Y Senedd yn pleidleisio o blaid gwahardd rasio milgwn

Milgwn yn rasioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Senedd yr Alban hefyd yn trafod gwahardd y gamp ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Bydd rasio milgwn yn cael ei wahardd yng Nghymru, wedi i aelodau'r Senedd bleidleisio o blaid gwneud y gamp yn anghyfreithlon.

Cafodd y syniad gefnogaeth grwpiau lles anifeiliaid, oedd yn dweud bod miloedd o gŵn wedi marw yn y Deyrnas Unedig yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i'r gamp.

Ond mae'r ddeddfwriaeth yn wynebu her gyfreithiol, a chyhuddiadau nad oedd gweinidogion wedi ymgynghori yn briodol ar y mater.

Fe wnaeth 39 aelod bleidleisio o blaid y gwaharddiad yn y Senedd nos Fawrth, gyda 10 yn erbyn, a dau yn atal eu pleidlais.

Cyn y bleidlais, daeth i'r amlwg fod gweision sifil wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad oedd digon o dystiolaeth wedi'i gasglu i gyfiawnhau gwaharddiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd modd iddyn nhw wneud sylw tra bod yr achos cyfreithiol yn parhau.

'Bil clir, cymesur a chyflawnadwy'

Yn ystod y ddadl, dywedodd Huw Irranca-Davies ei fod yn hyderus bod y bil wedi "elwa o'r safbwyntiau cyfunol a gafodd eu cyflwyno i ni, bil sy'n glir ac yn gymesur ac yn gyflawnadwy".

Dywedodd nad oes posib "cyfiawnhau'r risgiau a'r niweidiau sy'n gysylltiedig â rasio milgwn dim mwy".

"Er gwaethaf ymdrechion o fewn y diwydiant, mae anafiadau, marwolaethau a chanlyniadau gwael ar ôl rasio yn parhau i fod yn realiti."

Ond cododd aelodau eraill bryderon ynghylch diffyg tystiolaeth o blaid y gwaharddiad.

Dywedodd Llŷr Gruffydd o Blaid Cymru ei fod yn credu mewn "gwneud cyfraith yn y ffordd gywir, y ffordd effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, ymgynghori a pholisi cadarn".

Dadleuodd fod y ddeddfwriaeth wedi'i rhuthro, gan ddweud nad yw'r gwaharddiad "yn atal bridio milgwn yng Nghymru ar gyfer rasio".

"Nid yw'n atal hyfforddi milgwn yng Nghymru. Ar gyfer rasio, gellir cadw cŵn yng Nghymru o hyd, a'u rasio yn Lloegr," meddai Mr Gruffydd.

Rhybuddiodd Rhys ab Owen, aelod annibynnol, y gallai'r mesur beidio â llwyddo yn ei amcanion.

"Efallai y bydd y ddeddfwriaeth yn cyflawni cau'r unig stadiwm sydd ar ôl yng Nghymru, fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd.

"Ond yn y tymor hirach, mae risg sylweddol y bydd yn y pen draw yn methu â gwneud yr hyn y mae'n ei ddweud ar y clawr, sef gwahardd rasio yng Nghymru."

Penderfynodd gweinidogion Llafur fwrw ymlaen â'r gwaharddiad fel rhan o gytundeb gyda Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, i basio eu cyllideb yn y Senedd y llynedd.

Dywedodd Ms Dodds yn y Senedd: "Trwy basio'r mesur hwn, byddwn yn dweud fel cenedl na ellir cyfiawnhau niwed rhagweladwy, sydd methu cael ei osgoi, i anifeiliaid yn enw chwaraeon nac er mwyn ariannu refeniw gamblo."

Valley Greyhounds yn Ystrad MynachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un trac rasio sydd yng Nghymru - Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach

O dan y ddeddfwriaeth, y cynharaf y byddai rasio milgwn yn cael ei wahardd fyddai Ebrill 2027, a'r hwyraf fyddai Ebrill 2030.

Un trac rasio sydd yng Nghymru - Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach.

Bydd Senedd yr Alban hefyd yn trafod gwahardd y gamp ddydd Mercher, er nad oes yr un trac yn weithredol yno ers i'r un olaf gau y llynedd.

Cafodd y gwaharddiad ei groesawu gan Cut the Chase Coalition, sy'n cynnwys y Blue Cross, Dogs Trust, Achub Milgwn Cymru, Hope Rescue ac RSPCA Cymru.

Dywedon nhw fod cŵn, ers gormod o amser, "wedi talu'r pris am y math hen ffasiwn hwn o adloniant, gydag anafiadau a marwolaethau y gellir eu hatal yn llwyr".

Croesawodd yr elusen lles anifeiliaid, League Against Cruel Sports, y gwaharddiad hefyd gan alw iddo gael ei weithredu'n gyflym.

Dywedodd Jamie Adair o'r gynghrair fod nifer y marwolaethau ac anafiadau rasys milgwn yn "syfrdanol ac yn mynd y tu hwnt i'r hyn y mae pobl yn ei weld ar y traciau rasio".

Rhybudd bod 'risg uchel' o herio yn y llysoedd

Cafodd cais Bwrdd Milgwn Prydain am adolygiad barnwrol ei glywed yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, ac mae disgwyl dyfarniad ymhen ychydig wythnosau.

Mae Bwrdd Milgwn Prydain wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu â chynnal ymgynghoriad yn gyfreithlon, ac maen nhw'n gobeithio gallu diddymu'r gwaharddiad, er iddo gael ei basio yn y Senedd.

Wrth roi cyngor i'r gweinidog Huw Irranca-Davies, roedd swyddogion wedi rhybuddio bod "risg uchel" y gallai'r ddeddfwriaeth gael ei herio yn y llysoedd.

Roedd swyddogion wedi argymell datblygu trwyddedau ar gyfer perchnogion milgwn rasio, gan ddweud mai dyma fyddai'n darparu'r "cydbwysedd gorau o ran buddiannau lles" i'r cŵn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.