Rhybudd i bobl gadw draw o dirlithriad 'sylweddol' ym Mhen Llŷn

Mae'r heddlu'n dweud bod yr ardal yn anniogel
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi rhybuddio'r cyhoedd i gadw eu pellter oddi wrth dirlithriad ym Mhen Llŷn.
Llithrodd y tir yn ardal Lôn Penrallt, Nefyn ac mae trigolion lleol wedi dweud wrth yr heddlu eu bod wedi gweld pobl ifanc yn y lleoliad.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod yr ardal yn parhau i fod yn anniogel a bod llwybrau troed gerllaw ar gau i'r cyhoedd ar hyn o bryd.
Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi dweud bod dau dirlithriad wedi digwydd ar y llwybr yn ddiweddar yn sgil tywydd gwlyb, un ger Nefyn ac un wrth Borthdinllaen.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod wedi cael gwybod am "dirlithriad sylweddol" ar dir preifat yn ardal Nefyn brynhawn Mercher.

Bu tirlithiad ger Porthdinllaen yn ddiweddar, yn ogystal ag yn Nefyn
Rhybuddiodd Llwybr Arfordir Cymru i bobl gymryd gofal ac i bobl osgoi y rhan yma o'r llwybr am y tro, gan ddweud y dylai pobl ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau ac arwyddion yno.
Ychwanegon nhw y bydd mapiau ar gael ar eu tudalen Dargyfeiriadau Dros Dro er mwyn i gerddwyr fedru ailgynllunio teithiau cerdded.
Dywedodd Cyngor Gwynedd bod staff y cyngor wedi bod ar y safle ddydd Iau i asesu'r sefyllfa.
Ychwanegon nhw fod Gwylwyr y Glannau wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Digwyddodd y tirlithriad yn Nefyn yn ardal Lôn Penrallt
"Rydym yn ymwybodol bod nifer o adeiladau preifat wedi'u heffeithio, ond yn ffodus doedd neb yn byw ynddynt ar y pryd," meddai'r cyngor.
"Er nad ydy Llwybr yr Arfordir wedi cael ei effeithio, rydym yn annog aelodau'r cyhoedd i gymryd gofal ychwanegol wrth gerdded ger ymylon clogwyni ac ar hyd yr arfordir, gan fod y tir yn fwy tebygol o lithro yn dilyn cyfnodau hir o law trwm.
"Mae hwn yn dirlithriad gweithredol gyda'r risg o ragor o bridd yn disgyn wrth i ddŵr barhau i lifo lawr yr ochr."
Ychwanegodd y llefarydd: "Fel mesur rhagofalus, mae rhan o'r arfordir, o flaen yr ardal sydd wedi'i heffeithio, wedi cael ei chau i ffwrdd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.