'Gafodd Nain wersi piano gan Gustav Holst': cofio'r gyfeilyddes Maimie Noel Jones

Maimie Noel Jones gyda'i wyrion - Gary Pritchard ar y chwith a'i frawd bach Bryn ar lin nain
- Cyhoeddwyd
Gyrru sportscar, teithio i Lundain i weithio i'r BBC a defnyddio stamp inc gyda'i llofnod arno, doedd Maimie Noel Jones ddim yn ffitio'r darlun o'r nain draddodiadol Gymreig.
Wedi ei magu yn Y Felinheli, fe chwaraeodd ran flaenllaw yn natblygiad adloniant ar y cyfryngau Cymraeg fel cyfeilyddes i Driawd y Coleg a rhaglenni teledu cynnar gyda Sassie Rees.
Ac fe lwyddodd mewn cyfnod ac mewn diwydiant oedd yn cael ei reoli gan ddynion.
Wrth i BBC Bangor ddathlu pen-blwydd 90 oed, ei ŵyr Gary Pritchard fu'n hel atgofion o'i nain oedd yn gweithio yno fel cyfeilyddes am flynyddoedd.
"Dwi'n meddwl ella nad yda ni'n sylweddoli hyd yn oed fel teulu faint o gyfraniad wnaeth Nain," meddai ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"A dwi'n meddwl ella dyna ydi'r tristwch achos mi roedd hi'n ddynes yn y cyfnod lle fuodd hi'n cyfeilio ac yn gweithio i'r BBC mewn byd o ddynion go iawn.
"Mae rhywun yn teimlo weithiau ella ei bod hi wedi cael ei anghofio - ella oherwydd mai hi oedd yn cyfeilio... ond efallai hefyd oherwydd mai merch oedd hi mewn byd gwrywaidd iawn bryd hynny."

Enw llwyfan oedd Maimie Noel Jones - ond un wnaeth hi yn ddiweddarach ei newid yn gyfreithiol o'i henw gwreiddiol Mary Jane, enw roedd hi'n ei gasau
Fe gafodd Maimie Noel Jones ei magu mewn teulu cerddorol yn Dinorwic House, Y Felinheli. Roedd yn amlwg yn gynnar yn ei bywyd bod ganddi gyfle i wneud gyrfa fel pianydd.
"Pan oedd hi'n dod i neud chores o gwmpas y tŷ doedd Nain ddim yn cael golchi llestri na dystio - roedd hi'n cael ei gorfodi i fynd i ymarfer y piano," meddai Gary. "Doedd hi ddim yn cael golchi llestri rhag ofn iddi wneud niwed i'w dwylo felly roedden nhw'n gwybod o oed cynnar iawn bod ganddi dalent ar y piano."
Aeth i'r brifysgol ym Mangor i astudio cerddoriaeth ar ddechrau'r 1930au, y ferch gyntaf i wneud hynny yn ôl stori'r teulu, er nad ydyn nhw wedi gallu profi hynny eto. Un peth sy'n sicr ydi ei bod hi'n astudio mewn cyfnod pan nad oedd llawer o ferched yn gwneud hynny - ac fe gafodd wersi gan gyfansoddwr byd-enwog The Planets.
"Gafodd hi wersi piano gan Gustav Holst," meddai Gary wrth BBC Cymru Fyw. "Roedd o'n ryw fath o travelling professor, rhywun oedd yn dod i roi gwersi piano i rai oedd efo dawn gerddorol, ac roedd o'n dod i Fangor i roi gwersi i Nain.
"Mam wnaeth sôn wrtha i - mae 'na lot o bethau 'da ni wedi clywed ers i Nain farw. Doedd hi ddim yn un i frolio."

Maimie Noel Jones wrth y piano gyda Sassie Rees. Roedd y ddwy yn gweithio gyda'i gilydd ar raglenni teledu a radio i blant i BBC Cymru, er enghraifft Telewele, Lili Lon a Jim Cro Crwstyn
Roedd hi'n gyfeilyddes broffesiynol i'r BBC a bu'n gweithio'n BBC Bangor gyda nifer o ffigurau amlwg o'r byd adloniant Cymraeg yn nyddiau cynnar radio a theledu.
Roedd yn gweithio yno yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan wnaeth adran adloniant ysgafn y BBC ac enwau adnabyddus y cyfnod fel Tommy Handley a chriw It's That Man Again ymgartrefu yno er mwyn osgoi'r bomiau oedd yn disgyn ar Fryste.
Maimie Noel Jones hefyd oedd cyfeilyddes swyddogol Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am flynyddoedd. Roedd hi'n falch o ddweud mai hi oedd yn chwarae'r piano i Luciano Pavarotti pan wnaeth o ei ymddangosiad cyntaf yno, fel aelod o gôr cyn iddo ddod yn denor byd enwog.
Roedd hi hefyd yn cyfeilio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac i'r tenoriaid poblogaidd David Lloyd a Richie Thomas.

Tystysgrif Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1939 wedi i Maimie Noel Jones ennill y wobr am gyfeilio
Ond i Gary, Nain oedd hi, fel eglurodd ar raglen Aled Hughes:
"Dwi'n cofio Nain mewn rhyw sports car - doedd hi ddim yn nain arferol.
"Roedd ganddi gar bach fflash ac roedd hi'n teithio i Lundain a theithio i Gaerdydd a Taid oedd adra efo Anti Mag, sef chwaer fy nhaid, a nhw oedd yn edrych ar ôl y tŷ a Nain oedd yn mynd i weithio.
"Roedd o'n rhywbeth na neshi erioed feddwl oedd yn anarferol tan dwi'n edrych yn ôl ar y cyfnod rŵan a meddwl gymaint oedd hi'n neud fel merch yn y cyfnod yna."

Gary (yn y cefn ar y chwith) ar ddiwrnod ei briodas i Mari (dde), yn ymweld â 'Nain Felin' yn Ysbyty Gwynedd wedi iddi fethu mynd i'r gwasanaeth ar ôl iddi ddisgyn a thorri ei dwy glun
Ar ôl ymddeol wnaeth Maimie Noel Jones roi'r gorau i chwarae'r piano a doedd hi ddim yn siarad lawer am y cyfnod.
Gan mai ei gwaith bob dydd oedd cyfeilio, dywedodd Gary nad oedd o'n sylweddoli ei rôl hi yn y byd adloniant Cymraeg pan oedd o'n blentyn. Ers hynny - ac yn enwedig ac yntau wedi gweithio yn BBC Bangor ar ddechrau ei yrfa yn y cyfryngau - mae o wedi dod i ddysgu llawer mwy amdani ac wedi dod o hyd i nifer o greiriau.
Meddai Gary, sydd bellach yn arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn: "Mae'n rhaid bod Nain yn cael fan mail achos roedd ganddi hi stamp efo'i llofnod hi arno fo yn hytrach na bod hi'n gorfod sgwennu fo.
"Mae 'na lot o ryw bethau sydd ganddon ni o'r cyfnod sy'n bwysig i'w cadw yn y teulu achos maen nhw'n dangos pwysigrwydd celfyddyd a pha mor allweddol oedd Nain yn chwarae ei rhan yn y cyfnod yna hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025

