Ffyddlon neu fradwr? Yr ysgol sy'n cynnal gêm Traitors eu hunain

Y disgyblion yn trafod o amgylch y bwrdd
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol uwchradd yng Nghonwy wedi bod yn brysur yn cynnal eu fersiwn eu hunain o gyfres boblogaidd The Traitors.
Disgyblion y chweched dosbarth a'r staff yn ysgol John Bright Llandudno sy'n cynnal y gemau, gyda'r enillydd yn derbyn taleb ac arian yn cael ei roi i elusen.
Mae'r criw yn cymryd rhan mewn heriau wythnosol sydd wedi eu hysbrydoli gan y gyfres boblogaidd ar y BBC, ac yn mynychu sesiynau 'bwrdd crwn' fel sy'n cael ei weld ar y rhaglen.
Dywedodd pennaeth yr ysgol fod y gêm yn ffordd o "ddatblygu sgiliau ychwanegol" i'r disgyblion, a hynny "mewn ffordd real".
'Dim syniad beth sydd i ddod'
Mae'r rhaglen deledu, sy'n cael ei chyflwyno gan Claudia Winkleman, yn gweld cystadleuwyr yn ceisio darganfod pwy yn eu plith sy'n "ffyddlon" a pha rai sy'n "fradwyr".
Mae'r cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn heriau amrywiol er mwyn casglu arian, ac yn trafod theorïau a'u hamheuon o amgylch bwrdd crwn er mwyn ceisio darganfod pwy ydi'r bradwyr yn eu mysg.
Mae gan y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol gyfle i ennill hyd at £120,000, ond, os bydd bradwr yn goroesi tan y diwedd, nhw fydd yn cipio'r holl arian.
Mae'r gyfres wedi denu miliynau o wylwyr - yn eu plith, rhai o ddisgyblion ysgol John Bright yn Llandudno, sy'n chwarae eu gêm eu hunain.

Edith ac Iona sy'n chwarae rhan Claudia Winkleman, cyflwynydd y gyfres, yn eu fersiwn nhw o'r gêm
Mae Edith yn ddisgybl chweched dosbarth yn ysgol John Bright.
Ynghyd a'i ffrind Iona, mae'r ddwy wedi bod yn cynllunio sialensau i'w cyd ddisgyblion.
Dywedodd Edith: "Roedden ni wedi dod i fyny efo'r syniad i wneud y Traitors yn John Bright.
"Roedden ni wedi mynd i'r gampfa a dweud amdan y Traitors a faint o hwyl fyddai o i wneud o yn yr ysgol.
"Roedd y syniad wedi dod i fyny o hyn. Maen nhw'n gyffrous. Mae llawer o bobl sy'n caru'r Traitors."
Mae Ifanna a Stevie wedi bod yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r gêm yn yr ysgol.
Dywedodd Ifanna: "Mae pawb sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth efo dim syniad beth sydd i ddod, dwi'n rili edrych ymlaen i weld beth fydd yn digwydd."
Wrth drafod y gyfres deledu, dywedodd Ifanna ei bod yn credu mai'r bradwyr fydd yn ennill y gystadleuaeth, fydd yn dod i ben nos Wener.

Dydi Stevie erioed wedi gwylio'r gyfres deledu, ond mae'n edrych ymlaen at chwarae'r gêm yn yr ysgol
Dywedodd Stevie: "Mae llawer wedi bod yn sôn am y Traitors ers wythnosau, cyn y Nadolig daeth allan gyntaf yn y gwasanaeth ysgol ac ers hynny dyna'r cyfan mae pawb wedi bod yn siarad amdano.
"Dydw i ddim wedi gwylio'r Traitors felly rydw i ychydig yn y tywyllwch gyda'r holl beth, ond yn gyffrous am yr hyn sydd i ddod. Rydw i ychydig yn nerfus."
Mae Cymraes wedi bod yn rhan fawr o'r gyfres eleni - Fiona Hughes o Abertawe, gafodd ei dewis fel 'secret traitor', rôl newydd sbon yn y gyfres eleni.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd fod "pob nerf yn fy nghorff i'n tinglo" pan ddaeth hi i wybod am ei rôl.
"Roedd hi fel bod yn blentyn, yn deffro fore Nadolig, a phopeth ar eich rhestr chi yno - roedd hi'n wych."

Er bod Fiona Hughes bellach allan o'r gystadleuaeth, dywedodd ei bod yn mwynhau gwylio'r gyfres gyda gweddill y cyhoedd
Ond cyfaddefodd fod mynd i'r turret gyda'r bradwyr eraill yn heriol.
"Roedd cael y cyfle i fynd ar The Traitors a chynrychioli Cymru a dinas Abertawe yn rhyfeddol," meddai.
"Dwi mor falch o fod yn Gymraes – mae 'na gynhesrwydd, hwyl a charedigrwydd gennym ni fel cenedl."
Mae gweld Fiona yn serennu ar y gyfres wedi ysbrydoli disgyblion ysgol John Bright.
Dywedodd Ifanna ei bod wedi wir mwynhau gweld y Gymraes ar y gyfres.
"Dwi wir wedi mwynhau gweld hi ar y gyfres achos mae hi jest fel be' dwi'n feddwl mae Cymru fel - mae hi'n lyfli."
Roedd Eric yn hoffi gweld cynrychiolaeth o Gymru ar y rhaglen hefyd.
Dywedodd: "Dwi wrth fy modd yn gweld Fiona ar y Traitors, achos pan dwi'n gwylio fo, dwi'n gallu edrych allan am bethau mae pobl Cymraeg yn gwneud - habits bach a'r acen hefyd."

Yn ôl y pennaeth, mae'r disgyblion yn meithrin sgiliau arbennig drwy chwarae'r gêm
Mr Hywel Parry ydi pennaeth yr ysgol, ac mae'n falch o weld y disgyblion yn datblygu.
"Yma yn y chweched dosbarth mae'r canlyniadau yn wych, mae'r plant yn 'neud cynnydd ffantastig, ond mae'n bwysig ein bod yn edrych ar ôl y plant [ym mhob agwedd] ac yn meithrin sgiliau arwain, ac yn rhoi cyfle iddyn nhw fwynhau eu hunain.
"Mae'r syniad wedi dod gan y disgyblion yn wreiddiol i ailgreu fersiwn eu hunain o'r Traitors.
"Mae'n hynod o bwysig iddyn nhw gael cyfleoedd, datrys problemau, yn gorfod gwneud y trafod ac edrych ar dystiolaeth ond yn gwneud hynny mewn ffordd hwyl, byrlymus a dod i adnabod ei gilydd yn well.
"Bydd nifer o'r disgyblion yn mynd i brifysgolion ledled Prydain cyn bo hir, a felly yn datblygu sgiliau ychwanegol bywyd hefyd, mewn ffordd real."
Fe fydd y disgybl sy'n ennill y gystadleuaeth yn yr ysgol yn derbyn taleb i'w helpu i dalu am offer i'r brifysgol, a bydd unrhyw arian sydd yn weddill yn cael ei roi i elusen.
Bydd y gyfres ddiweddaraf yn dod i ben nos Wener, gyda'r rhaglen olaf ar gael i'w gwylio ar BBC One a BBC iPlayer am 20:30.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.