'Dyma be' dwi wedi ei ddysgu ers sgwennu llyfr am alcoholiaeth fy nhad'

Sophie CalonFfynhonnell y llun, Taz Rahman
Disgrifiad o’r llun,

Yr awdur Sophie Calon

  • Cyhoeddwyd

Chwe mis yn ôl fe wnaeth yr awdur Sophie Calon, sy'n byw ger Y Gelli Gandryll, gyhoeddi llyfr am alcoholiaeth ei thad.

Yn Long Going roedd hi'n cofio nôl i'w magwraeth yng Nghaerdydd gan riant oedd yn llawn antur a chariad, ond oedd hefyd yn yfed yn drwm. Fe wnaeth eu perthynas bellhau wrth i'w ddibyniaeth gynyddu a'r effaith ar y teulu ddwysau.

Pedair blynedd ers ei farwolaeth a hanner blwyddyn ers cyhoeddi ei llyfr, mae hi'n sgwennu yma am yr ymateb i'w gwaith a'r hyn mae hi wedi ei ddysgu.

Mewn bydysawd paralel, y mis nesaf byddem wedi bod yn dathlu pen-blwydd fy nhad yn 60 oed.

Yn lle hynny, yn 2021, cafwyd hyd i'w gorff y tu allan i hostel yng Nghaerdydd yn oriau mân y bore ar ôl Gŵyl San Steffan. Roedd alcoholiaeth wedi newid siâp ei galon. Teimlais alar a rhyddhad.

Am y rhan fwyaf o'm mywyd roedd e wedi bod yn un o fy ffrindiau gorau – gofalgar, doniol, clyfar, anturus – ond doeddwn i heb ei weld ers dros ddwy flynedd.

Mae'n chwe mis bellach ers i Long Going ddod i'r byd. Mae'n gofiant am fy mywyd gyda, a heb, fy nhad.

Mae darllenwyr wedi dweud eu bod wedi'i ffeindio'n galonogol ac, yn anad dim, dyna sut dw i'n teimlo am ein stori hefyd. Yn y pen draw, mae'n llyfr am gariad.

Ar ddiwrnod y cyhoeddi, doedd gen i ddim disgwyliadau o sut y byddai gweddill y flwyddyn yn mynd. Mae amser yn brin, ond ar y garreg filltir hon, dw i'n gwneud amser i fyfyrio, oherwydd mae wedi bod yn daith swreal.

Dyma bum peth dw i wedi dysgu.

1. Mae rhannu problem yn ei haneru

Wnes i erioed siarad am alcoholiaeth fy nhad. Roedd yn teimlo'n anffyddlon, yn drist, yn hunanfoddhaol.

Ar ôl iddo farw, teimlais bod yn rhaid i mi gofnodi ein bywyd ac fe newidiodd rhywbeth tra roeddwn i'n ysgrifennu'r cyfan i lawr.

Dw i wedi rhannu ein stori mewn dros 20 o ddigwyddiadau llenyddol, gyda phump arall wedi'u trefnu ar gyfer mis Ionawr. Roedd rhai, fel y Radio Wales Arts Show yng Ngŵyl y Gelli, yn fawr. Roedd eraill, fel yn swyddfa Recovery Cymru, yn fwy agos atoch.

Mae'r sgyrsiau hyn wedi digwydd mewn amgueddfa, fy hen ysgol, caffi, siopau llyfrau, Canolfan Cymry Llundain, llyfrgell, cyfryngau cymdeithasol ar-lein, siop recordiau. Mae pob un wedi ehangu fy nealltwriaeth.

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod dibyniaeth a chaethiwed hefyd wedi effeithio ar bobl dw i wedi'u hadnabod erioed, oherwydd wnaeth yr un ohonom ni siarad amdano.

Ni ddylai fod unrhyw stigma o amgylch y salwch hwn, ac nid brad yw siarad amdano.

Mewn gwirionedd, dw i'n credu ei fod yn hanfodol.

2. Weithiau, mae'n rhaid gorffwys

Clawr Long GoingFfynhonnell y llun, Honno/Sophie Calon

Rydw i'n tueddu i ddweud 'ie' i bopeth. Mewn cerdd ar gyfer fy mhen-blwydd yn 21 oed ysgrifennodd fy nhad: 'Seize the day, seize the night, and seize whatever else you can seize'.

Fe allwn i gysylltu'r ymdeimlad hwn o frys gyda sut y collais ef a fy mrawd tra roedden nhw mor ifanc – ymwybyddiaeth gynyddol fod bywyd yn gallu bod yn fyr – ond dw i bob amser wedi teimlo fel hyn.

Yn yr unig sgwrs iawn a gefais gyda fy nhad am ei yfed, des i â phrint o dudalen we AA (Alcoholics Anonymous) oedd yn dweud: 'HALT if you feel hungry, angry, lonely, or tired'. Weithiau fe ddylwn i wrando fwy ar y cyngor.

Dros yr haf fe deithiais i fyny ac i lawr y wlad ar gyfer digwyddiadau, a bod yn riant a gwneud swydd brysur. Roeddwn i mewn perygl o losgi allan ac fe wnes i'n siŵr fy mod i'n trefnu gorffwys dros yr hydref.

3. Mae'r mwyafrif o bobl yn garedig

Dw i wedi derbyn negeseuon dirifedi gan ddieithriaid, yn dweud sut roedd fy stori wedi atseinio gyda nhw ac yn anfon dymuniadau cynnes.

Heb dîm marchnata a bron dim cyllideb i farchnata, mae pobl wedi dod i glywed am y llyfr yn y ffordd hen ffasiwn o siarad amdano a'i argymell i'w gilydd.

O fewn pythefnos i'w gyhoeddi, roedd wedi gwerthu allan. O fewn 15 wythnos, roedd yn rhaid i ni gael trydydd argraffiad. Dechreuais deimlo mai gwaddol fy nhad yw helpu eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae cymuned ysgrifennu Cymru wedi bod yn groesawgar iawn. Er gwaethaf teimlo ar goll drwy gydol fy ugeiniau, rydw i nawr wir yn teimlo fy mod i'n perthyn.

4. Fe fydd 'na gwestiynau bob amser

Fydda i byth yn gwybod pam wnaeth fy nhad yfed, ac dw i wedi dysgu fy mod i'n iawn gyda hyn.

Un o'r negeseuon mwyaf cofiadwy a gefais oedd gan ddarllenydd yn Seattle, wnaeth ddarganfod Long Going drwy'r cylchgrawn Literary Review.

Ysgrifennodd am y ddeuoliaethau dwfn yn stori ein teulu: dicter a chariad, gwrthod a ffyddlondeb, camweithrediad a thawelwch, tristwch dwfn ac atgofion melys. Does dim byd yn un dimensiwn, ac allwn ni ddim cael yr atebion i bopeth.

5. Mae gan bawb yr hawl i lawenydd

Yn ystod lansiad y llyfr, fe ddisgrifiodd fy asiant Philip Gwyn Jones fy nhad fel "presenoldeb hynod bwerus sy'n fflamio ar draws y llyfr". Ar ôl hyn fe dreuliais haf poeth, llawen yn ail-ymweld â lleoedd o'm gorffennol, yn aml gyda fy ngŵr a'm merch.

Weithiau roedd bron fel sgwrsio ag ysbrydion fy mywyd yn y gorffennol, y presennol a'r rhai sydd i ddod. Dw i'n teimlo bod Long Going wedi fy ngwneud yn ysgafnach, yn fwy tosturiol.

Yn sicr mae wedi fy nhynnu'n agosach at fy nhad.

Roedd yn arfer dweud: "See the beauty". Cyn cynnal digwyddiad am Long Going yn llyfrgell Y Barri, lle cafodd ei fagu, eisteddais ar batio fy nain gyda hi, fy ewythr, fy chwaer, a fy merch.

Roedden ni wedi bod yn sblasio yn y tonnau i lawr ar y traeth. Ni chafodd fy merch gwrdd â fy nhad erioed, ond roedd gyda ni mewn ysbryd y prynhawn hwnnw - fel y mae e mor aml.

Dw i'n teimlo ei golled, ond yn fwy na dim dw i'n teimlo'r llawenydd y magodd fi ag ef.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.