Ymysg yr holl stŵr a ffrwgwd ynglŷn â thîm peldroed GB, mae'r dadleuon, o bob ochor, yn mynd ati i bob cyfeiriad.
Dwi eisoes wedi gwrando ar bobol yn honni mai gwarth ydi bod yn Brydeiniwr wrth chwarae i dîm GB, gan ddefnyddio cyfrwng cyhoeddus Prydeinig i wneud hynny! Dwi hefyd wedi gwrando ar bobol sydd yn gweithio o fewn sefydliadau cyfreithiol sy'n parchu a dilyn deddfau Prydain ac yn lladd ar chwaraewyr peldroed am fod yn fodlon i chwarae dros dîm GB. Hyd y gwn i tydi deddfau Hywel Dda heb gael eu gwireddu ar hyd a llêd y drefn gyfreithiol a deddfol yng Nghymru'r hyd yn hyn!
Does fawr o gefnogaeth gan Gymdeithas Beldroed Cymru i'r tîm GB, ond pan ddaw yn amser i unigolion derbyn anrhydedd gan y Frenhines, mae pethau'n wahanol! Ie, cymhleth iawn.
Tydw'i eto i weld tystiolaeth fod FIFA, na unrhyw gorff arall, yn barod i ddiddymu bodolaeth Cymru (na'r Alban, Gogledd Iwerddon - na chwaith Lloegr) ar draul bodolaeth Brydeinig, ond petai hyn yn fwriad, siawns na fyddant yn ceisio gwneud hyn fodd bynnag, heb fod angen Gemau Olympaidd i gorddi'r dyfroedd.
Mae llawer o'r rhai sydd yn gwrthwynebu'r cysyniad o dîm Prydeinig yn barod iawn i gefnogi timau o Gymru sydd yn chwarae o fewn cyfundrefn Lloegr, a gyda llawer o'r dilynwyr hynny wedi gweld nemor ychydig iawn o gemau o fewn Uwchgynghrair Cymru. Faint tybed a aeth i weld y timau Cymreig yn chwarae yng nghystadlaethau Ewropeaidd yn ddiweddar? Sefyllfa gymhleth gydag anghysondeb o bob cyfeiriad.
Ond, daeth un peth i'm sylw sydd yn fy siomi yn enfawr, ac i mi yn sefyllfa hollol annheg. Ymddengys fod FIFA wedi cyhoeddi y byddai unrhyw chwaraewr sydd yn derbyn cardiau melyn, neu goch, yng nghystadleuaeth peldroed y Gemau Olympaidd yn gorfod colli gemau dilynol i'w gwledydd fel cosb.
Felly, yn syml iawn, petai unrhyw un o'r chwaraewyr Cymreig yn derbyn cerdyn coch wrth chwarae i dîm GB, yna fe fyddant yn cael eu gwahardd rhag chwarae dros Gymru yn y gemau sydd ddilyn, sef y gemau cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd.
Pam fod rhaid i hyn fod?
Os yw chwaraewr yn cael ei anfon o'r cae mewn gêm Ewropeaidd yna bydd yn colli gêm o fewn y gystadleuaeth honno, nid yn yr Uwchgynghrair neu unrhyw gêm arall mae yn cystadlu ynddo. Pam felly na allai trefn debyg fodoli ble mae cerdyn coch yn arwain at waharddiad o fewn trefn y Gemau Olympaidd, eleni neu yn y dyfodol, ac a ydi'n briodol i wahardd rhywun tra'n chwarae i un tîm (sef tîm GB) rhag chwarae i dîm arall, megis Cymru?
Mae yna ddigon o ddadlau, siarad, a malu awyr wedi bod ynglŷn â thîm GB.
Fe fyddai'n dda gen i weld y peth i gyd drosodd!
Wedi'r cwbl, yr hyn sydd gennym ydi criw o fechgyn talentog sydd wedi derbyn y gwahoddiad i chwarae peldroed, ac i gystadlu (fel cystadleuwyr o bob camp arall bron) yn y Gemau Olympaidd.
Dim gwleidyddwyr mohonynt, nac arf i bobol eraill eu defnyddio ar gyfer eu hagenda personol.
Mae'r aelodau o dîm Cymru, sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan tîm GB cystal Cymry ac unrhyw un arall, a gwell o bosibl na llawer ohonom. Mae'n hen amser i godi'r bwgan oddi ar eu cefnau a rhoi terfyn ar geisio eu defnyddio fel esgus am fynegi barn bersonol a hynny yn aml gan bobol sydd wedi gwneud dim gwell na dangos agwedd dwy wynebol sydd yn gwneud dim lles i unrhyw un.
Gyda llaw, dwi ond yn gobeithio na fydd y chwaraewyr hynny sydd yn gyndyn o ganu 'Hen Wlad Fy Nhadau' yn cael eu gweld yn canu 'God Save The Queen' cyn y Gemau Olympaidd!
Ie cymhleth iawn, ac os ydw innau hefyd yn swnio fel rhywun dau wynebog - hei!, pwy sy'n poeni, mae yna ddigon ohonom wedi codi ein pennau a mynnu cael ein clywed o fewn y cyd-destun yma dros yr wythnosau diwethaf!