Nain wedi ofni am ei bywyd mewn ymosodiad gan ddieithryn ar ôl angladd

Belinda StricklandFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad ar Belinda Strickland yn dilyn angladd ei ffrind

  • Cyhoeddwyd

Roedd nain yn ofni ei bod hi'n "mynd i farw" mewn ymosodiad gan ddieithryn beichiog wedi angladd yng Nghaerdydd.

Roedd Belinda Strickland, 65, mewn digwyddiad er cof am ffrind agos yng Nghlwb Ceidwadol Y Slot pan ddigwyddodd yr ymosodiad gan Danielle Oliver ym mis Mehefin y llynedd.

Fe wnaeth Oliver, 39, ymosod ar Ms Strickland heb rybudd gan dorri ei hasennau, achosi anawsterau anadlu a diagnosis parhaol o emffysema.

Dywedodd Ms Strickland ei bod yn "synnu" ar ôl i Oliver dderbyn dedfryd ohiriedig yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf.

Belinda StricklandFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Strickland wedi torri chwech o'i hasennau a dywedodd bod un wedi gwneud twll yn ei hysgyfaint

Cafodd y nain i 14 o blant ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn anymwybodol, a dywedodd ei bod hi wedi deffro yn yr uned gofal dwys ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach.

"Wnes i deimlo pwniad caled ar ochr fy mhen... a wnes i ddisgyn i'r llawr," meddai Ms Strickland.

"Edrychais i fyny a welais dynes yn sgrechian arnai... doeddwn i erioed wedi gweld hi o'r blaen, roedd hi'n hollol ddiarth i fi a doedd gen i ddim syniad pam wnaeth hi ymosod arnai."

Belinda StricklandFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ms Strickland ei bod wedi treulio 12 diwrnod yn yr ysbyty

Roedd Ms Strickland wedi torri chwech o'i hasennau a dywedodd bod un wedi gwneud twll yn ei hysgyfaint.

"Dywedodd y meddygon fy mod i'n lwcus i fod yn fyw. Roedd fy mhedair merch yna yn gafael fy llaw tra o'n i'n anymwybodol.

"Doedden nhw ddim yn gwybod os o'n i am farw."

Ychwanegodd Ms Strickland, sydd ag arthritis a chyflwr ar ei chalon, ei bod wedi "treulio 12 diwrnod yn yr ysbyty ar ôl brwydro am fy mywyd".

Danielle OliverFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Danielle Oliver ddedfryd 66 wythnos, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf

Cafodd Oliver, a oedd yn 22 wythnos yn feichiog adeg yr ymosodiad, ddedfryd 66 wythnos, wedi'i ohirio am ddwy flynedd, yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Gorffennaf.

Cafodd hefyd orchymyn atal am bum mlynedd a gofyniad i wneud gweithgaredd adsefydlu 10 diwrnod.

Dywedodd y Barnwr Simon Mills: "Gall hyd yn oed digwyddiadau byr o drais gael canlyniadau trychinebus."

Ychwanegodd: "Dydw i ddim am fynd trwy'r manylion o pam wnaethoch chi'r penderfyniad a wnaethoch chi.

"Roeddech chi'n feichiog ar y pryd ac rwy'n ymwybodol bod yn rhaid addasu eich meddyginiaeth.

"Daeth â mater i'ch sylw a achosodd i chi wneud penderfyniad hollol anghywir."

'Dim carchar, dim iawndal'

Dywedodd Ms Strickland ei bod yn "synnu" gyda'r ddedfryd.

"Dim amser yn y carchar. Dim iawndal. Mae hi wedi cerdded yn rhydd tra dwi'n parhau i fyw gyda chanlyniadau be' ddigwyddodd."

Ychwanegodd: "Fydda i byth yr un peth oherwydd be' ddigwyddodd. Wnai ddim hyd yn oed mynd i'r archfarchnad ar ben fy hun ddim mwy.

"Dydy Danielle Oliver erioed wedi ymddiheuro i mi am be wnaeth hi... fyswn i wedi gallu marw.

"Dwi dal mewn lot o boen ar ôl yr ymosodiad a fydd bywyd byth yr un fath i fi eto."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig