'Modd cael gyrfa dda a theithio'r byd tra'n rheoli anableddau' - artist

Mae Abi Trotman yn dweud ei bod am ddangos bod modd cael gyrfa lewyrchus gydag anableddau
- Cyhoeddwyd
Mae artist o Gymru wedi dweud bod ei gwaith fel therapi iddi, sydd wedi ei galluogi i gael gyrfa a "gwneud cyfraniad pwysig" tra'n rheoli ei hanableddau.
Fe gafodd Abi Trotman, 37 o'r Barri, ddiagnosis o encephalomyelitis myalgic (ME) yn 11 oed, ac roedd swydd "arferol naw tan bump" yn cael "effaith wael iawn arna i'n feddyliol a'n gorfforol".
Wrth i'w gwaith celf ddenu mwy o sylw fe benderfynodd dilyn ei breuddwyd a gwneud ei mam-gu yn "falch iawn" – daeth yn artist pethau bychain (miniaturist) llawn-amser.
Yn syml, celf pethau bychain yw ailgreu eitemau ond yn fychain iawn.
Fel rheol answyddogol, mae angen i'r celf ffitio ar gledr eich llaw, ond y manylder sy'n ennyn diddordeb pobl.
Bellach mae Abi yn teithio'r byd yn gwerthu ei gwaith, ac mae hefyd wedi cymryd rhan yn rhaglen deledu newydd y BBC, The Marvellous Miniature Workshop.
Dywedodd bod ei gwaith wedi ei helpu gymaint gan ei bod "yn llythrennol yn rhoi'r cyfle i chi werthfawrogi'r pethau bychain".

Mae cael swydd ble mae modd "arafu lawr" a mynd ar ei chyflymder hi wedi newid ei bywyd, meddai Abi
Pan gafodd Abi ddiagnosis o ME roedd llawer "yn meddwl bo' chi just yn bod yn ddiog", meddai, gan nad oed llawer "yn gwybod amdano bryd hynny".
"O'n i mewn cadair olwyn am fisoedd," ychwanegodd, ac roedd yn cael ei thiwtora gartref yn lle mynd i'r ysgol.
Erbyn hyn "mae'n gwbl normal bod rhaid i fi wneud dewisiadau".
"Mae'n rhaid i fi ddewis, ydw i am weithio heddiw neu ydw i just am gael cawod, er enghraifft. Mae mor syml â hynny."
Esboniodd bod ME yn aml yn gallu arwain at gymhlethdodau hefyd.
"Mae gen i broblemau gyda fy mhen-gliniau a'r joints yn fy nwylo, sy'n terrifying achos os alla i ddim defnyddio fy nwylo yna dyna fy ngyrfa i 'di mynd."
Er bod hynny yng nghefn ei meddwl, mae'n "hynod ddiolchgar" bod y byd celf a chreu pethau bychain "wedi rhoi'r cyfle i fi arafu lawr a mynd ar gyflymder sy'n siwtio fi".

Llun o Abi gyda'i mam, Lindsay a'i mam-gu, Sylvia oedd wrth ei bodd yn creu pethau bychain
Mae Abi nawr yn teithio'r byd gyda'i gwaith, ac wrthi'n "gweithio flat-out" ar gyfer sioe yn Chicago.
Byddai ei mam-gu Sylvia Trounce, a fu farw 16 mlynedd yn ôl, methu credu'r peth, meddai.
"Roedd hi'n rhywun oedd yn gallu gwneud unrhywbeth," ond allan o'i nifer o ddiddordebau, "creu pethau bychain oedd ei hoff un".
Yn ferch fach roedd Abi wrth ei bodd yn edrych ar waith a chasgliadau ei mam-gu, ac wrth iddi dyfu dechreuodd Sylvia ddangos y gwahanol dechnegau iddi sydd ynghlwm â thrin celf bychain.
"Roedd ganddon ni berthynas hyfryd," meddai Abi.
Ar ôl i Sylvia farw fe gafodd Abi ei holl waith celf a'i hoffer i gyd.
Mae'n gwybod y byddai ei mam-gu wrth ei bodd yn ei gweld hi nawr.
"Hi fyddai'r cyntaf drwy'r drws" ym mhob sioe, meddai.
- Ffynhonnell y llun, Abi Trotman/Tobacco & Regrets

1 o 3
Diben ei gwaith yw "dod â phethau yn ôl yn fyw" esboniodd - "dyna dwi'n ceisio ei wneud gyda phob darn o waith".
Fe gymrodd Abi ran yn rhaglen deledu newydd y BBC, The Marvellous Miniature Workshop - ble mae artistiaid pethau bychain proffesiynol yn ailgreu adeiladau, lleoliadau ac atgofion sy'n agos at galonnau'r gwesteion.
"Dwi rili wedi mwynhau," meddai, "ond mae'n lot o bwysau hefyd - chi mo'yn 'neud mor dda i'r bobl yma gan fod e'n meddwl gymaint iddyn nhw."

Ystafell ddosbarth a gafodd ei hailgreu gan Abi ar The Marvellous Miniature Workshop
Mewn un bennod gofynnwyd i Abi ailgreu ystafell ddosbarth mathemateg ar gyfer mewnfudwr o Bangladesh, Karim.
Fe wynebodd Karim sawl achos o hiliaeth dreisgar yn ystod ei blentyndod yn nwyrain Llundain.
Ond roedd yr ystafell ddosbarth yn rhywle roedd yn teimlo'n ddiogel yn ystod cyfnod anodd o'i fywyd – ystafell llawn atgofion melys.
"Roedd hi'n gyfrifoldeb mawr," meddai Abi.
Ond roedd Karim "mor hyfryd, yn agored ac onest iawn wrth siarad am ei brofiadau – dwi'n meddwl bod hwnna 'di gwneud y gwaith yn fwy pwerus fyth".
'S'dim byd gwell'
Tan nawr, doedd Abi ddim wedi siarad yn gyhoeddus iawn am ei hanableddau, ond mae'n awyddus i fwy o sylw gael ei roi iddyn nhw.
"Dwi am i bobl wybod bod gen i anableddau ond bo' fi hefyd dal yn gallu gweithio a chael gyrfa sy'n addas i fi, a bo' fi dal yn gallu gwneud cyfraniad pwysig."
Wrth baratoi ar gyfer sioe yn Chicago flwyddyn nesaf dywedodd: "Mae'n wych, bod yn ferch o Gymru'n cynrychioli Cymru draw yn Chicago yn America, s'dim byd gwell."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

