In Pictures: Romantic locations of Wales

Tŷ Newton, Dinefwr
- Cyhoeddwyd
Do you want to take your sweetheart to one of Wales' most beautiful places on St. Dwynwen's Day?
('Diwrnod Santes Dwynwen' is the Welsh equivalent of Valentine's Day, celebrated annually on 25 January)
From Llanfair to Welshpool, the National Trust in Wales has published a collection of photos of Wales' most romantic spots—views that capture the feeling of "I love you."
The National Trust in Wales said:
"We have chosen a selection of views that will inspire 'love at first sight,' which can be easily missed if you don't know where to look."
//
Ydy chi eisiau mynd a'ch cariad i un o lefydd hardda' Cymru ar Ddiwrnod Santes Dwynwen?
O Lanfair i'r Trallwng, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru wedi cyhoeddi casgliad o luniau o fannau mwyaf rhamantus Cymru, golygfeydd sy'n cyfleu "dw i'n dy garu di".
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru:
"Rydym wedi dewis detholiad o olygfeydd a fydd yn ennyn 'cariad ar yr olwg gyntaf', y gellir eu methu'n hawdd os nad ydych yn gwybod ym mhle i edrych."

The Heart Garden – a hidden heart in Dyffryn Gardens in the Vale of Glamorgan. // Gardd y Galon - calon gudd yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg

Allt y Môr, near Llanfair – locals call this magnificent view over Harlech and Cardigan Bay 'OMG Corner.' A view that is enough to make your heart beat a little faster.
//
Allt y Môr, ger Llanfair - 'Cornel OMG' mae pobl leol yn galw'r olygfa odidog hon dros Harlech a Bae Ceredigion. Golygfa sy'n ddigon i wneud eich calon guro ychydig yn gynt.

The home of the Welsh dragon at Dinas Emrys – this view over Nant Gwynant in Eryri (Snowdonia) awakens the history of the famous legend about the battle between the red dragon and the white dragon, where the red dragon was victorious.
//
Cartref y ddraig Gymreig yn Ninas Emrys - mae'r olygfa hon dros Nant Gwynant yn Eryri yn deffro hanes chwedl enwog am y frwydr rhwng y ddraig goch a'r ddraig wen, lle bu'r ddraig goch yn fuddugoliaethus.

The panoramic view to be seen from the top of Foel y Mwnt allows you to see Bardsey Island and Snowdon on a clear day. Occasionally you can see dolphins, porpoises, or seals from this splendid spot. A lovely place to go for a walk on St. Dwynwen's Day.
//
Mae'r olygfa banoramig sydd i'w gweld o ben Foel y Mwnt yn caniatau i chi weld Ynys Enlli a'r Wyddfa ar ddiwrnod clir. Ambell waith gallwch weld dolffiniaid, llamhidyddion neu forloi o'r man ysblenydd hwn. Lle hyfryd i fynd am dro ddiwrnod Santes Dwynwen.

From the wooden bench in the deer park, there is a great view of Newton House - it looks like a perfect place for lovers to take a break while walking the Deer Park path. Dinefwr, Carmarthenshire, has strong connections with the Welsh princes of Deheubarth.
//
O'r fainc bren yn y parc ceirw mae 'na olygfa wych o Dŷ Newton - edrych fel lle perffaith i gariadon gymryd hoe wrth droedio llwybr Parc y Ceirw. Mae gan Ddinefwr, Sir Gâr, gysylltiadau cryf â thywysogion Cymreig y Deheubarth.

Swans tend to mate for life, so if you are feeling romantic near Erddig's central canal... perhaps there is a question you would like to ask your partner!
//
Mae elyrch yn dueddol i baru am oes, felly os ydych chi'n teimlo'r rhamant ger camlas ganolog Erddig... efallai bod cwestiwn hoffech chi ei ofyn i'ch partner!

From Plas Menai, there is a lovely view of the Menai Strait and Eryri. Only a stone's throw away is Llanddwyn Island, the island of Welsh lovers and home to the ruins of St. Dwynwen's church.
//
O Blas Menai mae golygfa hyfryd o'r Fenai ac Eryri. Dim ond tafliad carreg i ffwrdd mae Ynys Llanddwyn, sef ynys cariadon Cymru a chartref adfeilion eglwys Santes Dwynwen.

"There's nowhere like Dinlle when the weather is fine" – on a clear day, you can see Llanddwyn Island, the island of Wales' patron saint of lovers, St. Dwynwen, from Dinas Dinlle. According to the story, this is where Dwynwen lived after establishing a nunnery there. The ruins of a church that had been dedicated to her can be seen there to this day.
//
"Nunlle fel Dinlle pan fo'r tywydd yn braf" - ar ddiwrnod clir, gallwch weld Ynys Llanddwyn sef ynys nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen, o Ddinas Dinlle. Yn ôl y stori, dyma ble'r oedd Dwynwen yn byw ar ôl sefydlu lleiandy yno. Mae adfeilion eglwys a oedd wedi'i chysegru iddi i'w gweld yno hyd heddiw.

The Rose Terrace in Bodnant Gardens. From this spot, there is a picturesque view of the Carneddau mountains across the Conwy Valley. A good place to give a bouquet of roses to your sweetheart, perhaps?
//
Y Teras Rhosynnau yng ngherddi Bodnant. O'r safle yma mae 'na olygfa fendigedig o'r Carneddau dros Ddyffryn Conwy. Lle da i roi tusw o rosynnau i'ch cariad, falle?

Even the flower petals at Bodnant are feeling romantic...
//
Mae hyd yn oed petalau'r blodau ym Modnant yn teimlo'r rhamant...

They say that Italy is one of the most romantic countries, but this view of the Italianate Gardens at Powis Castle, Welshpool, can evoke the feeling of romance as well as anywhere!
//
Maen nhw'n dweud fod Yr Eidal yn un o'r gwledydd mwyaf rhamantus, ond gall yr olygfa hon o'r Gerddi Eidalaidd yng Nghastel Powis, Trallwng, alw'r teimlad o ramant cystal ag unrhyw le!

Happy St. Dwynwen's Day to you all!
//
Dydd Santes Dwynwen Hapus i chi gyd!
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024
