Robat Arwyn i arwain perfformiad o'i waith, Atgof o'r Sêr

robat arwyn
  • Cyhoeddwyd

Ar nos Fawrth, 16 Rhagfyr, bydd y cyfansoddwr Robat Arwyn yn arwain perfformiad o'i waith Atgof o'r Sêr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd y perfformiad yn cynnwys corau lleol - Côr Ieuenctid Ceredigion, Cerddorfa Hŷn a Iau Cerdd Ceredigion, ac yr unawdwyr Gwawr Edwards a John Ieuan Jones.

Cyfansoddodd Robat Arwyn y gwaith yn 2001 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, ond dyma'r tro cyntaf iddo arwain Atgof o'r Sêr yn ei gyfanrwydd.

Siaradodd Robat ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar 15 Rhagfyr am y gwaith a'r achlysur arbennig yn Aberystwyth.

"Comisiwn oedd o ar gyfer Eisteddfod Sir Ddinbych a'r cyffiniau yn 2001," meddai. "Dwi'n cofio cael fy ngwadd i gyfarfod Bryn Terfel, Elfed Roberts a oedd yn gyfarwyddwr ar yr Eisteddfod Genedlaethol a Hywel Wyn, trefnydd y Steddfod, pan oedd yr Eisteddfod yn Llanelli'r flwyddyn gynt.

"Dyma nhw'n rhoi'r comisiwn i mi, a Bryn yn dweud y geiriau anfarwol 'sgwenna di o, gana i o'."

Cyfansoddi i Bryn Terfel

Wedi iddo gael y comisiwn aeth Robat ati'n syth i drio rhoi'r gwaith at ei gilydd.

"'Nath y panig setio fewn, achos be gebystr mae rhywun yn sgwennu i Bryn Terfel?" meddai .

"Roedd gen i recordiau ohono fo'n canu Handel, Schubert a Wagner, ac es i'n swp sâl. Ond ar ôl meddwl am y Mabinogion, capeli, darllen fy Meibl ac ati, rhyw noson daeth 'na ryw syniad am sêr.

"Ar ôl mi gael y syniad mi wnaeth pethau weithio, diolch am hynny."

bryn terfel
Disgrifiad o’r llun,

Cyfansoddwyd y gwaith yn wreiddiol ar gyfer Syr Bryn Terfel

Pan gafodd Atgof o'r Sêr ei berfformio yn 2001, roedd Robat yn eistedd yn y gynulleidfa.

"Fi oedd cyfeilydd swyddogol Côr Rhuthun ar y pryd, a'r diweddar Annette Bryn Parri oedd cyfarwyddwr cerdd y perfformiad, felly hi oedd ar y piano'r noson honno, a Morfudd Vaughan Evans oedd yn arwain Côr Rhuthun, a hi 'nath arwain y perfformiad i gyd.

"Felly, ges i eistedd yn nerfus iawn yn y gynulleidfa efo fy mhlant bach ar y pryd."

Ymarferion

Er bod Robat wedi arwain darnau o'r gwaith yma o'r blaen dydy o erioed wedi arwain perfformiad cyflawn ohono.

"Dwi wedi cyfeilio i berfformiadau cyfan sawl gwaith ers y perfformiad cyntaf hwnnw, ond 'rioed wedi arwain yr wyth darn o'r blaen a dyma fydd y tro cyntaf i mi wneud, yn Aberystwyth nos yfory [16 Rhagfyr]."

Bydd yna ystod eang o gantorion yn perfformio'r gwaith - pobl ifanc lleol, corau lleol ac unawdwyr.

"Dwi 'di cael dau ymarfer - un efo'r corau cyfansawdd, y corau lleol 'ma; Sgarmes, Côr ABC, Côr Cardi-gan, Merched Soar.

"Ond hefyd ges i ddiwrnod efo Côr Ysgolion Uwchradd Ceredigion, a heno 'ma dwi'n ymarfer efo'r gerddorfa. Dwi'n meddwl bydd 'na tua 15 o offerynwyr yna heno, ac wedyn pnawn fory, ymarfer pawb efo'i gilydd cyn y perfformiad yn yr hwyr."

Robat Arwyn

Y nerfau'n parhau

Sut mae nerfau Robat yn arwain y darn, o'i gymharu â bod yn y gynulleidfa'r holl flynyddoedd yn ôl?

"Mae'r nerfau'n dal yr un mor ddrwg dwi'n meddwl, oherwydd mi fydda i'n edrych arno o bersbectif hollol wahanol. Y syniad nôl yn Ninbych oedd bo' fi'n ymlacio - 'nes i ddim dwi'm yn meddwl!

"Ond dwi yn edrych ymlaen, er 'dwn i'm faint o gwsg ga'i heno!"

'Braint' ac 'anrhydedd'

Mae Robat wrth ei fodd â'r ffaith bod y gwaith yn cael ei lwyfannu unwaith eto.

"Mae o'n fraint i mi," meddai. "Fe fuodd yna dipyn o ganu ohono fo'n y blynyddoedd cynnar, ac wedyn yn y ddwy neu dair blynedd diwethaf mae o 'di cael dipyn o adfywiad.

"'Nath Bryn Terfel ei hun ailberfformio'r gwaith y llynedd yn Pontio ym Mangor, a do fues i yno'n gwrando.

"Ond mae o'n anrhydedd o'r mwyaf, yn sicr gan bo' pobl ifanc rŵan yn canu gwaith 'nes i gyfansoddi 24 mlynedd yn ôl - gyda blwyddyn nesa'n nodi 25 mlynedd ers y perfformiad cyntaf."

Oes 'na gynllunio i nodi'r 25 mlwyddiant?

"Wel, mae Côr Rhuthun yn trafod ar hyn o bryd, felly mi fydd 'na berfformiad - Tachwedd neu Ragfyr, ond dim manylion wedi ei gadarnhau hyd yma. Bydd rhaid i ni fwrw iddi yn reit fuan dwi'n meddwl!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: