddoedd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.