Cyhuddo dyn wedi gwrthdrawiad angheuol yn Llanpumsaint

Bu farw Aaron Jones yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Sir Gaerfyrddin y llynedd.
Bu farw Aaron Jones, oedd yn 38 oed, yn dilyn gwrthdrawiad â char wrth iddo fynd â'i gi am dro ym mhentref Llanpumsaint ar nos Lun 23 Rhagfyr 2024.
Cafodd Daniel Wyke o Gaerfyrddin ei arestio ar y diwrnod canlynol ac mae bellach wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ac o yrru'n beryglus.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ar ddydd Iau 15 Ionawr, 2026.

Dywedodd cynghorydd lleol wedi'r digwyddiad fod y gymuned leol "wedi mynd yn dawel" ac yn "galaru" dros gyfnod y Nadolig
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger Capel y Bedyddwyr Caer Salem ym mhentref Llanpumsaint rhwng 18:45 a 19:45 ar 23 Rhagfyr.
Mewn datganiad ddydd Mawrth dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw'n cydnabod bod yr ymchwiliad wedi bod yn un "hir" a'u bod yn "ddiolchgar iawn i deulu Aaron a'r gymuned ehangach am eu hamynedd a'u cefnogaeth".
Dywedon nhw hefyd eu bod yn parhau i gefnogi teulu Aaron wrth i'r achos fynd rhagddo a'u bod yn "ceisio sicrhau cyfiawnder" i Aaron a'i anwyliaid.
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
