Gweithwyr ffatri wedi dod i gyswllt â chemegau gwenwynig am ddegawdau

Y ffatri yn Abertawe oedd un fwyaf 3M y tu allan i'r Unol Daleithiau ar un adeg
- Cyhoeddwyd
Daeth dwsinau o weithwyr ffatri yn ne Cymru i gyswllt â chemegau gwenwynig mewn ewyn diffodd tân am ddegawdau, mae ymchwiliad gan y BBC wedi datgelu.
Doedd y gwneuthurwr Americanaidd 3M, sydd werth biliynau o bunnoedd, ddim wedi dweud wrth weithwyr ar y safle yn Abertawe eu bod yn defnyddio ewyn sy'n cynnwys dau gemegyn sydd bellach yn cael eu hystyried fel rhai sy'n achosi canser.
Roedd hynny er bod y cwmni yn gwybod am y risgiau iechyd ers degawdau.
Dywedodd 3M yn 2002 y byddan nhw'n stopio cynhyrchu'r cemegion - sy'n cael eu galw'n forever chemicals oherwydd eu bod yn parhau yn yr amgylchedd cyhyd.
Ond ni chafodd y cemegion eu tynnu o'r ffatri, gan arwain at ddamwain amgylcheddol bedair blynedd yn ddiweddarach.
Dywedodd 3M fod iechyd a diogelwch eu gweithwyr a'u teuluoedd yn "flaenoriaethau allweddol" i'r cwmni.
Cyflogi dros 1,000 o weithwyr
Agorodd y ffatri yng Ngorseinon, Abertawe, yn 1952, a dyma oedd y safle 3M mwyaf y tu allan i America am ddegawdau.
Roedd yn cyflogi dros 1,000 o bobl ar draws de Cymru, yn cynhyrchu deunyddiau ar gyfer clytiau a thâp fideo.
Yn 2023, penderfynodd 3M i gau'r ffatri a gwneud cais am ganiatâd cynllunio i ailddatblygu'r safle.
Fe wnaeth rhaglen BBC File on 4 Investigates ddarganfod adroddiad llygredd tir ymhlith cannoedd o ddogfennau a gyflwynwyd gan 3M i'r cyngor lleol.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod y safle wedi'i lygru â dau forever chemical - PFOS a PFOA.
Ni wnaeth y cwmni erioed gynhyrchu'r cemegion, sy'n rhan o deulu sylweddau PFAS, ar y safle.
Roedd eu hadroddiad yn nodi fod y cemegion wedi dod o "weithgareddau diffodd tân hanesyddol", gan ddefnyddio ewyn diffodd tân dyfrllyd (AFFF).

Roedd peth o'r ewyn diffodd tân a gafodd ei ddefnyddio yn Abertawe yn cynnwys cemegion gwenwynig - dyma fath tebyg o ewyn ar safle yn yr Unol Daleithiau
Mae'r BBC wedi dod o hyd i rai oedd yn ymwneud â diffodd tân ar y safle, ac maen nhw wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf.
Bob blwyddyn, roedd dwsin o weithwyr yn y ffatri yn cael eu dewis i ysgwyddo cyfrifoldeb ychwanegol fel aelodau o'r "parti tân" yn y ffatri.
"Roedden ni yn y garfan frys, fel diffoddwyr tân rhan-amser," meddai Ian (nid ei enw iawn).
Bu'n gweithio yn y ffatri 3M am 40 mlynedd ac roedd yn aelod o'r parti tân.
"Roedden ni'n gwneud yr hyfforddiant unwaith y mis ac roedden ni'n arfer hyfforddi diffodd tanau cemegol," ychwanegodd Ian.
"Byddai ganddyn nhw hambwrdd mawr yn llawn cemegau, yn rhoi fflam arno, ei osod i fyny ac yna bydden ni'n defnyddio'r dŵr ysgafn wedyn i'w ddiffodd - byddai'n dod allan fel ewyn."
Dŵr ysgafn ydy enw 3M ar AFFF, a dywedodd Ian na chafodd y gweithwyr glywed unrhyw beth am y cemegion a fyddai wedi gallu bod ynddo.
'Achos pryder'
Roed lefelau PFOS a gafodd ei ddarganfod mewn pridd ar y safle yn 2023 yn amrywio o 50 i fwy na 1,500 microgram y cilogram, yn ôl yr adroddiad
Mae'r lefelau uchaf yma 500 gwaith yn fwy na'r cyfartaledd mewn priddoedd ledled y DU.
Dywedodd Dr David Megson, gwyddonydd amgylcheddol ym Mhrifysgol Metropolitan Manceinion, wrth y BBC fod y lefelau hyn yn "achos pryder".
Mewn lleoliad masnachol, dywedodd y gallai lefelau uwchlaw 600 microgram beri risg i iechyd pobl, oherwydd anadlu llwch a chysylltiad â'r croen.
Mae cemegau o'r teulu PFAS - yn benodol PFOA a PFOS - wedi'u cysylltu ag ystod o wahanol gyflyrau iechyd niweidiol, meddai Dr Megson.
"Gallan nhw achosi niwed i'r afu, y system gardiofasgwlaidd, y system imiwnedd ac mewn ffetws sy'n datblygu."

Mae Rob Bilott wedi arwain camau cyfreithiol yn erbyn 3M ers degawdau ynghylch llygredd PFOS yn yr Unol Daleithiau
Mae'r ddau gemegyn wedi cael eu gwahardd yn y DU bellach, oherwydd eu bod yn wenwynig a ddim yn dadelfennu'n hawdd yn yr amgylchedd.
Yn 2024, penderfynodd Sefydliad Iechyd y Byd fod PFOA yn achosi canser a bod PFOS "o bosib" yn achosi canser i bobl.
Ond roedd 3M yn gwybod cyn belled yn ôl â'r 1970au am risgiau iechyd y cemegion i weithwyr.
Ym 1999 cafodd hawliad sifil mawr ei wneud yn erbyn 3M ar ôl i bobl ddechrau mynd yn sâl o ddŵr wedi'i lygru gyda PFOS a PFOA yn yr Unol Daleithiau.
Yn ystod yr achos, cafodd dogfennau mewnol 3M eu rhyddhau oedd yn dangos bod y cwmni wedi cofnodi lefelau uchel o PFAS yng ngwaed ei weithwyr a chynnydd posibl mewn canser.
"[Roedd y cwmni] yn deall peryglon y cemegau hyn, yn mynd yn ôl degawdau lawer," meddai Rob Bilott, partner yn y cwmni Americanaidd Taft Law, a arweiniodd yr achos hwnnw.
"Dechreuodd astudiaethau anifeiliaid gael eu cynnal gan [3M] yn y 1960au, oedd yn dangos gwenwyndra anhygoel mewn sawl rhywogaeth wahanol.
"Roedd llygod mawr, llygod bach, cwningod, moch cwta, cŵn, hyd yn oed mwncïod yn marw erbyn diwedd y 1970au."
'Doedd e byth yn sâl'
Bu tad Cheryl (nid ei henw iawn) yn gweithio am ddegawdau yn y ffatri yn Abertawe, gan ddechrau yn ôl yn y 70au, ac roedd hefyd yn aelod o'r parti tân.
Yn ei 40au cynnar, cafodd ddiagnosis o ganser yr arennau, ac ar ôl derbyn triniaeth dychwelodd i'r gwaith am gyfnod byr, cyn ymddeol yn 50 oed.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, daeth y canser yn ei ôl a bu farw tad Cheryl yn 54 oed.
"Roedd yn sioc oherwydd roedd fy nhad bob amser yn ddyn mawr, cryf, felly doedd e byth yn sâl," meddai Cheryl.
"Doedd e byth yn arfer cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith yn sâl."
Gall llawer o bethau achosi canser yr arennau, ond mae ymchwil gan Sefydliad Iechyd y Byd wedi dod i'r casgliad bod y risg o ganser yr arennau yn debygol o gynyddu o ganlyniad i ddod i gyswllt sylweddol gyda PFOS a PFOA.
'Dwi ddim yn hapus'
Mae Dr Steve Hajioff yn epidemiolegydd ac yn cadeirio panel annibynnol yn Jersey, sy'n edrych ar lygru cyflenwadau dŵr gan ewyn diffodd tân sydd hefyd yn cynnwys y cemegion oedd yn cael eu cynhyrchu gan 3M.
Cafodd ei sefydlu gan lywodraeth yr ynys ar ôl i drigolion fynd yn sâl.
"Dwi ddim yn meddwl y gallwch chi byth ddweud ei bod hi'n amhosibl y gallai fod wedi'i achosi neu wedi'i wneud yn fwy tebygol o achos cyswllt gyda PFAS," meddai.
"Ond mae yna bethau lle gallwn fod yn eithaf argyhoeddedig ohonyn nhw - pethau fel canser yr arennau, canser y ceilliau, imiwneiddio llai effeithiol i blant."
Dywedodd Cheryl nad yw hi'n deall pam fod y cwmni wedi methu â phrofi gwaed y gweithwyr, a hwythau'n ymwybodol o'r risgiau.
"Efallai y byddai rhai pobl sydd wedi marw wedi cael diagnosis yn gynharach a chael triniaeth yn gynharach," meddai.
Mae Ian yn adleisio'r teimlad hwnnw.
Dywedodd, gan na chafodd y gweithwyr wybod am unrhyw risgiau, nad oedden nhw'n gwisgo offer anadlu a'u bod yn trin yr ewyn yn eu hoferôls a'u welingtons ffatri yn unig.
"Dwi ddim yn hapus iawn am y peth," meddai.
"Dwi wastad wedi dweud eu bod nhw braidd yn blasé ynglŷn â'r holl gemegion roedden nhw'n eu defnyddio mewn gwirionedd."
'Swm enfawr o ewyn'
Gadawodd Ian y ffatri hefyd ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn, ar ôl bron i bedwar degawd o wasanaeth.
Nid ydym yn gwybod os mai dod i gysylltiad ag ewynnau wnaeth achosi hyn i Ian.
Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd eleni fod y dystiolaeth i gysylltu PFOS a PFOA â chanser y coluddyn yn parhau i fod yn aneglur, gan nad oes digon o achosion wedi'u nodi.
Pan ddechreuodd yr achos cyfreithiol yn yr Unol Daleithiau, cyhoeddodd cwmni 3M yn gyhoeddus y byddan nhw'n rhoi'r gorau i gynhyrchu PFOS a PFOA yn fyd-eang erbyn 2002.
Ond mae BBC File on 4 Investigates wedi canfod na chafodd gweithwyr yn Abertawe wybod am y risgiau iechyd hyd yn oed bryd hynny, a bod ewynnau wedi'u gadael ar y safle.
Ym mis Hydref 2006 fe wnaeth storm fawr achosi i'r system oedd yn cynnwys yr ewynnau i dorri, a'u rhyddhau o'r safle.
Ar y pwynt hwnnw hylif oedden nhw, ac fe gafon nhw eu pwmpio i'r pwll awyru am fod gweithiwyr yn meddwl ei fod yn ddŵr glaw.
Roedd y pwll yn cael ei ddefnyddio ar gyfer storio dŵr gwastraff.
Dywedodd John Bowers, rheolwr iechyd a diogelwch y safle ar y pryd, fod hyn wedi creu problem ddifrifol.
"Ar ôl hynny, fe wnaeth yr awyru greu swm enfawr o ewyn, a aeth o'r pwll i fyny i'r awyr," meddai.
Dywedodd Mr Bowers wrth y BBC fod y storm mor gryf, ei bod wedi chwythu'r ewyn ar stryd fawr Gorseinon.
Ychwanegodd: "Cafodd ei ddisgrifio i mi fel ei fod yn rhyw fath o foam party, esgusodwch yr ymadrodd."
'Siomedig'
Ychwanegodd Mr Bowers fod y gweithwyr wedi llwyddo i atal yr ewyn a'u bod wedi ffonio pencadlys 3M yn Minnesota y diwrnod canlynol.
Dim ond ar yr adeg honno y dywedodd y cwmni wrtho fod yr ewyn yn cynnwys y cemegyn gwenwynig PFOS.
"Ro'n i'n synnu nad oedd 3M wedi cysylltu â chwsmeriaid i'w gwneud yn ymwybodol o'r peryglon posibl, ac roedd hi hyd yn oed yn fwy o syndod nad oedden nhw wedi cysylltu â chyfleusterau 3M," meddai.
"Ro'n i'n siomedig."
Fe wnaeth y BBC gais rhyddid gwybodaeth i Gyngor Abertawe a'r rheoleiddiwr amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), wnaeth ddatgelu nad oedd y gollyngiad wedi'i gyfyngu i'r safle - ond ei fod hefyd wedi llygru Afon Lliw gerllaw.
Mae canlyniadau profion a gafodd eu rhyddhau i'r BBC hefyd yn dangos bod lefelau PFOS yn y pwll yn 1800ug/L, ac yn 20ug/L yn yr afon leol.
Mae lefelau cyfartalog uwchlaw 0.00065ug/L mewn afonydd a llynnoedd yn cael eu hystyried yn niweidiol i organebau dyfrol – roedd y lefelau yn yr afon 31,000 gwaith yn uwch na hynny.
Roedd cofnod bod ffermwr lleol wedi cwyno i'r cyngor ar y pryd ar ôl gweld ewyn yn yr afon, a chodi pryderon am ei gwartheg.
Cafodd y cwmni rybudd gan CNC eu bod wedi cyflawni trosedd o dan y rheoliadau dŵr oedd mewn grym ar y pryd, ond cafon nhw glywed na fydden nhw'n cael eu herlyn na'u dirwyo.
Dywedodd Mr Bowers wrth y BBC ar ôl y digwyddiad hwn yn 2006 fod y pwll a oedd yn llawn ewyn llygredig ar y safle wedi cael ei lanhau a'i ddraenio.
Ond mae dogfennau'r cais cynllunio o 2023 yn dweud bod y pwll wedi llenwi eto a bod ganddo lefelau uchel iawn o PFOS.
Dywedodd yr adroddiad llygredd y gallai'r pwll "fod â'r potensial i weithredu fel ffynhonnell barhaus i amgylchedd y dŵr".
'Iechyd a diogelwch ein gweithwyr yn flaenoriaeth'
Yn 2023 roedd lefelau PFOS y pwll yn dal i fod 21,000 gwaith y lefel ddiogel sy'n cael ei argymell ar gyfer bywyd dyfrol.
Mae 3M bellach wedi adfer y pwll a'r pridd o'i gwmpas eto, gan gwblhau hyn yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd llefarydd ar ran 3M wrth y BBC: "Mae iechyd a diogelwch ein gweithwyr, eu teuluoedd a'n cymunedau yn flaenoriaethau hollbwysig i 3M."
Ychwanegodd ei fod wedi cael gwared PFOS a PFOA o'i weithrediadau ers tro, ac wedi rhoi'r gorau i gynhyrchu'r ewyn diffodd tân yma.
Dywedodd wrth y BBC y byddai'n parhau i gyflawni ei ymrwymiadau – gan gynnwys adfer PFAS a chydweithio â chymunedau, gan gynnwys drwy ymrwymo "i fuddsoddi $1bn [£750m] yn fyd-eang mewn technolegau trin dŵr o'r radd flaenaf mewn safleoedd lle rydym wedi cynhyrchu PFAS yn hanesyddol".
"Dros ddegawdau, mae 3M wedi rhannu gwybodaeth sylweddol am PFAS, gan gynnwys trwy gyhoeddi llawer o'i ganfyddiadau ynghylch PFAS mewn cyfnodolion gwyddonol sydd ar gael i'r cyhoedd," ychwanegodd.
*Nid Ian a Cheryl yw eu henwau go iawn. Oherwydd eu pryderon ynghylch siarad yn gyhoeddus, mae eu henwau wedi cael eu newid.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.