Anrhydedd mwyaf yr Eisteddfod i beiriannydd o Fôn

Bydd Dyfrig Roberts yn cael ei gyflwyno fel cymrawd anrhydeddus mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn
- Cyhoeddwyd
Fe fydd peiriannydd o Fôn sydd wedi rhoi bron i 50 mlynedd o wasanaeth i'r Eisteddfod Genedlaethol yn derbyn anrhydedd mwyaf y sefydliad.
Bydd Dyfrig Roberts yn cael ei gyflwyno fel cymrawd anrhydeddus mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod y Brifwyl yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r anrhydedd yn arwydd o ddiolchgarwch am flynyddoedd o wasanaeth i’r Eisteddfod.
Dechreuodd cysylltiad Mr Roberts â’r Eisteddfod yn sgil ei swydd fel peiriannydd, pan ofynnwyd iddo ddelio gyda phroblem beirianyddol ar y maes ym Mro Dwyfor, bron i 50 mlynedd yn ôl yn 1975.
Cafodd ei gwmni ei gomisiynu i gynllunio Pafiliwn newydd wedi’i wneud o ddur, a fu’n weithredol am 10 mlynedd rhwng 1977 a 1987.
Cafodd ei benodi'n aelod o’r pwyllgor technegol cenedlaethol, a bu’n aelod tan 2019 ac yn gadeirydd am flynyddoedd.
'Lle amlwg i’r Gymraeg yn y byd peirianneg'
Bu hefyd yn gweithredu ar lefel leol, gan gadeirio’r pwyllgor technegol lleol ddwywaith pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yn ardal Sir Conwy, meddai'r Eisteddfod.
Yn 2003, cafodd ei ethol yn Arwyddfardd, un o brif swyddogaethau’r Orsedd, a bu yn y swydd am bron i 20 mlynedd tan ei ymddeoliad yn 2022.
Dywedodd Mr Roberts: "Mae cael fy ethol yn gymrawd gan fy nghyfoedion mewn sefydliad sydd wedi bod yn rhan mor bwysig o’m bywyd am bron i hanner canrif yn anrhydedd fawr.
"Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n cydweithio ac yn fy nghefnogi ar hyd yn daith gyda’r Eisteddfod a Gorsedd Cymru.
"Ers y cychwyn, roeddwn i’n awyddus i roi lle amlwg i’r Gymraeg yn y byd peirianneg yma yng Nghymru, ac mae fy mherthynas gyda’r Eisteddfod Genedlaethol wedi fy ngalluogi i wneud hyn."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2024
