Naw mlynedd o garchar i weithiwr ysbyty am gamdrin cleifion

Ieuan CymruFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ieuan Crump ymosod ar ddwy fenyw tra'n gweithio yn Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân

  • Cyhoeddwyd

Mae gweithiwr iechyd oedd o dan hyfforddiant wedi ei ddedfrydu i naw mlynedd o garchar am ymosod yn rhywiol ar ddwy fenyw oedd yn gleifion yn 2021.

Yn Llys y Goron Merthyr Tudful fis diwethaf fe gafwyd Ieuan Crump, 27, o Gilfach, yn euog o naw cyhuddiad.

Digwyddodd yr ymosodiadau tra roedd Mr Crump yn cynnal sganiau ac archwiliadau meddygol fel rhan o'i waith yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yng Nghwmbrân ym mis Awst 2021.

Clywodd y llys iddo gynnal archwiliadau ffug ac "hollol ddiangen" er mwyn ei foddhad rhywiol ei hun.

Roedd Crump yn gwadu'r cyhuddiadau ond fe gafwyd yn euog gan reithgor o chwe chyhuddiad o ymosodiad rhywiol a thri o ymosodiad trwy dreiddiad.

'Anghyfforddus' gyda'r driniaeth

Clywodd y llys bod Crump yn gweithio yn yr ysbyty yn llenwi bylchau staffio, tra roedd yn hyfforddi i fod yn nyrs.

Roedd wedi gofyn i "gymryd golwg" ar un claf ar ôl ymdrech aflwyddiannus i roi cathetr iddi.

Ond clywodd y llys iddo ymosod arni'n rhywiol trwy archwilio ei fagina yn ddiangen, cyn dweud wrthi'n ddiweddarach ei bod angen sgan ar ei phledren, a'i chyffwrdd eto.

Fe wnaeth Crump ymosod ar yr un claf y diwrnod canlynol, a phan ganiatawyd iddi fynd adref, roedd hi'n "anghyfforddus" gyda'r driniaeth.

Yr un diwrnod daeth claf arall i mewn gyda phoen difrifol, ac fe wnaeth Crump sgan ar ei phledren "heb unrhyw reswm clinigol", gan ofyn iddi dynnu ei dillad isaf.

Pan geisiodd archwilio'r claf am y trydydd tro, fe wnaeth hi wrthod, a rhoi gwybod am yr hyn oedd wedi digwydd i staff.

Cafodd Crump ei arestio yn fuan wedyn.

Ieuan Crump
Disgrifiad o’r llun,

Ieuan Crump yn cyrraedd ei wrandawiad dedfrydu ddydd Iau

Clywodd y llys bod ei droseddau wedi cael effaith ddifrifol ar ei ddioddefwyr.

Mewn datganiad personol gan ddioddefwr, disgrifiodd un fenyw sut mae ei bywyd wedi teimlo fel "hunllef" ers yr ymosodiad.

Roedd y claf yn sôn fod yr ymosodiad wedi effeithio'n fawr ar ei hiechyd meddwl a'i bod wedi ceisio lladd ei hun deirgwaith.

"Roeddwn i jyst eisiau i fy mywyd ddod i ben, fel na fyddai'n rhaid i mi ailfyw'r hyn oedd yn fy mhen, o'r hyn a wnaeth Ieuan i mi," meddai.

"Rwy'n teimlo'n anghyfforddus iawn pan yn cael triniaeth gan unrhyw un yn y proffesiwn meddygol, gan nad wyf bellach yn gallu ymddiried yn neb, ddim hyd yn oed meddygon."

Roedd claf arall wedi cael diagnosis o PTSD ers i Crump ymosod arni, a dywedodd fod y digwyddiad wedi gwneud iddi beidio ag ymddiried mewn dynion.

Mewn datganiad personol dywedodd: "Mae wedi gwneud i mi feddwl, os gall gweithiwr gofal iechyd gyflawni gweithred o'r fath, yna mae unrhyw ddyn yn fygythiad."

'Anhygoel o niweidiol'

Wrth ddedfrydu Crump, dywedodd y barnwr Vanessa Francis fod ei droseddau yn "anhygoel o niweidiol" ac mai'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo a wnaeth iddo feddwl y gallai "ddianc gyda'r troseddau".

Mae Crump wedi cael ei wahardd rhag gweithio gyda phlant a phobl fregus yn y dyfodol.

Ysbyty Athrofaol Y FaenorFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod Mr Crump wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd iechyd yn Ysbyty’r Faenor wrth hyfforddi am ei radd nyrsio

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan eu bod yn meddwl am y dioddefwyr, a gafodd eu "bradychu" yn yr ysbyty oherwydd ymddygiad Crump.

Fe bwysleision nhw nad oedd unrhyw bryderon wedi cael eu codi am ei ymddygiad cyn y digwyddiadau yma.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi gweithio'n agos gyda Heddlu Gwent drwy gydol y broses i sicrhau y gellid ymchwilio'n llawn ac yn briodol i'r mater.

"Cyn gynted ag y cawsom wybod am y cyhuddiadau, cafodd ei ddiswyddo ar unwaith.

"Rydym wedi sicrhau bod cefnogaeth ar gael i'r dioddefwyr cyn gynted ag y codwyd pryderon a bod cynnig o gefnogaeth bellach ar gael, os ydyn nhw ei angen, yn dilyn yr achos llys.

"Ni fydd ymddygiad amhriodol gan ein staff na chleifion yn cael ei oddef."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.