Un o gyn bêl-droedwyr gorau Cymru, Ian Rush, yn gwella yn yr ysbyty

Ian RushFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe dreuliodd Ian Rush ddau ddiwrnod mewn uned gofal dwys ond mae wrthi'n gwella

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gyn bêl-droedwyr gorau Cymru, Ian Rush, yn gwella yn yr ysbyty ar ôl treulio dau ddiwrnod mewn uned gofal dwys gyda'r ffliw.

Fe gafodd y gŵr 64 oed o Sir Ddinbych ei ruthro i Ysbyty Iarlles Caer ar ôl cael trafferth yn anadlu yn ei gartref.

Mae seren Lerpwl yn cael ei ystyried fel un o chwaraewyr gorau Cymru erioed.

Dywedodd llefarydd ar ran clwb Lerpwl eu bod yn diolch i staff yr ysbyty am "ddarparu'r gofal gorau posibl" a dywedodd fod "pawb yn Lerpwl yn dymuno gwellhad buan iddo".

Chwaraeodd Rush dros Lerpwl cyn ac ar ôl cyfnod byr gyda Juventus yn yr 80au.

Sgoriodd gyfanswm o 346 o goliau - sef record Lerpwl - mewn 660 o gemau ar draws pob cystadleuaeth.

Fe chwaraeodd 73 o gemau dros Gymru ac roedd ganddo'r record am y nifer fwyaf o goliau dros ei wlad hefyd - sgoriodd 28 gôl rhwng 1980 a 1996 - tan i Gareth Bale dorri'r record yn 2018.

Fe chwaraeodd hefyd dros Leeds, Newcastle a Wrecsam ond ar ôl ymddeol yn 2000 ymunodd â thîm rheoli Chester.

Bellach mae'n lysgennad ar gyfer clwb pêl-droed Lerpwl ac yn mynd i lawer o'u gemau cartref.

Mae nifer yr achosion o ffliw yn cynyddu ar draws y DU.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig