Dyn o Wynedd 'eiliadau' o gael ei daro yn ystod gorymdaith Lerpwl

Dywedodd Tomos Roberts y byddai'r digwyddiad yn "aros efo fi am byth"
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd yn dweud ei fod yn "andros o lwcus" ar ôl dod o fewn "eiliadau" i gael ei daro gan y car wnaeth yrru trwy dorf o gefnogwyr pêl-droed yn Lerpwl ym mis Mai.
Fe wnaeth yr hwyl a'r dathlu ar Water Street ar brynhawn Llun, 26 Mai droi'n banig llwyr pan yrrodd Paul Doyle ei gar at y dorf - gan anafu dros 130 o bobl.
Yn Llys y Goron Lerpwl ddydd Mawrth cafodd Doyle, 54 oed, ei ddedfrydu i 21 mlynedd a hanner o garchar ar ôl pledio'n euog i 31 o gyhuddiadau yn ymwneud ag anafu pobl.
Wrth ymateb i'r dedfrydu, dywedodd Tomos Roberts o'r Bontnewydd ger Caernarfon fod y digwyddiad "bob tro yng nghefn fy meddwl".
Roedd Tomos Roberts wedi teithio i'r ddinas y diwrnod cyn yr orymdaith i ddathlu llwyddiant Lerpwl yn Uwch Gynghrair Lloegr er mwyn gwylio gêm ola'r tymor yn erbyn Crystal Palace.
Fe wnaeth Mr Roberts aros yn y ddinas i wylio'r dathliadau a dywedodd ei fod yn cerdded i fyny Water Street pan glywodd "sŵn bangio".
Dywedodd ei fod o fewn "eiliadau" o fod yn yr union fan ble ddaeth y car i stop.
"Ddos i fyny bron iawn wrth ymyl front y car a dwi'n cofio sbïo lawr a gweld rhywun ar y llawr fel bo' nhw'n sownd o dan y car," meddai.
"Roedd pobl ar ben y car, a just yr heddlu wedyn yn neud rhyw fath o barricade o'i gwmpas.
"Y sŵn a'r panig oedd y gwaetha'... [ac wedyn] sŵn y gwasanaethau brys yn fflio i mewn, hofrennydd yn glanio. Oedden ni'n gwybod fod 'wbath reit ddifrifol wedi digwydd."

Yr olygfa ar Water Street wedi'r digwyddiad ar 26 Mai
Ar ôl gwneud ei ffordd yn ôl i'r car gyda'i ffrindiau, sylweddolodd Mr Roberts pa mor agos yr oedd wedi dod i fod yn un o'r rhai a gafodd eu taro.
Dywedodd ei fod wedi stopio i gymryd llun ac wedi cymryd troad gwahanol ar ei ffordd i Water Street.
"Mae'r petha' 'na i gyd yn mynd trwy dy feddwl di," meddai.
"Be os fysa ni 'di symud ymhellach i fyny i wylio'r bỳs yn dod, lle fysa ni wedyn? Achos ti'n siarad am eiliadau.
"Un o'r rhesymau nath y car stopio oedd bod 'na bobl yn sownd o dan a bod 'na rhywun di dringo fewn i gefn y car a di codi'r handbrake. Os 'sa hynna heb ddigwydd 'sa fo 'di cario 'mlaen i ddreifio lawr yn agosach atom ni."
'Neith o aros efo fi am byth'
Mae'r digwyddiad yng nghefn ei feddwl o hyd, meddai Mr Roberts, ond er ei fod yn ail-fyw'r hyn ddigwyddodd yn aml, mae o am barhau i fynd i ddigwyddiadau o'r fath yn y dyfodol.
"Mae o bob tro yng nghefn fy meddwl i, yn enwedig pan dwi'n mynd i lefydd wan lle ma' 'na crowds mawr," meddai.
"Swni'm yn deud fod o'n mynd i stopio fi neud pethau fel mynd i gêm ond mae o wastad yng nghefn meddwl chdi. Dwi just yn andros o lwcus i fod yma i ddeud y stori a bod o heb effeithio fi fel rhai pobl."
Ychwanegodd: "Dwi'm yn meddwl neith y teuluoedd symud ymlaen efo'i plant nhw wedi cael eu heffeithio, ac yn feddyliol hefyd - dwi'n meddwl amdano fo weithiau yn y nos a dwi'n siŵr fod 'na bobl yn lot gwaeth na fi.
"Mae o dal yn cael effaith. Fydd o'n rhyfedd mynd nôl i Lerpwl, fyddai yna efo fy mhlant a'n deud 'fama nath o ddigwydd, fama 'sa rhywbeth arall di gallu digwydd i ni' - neith o aros efo fi am byth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2025
