Pasio cyfraith i'w gwneud yn anghyfreithlon dweud celwydd mewn etholiad Senedd

Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ni fydd y gyfraith yn dod i rym tan 2030 ar y cynharaf

GanElliw Gwawr
Gohebydd gwleidyddol BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r Senedd wedi pasio cyfraith i'w gwneud hi'n anghyfreithlon i ymgeiswyr ddweud celwydd yn ystod etholiad Cymreig.

Mae'r gyfraith newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer trosedd newydd o wneud datganiadau ffug neu gamarweiniol i helpu ymgeisydd mewn etholiad.

Mewn pleidlais nos Fawrth, roedd 50 aelod o blaid, gydag aelod Reform Laura Ann Jones yr unig aelod i bleidleisio yn ei erbyn.

Mae wedi pasio er gwaethaf rhybuddion y gallai'r grymoedd newydd gyfyngu ar ryddid barn a rhwystro dadl ddemocrataidd.

Ni fydd y gyfraith yn dod i rym tan 2030 ar y cynharaf, ac felly nid yw'n berthnasol i'r etholiad sy'n cael ei gynnal fis Mai.

Mae'r mesur hefyd yn sefydlu system adalw, fydd yn rhoi'r cyfle i'r cyhoedd gael gwared â gwleidyddion sydd wedi camymddwyn.

O dan y system newydd fe allai aelod o'r Senedd sy'n torri rheolau ymddygiad wynebu pleidlais yn eu hetholaeth, yn gofyn a ddylen nhw barhau fel aelod ai peidio.

Ond yn wahanol i San Steffan, os ydyn nhw'n colli eu sedd - aelod arall o'r un blaid fyddai'n cymryd eu lle.

Deddf 'arloesol'

Yn ystod y ddadl derfynol yn y Senedd, dywedodd y cwnsler cyffredinol Julie James fod y ddeddfwriaeth yn "arloesol", ac y byddai'n sicrhau bod y Senedd nesaf yn "cydnabod ac yn dangos pwysigrwydd atebolrwydd aelodau i'r rhai sydd wedi'u gosod yma".

Mae Adam Price o Blaid Cymru wedi ymgyrchu ar y mater ers degawdau, ac fe ddywedodd "nad oes unrhyw Senedd wedi ei gwneud yn ofynnol yn ôl y gyfraith i lywodraeth wahardd anwiredd bwriadol ar draws trafodaethau etholiadol.

"Dyna'r cam y mae Cymru'n ei gymryd heno."

Ond er gwaethaf y gefnogaeth roedd amheuon am y ddeddfwriaeth hefyd, gyda'r aelod Ceidwadol Paul Davies yn rhybuddio bod "risg o hyd y gallai'r mesur gyfyngu'n anfwriadol ar drafodaeth ddilys a mynegiant gwleidyddol".

Pwysleisiodd hefyd ei bod yn "bwysig bod unrhyw system newydd yn gymesur, yn ymarferol ac yn gallu cyflawni'r canlyniadau a gafodd eu bwriadu".

'Datganiadau ffeithiau ffug neu gamarweiniol'

Roedd gweinidogion wedi addo gweithredu er mwyn atal gwleidyddion rhag dweud celwydd, ar ôl i gynnig tebyg bron â dod yn gyfraith yn erbyn dymuniadau Llywodraeth Cymru yn 2024.

Mae cefnogwyr y gyfraith newydd yn dadlau y bydd yn helpu i ailadeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn sefydliadau gwleidyddol.

Mae'r gyfraith yn gosod dyletswydd ar weinidogion Cymru i "wahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau ffeithiau ffug neu gamarweiniol cyn neu yn ystod etholiad" er mwyn helpu i ethol ymgeisydd.

Cafodd pryderon eu mynegi ym mis Ionawr y byddai'r gyfraith yn darparu pwerau "eithriadol" i gyfyngu ar ryddid barn.

Senedd CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn wahanol i San Steffan, pe bai aelod o Senedd Cymru yn colli sedd - aelod arall o'r un blaid fyddai'n cymryd eu lle

Dywedodd un pwyllgor fod Llywodraeth Cymru yn gofyn i'r Senedd "roi ei chymeradwyaeth i greu trosedd ddifrifol newydd sydd heb ei diffinio".

Rhybuddiodd un arall ei fod wedi'i ysgrifennu mewn ffordd a allai ganiatáu i lywodraeth yn y dyfodol "rwystro trafodaeth ddemocrataidd lawn a phriodol yn ystod ymgyrch etholiadol".

Mae'n feirniadol o'r ffaith nad yw'r mesur yn diffinio'n union beth yw datganiad "ffug neu gamarweiniol", i bwy y byddai'n berthnasol, na sut.

Yn hytrach mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i weinidogion greu trosedd ar ôl i'r mesur gael ei basio, trwy ddeddfwriaeth eilradd - sydd ddim yn wynebu'r un lefel o graffu.

Newidiadau pellach i broses safonau

Yn yr un modd, ni fydd y broses adalw yn cael ei sefydlu yn syth, gan fod rhaid aros tan ar ôl yr etholiad nesaf i lunio'r canllawiau, fydd yn penderfynu pa fath o drosedd all arwain at broses adalw.

Mae'r mesur hefyd yn gwneud newidiadau pellach i broses safonau'r Senedd.

Mae'r newidiadau yn cynnwys caniatáu i aelodau lleyg o'r tu allan i Senedd Cymru gael eu penodi i'r pwyllgor safonau, gyda'r gobaith y bydd hyn yn dod ag arbenigedd allanol ac annibyniaeth i waith y pwyllgor.

Mae hefyd yn rhoi pwerau newydd i'r comisiynydd safonau gynnal ei ymchwiliadau ei hun yn hytrach na dim ond dibynnu ar gwynion gan eraill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.