Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Clybiau Cymru yn Ewrop

Glyn Griffiths|11:43, Dydd Gwener, 6 Gorffennaf 2012

Canlyniadau calonogol i'r tri chlwb o Gymru oedd yn cystadlu yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Ewropa.

Doedd fawr neb wedi rhoi llawer o obaith i'r Derwyddon Cefn yn erbyn MyPa o'r Ffindir ar y Cae Ras yn Wrecsam, ond cafwyd gem ddi-sgôr clodwiw. Daeth y Derwyddon yn agos wrth i beniad George Hughes daro'r postyn yn dilyn croesiad Rees Darlington, a gwelwyd ergyd hir Mark Harris yn dod a'r gorau allan o olwr yr ymwelwyr yn yr ail-hanner.
Trefn, patrwm a disgyblaeth a welwyd ar y noson sydd yn deyrnged nid yn unig i dîm y Derwyddon ond hefyd i'w rheolwr dawnus a galluog Huw Griffiths.

Draw ar lannau'r Fenai cafwyd gem ddi-sgôr arall rhwng Bangor a Zimbru Chisinau o Foldova.

Daeth tîm Neville Powell llawn mor agos â'r Derwyddon wrth i gic rydd Damien Allen fwrw'r trawst yn yr hanner cyntaf, cyn i gynnig Chris Jones yr ail hanner hefyd daro'r postyn.

Roedd gobaith am dyrfa enfawr am y gêm gyntaf Ewropeaidd yma ar Nantporth ac fe gafwyd ychydig dros fil o gefnogwyr yno. Roedd dros wyth cant ar y Cae Ras yn gwylio'r Derwyddon. Torfeydd eithaf da i'w gymharu â faint sydd yn mynychu gemau Uwchgynghrair Cymru (neu Gynghrair Huws Gray i'r Derwyddon) - ond tybed oni ddylid disgwyl mwy?

Oes yna ddim diddordeb mewn gemau Ewropeaidd yn ardal Wrecsam - neu a ydi'r Blue Square yn ddigon da? Er bod selogion Bangor yno yn eu heidiau, hwyrach y dylai mwy o gefnogwyr peldroed yr ardal fod wedi gwneud eu ffordd yno?

Draw yn y Ffindir, cafodd Llanelli gôl oddi-cartref werthfawr er iddynt golli o ddwy gol i un. Bydd hyn yn rhoi pob gobaith iddynt yn yr ail gymal - ond drigolion dref y Sosban a Chwm Gwendraeth - atgoffwch eich hunain fod gennych dîm peldroed sydd yn trio tynnu eich sylw, ac yn cynrychioli Cymru ar y Cyfandir! Ewch ati i'w cefnogi gan obeithio y daw llwyddiant a gem arall Ewropeaidd i Sir Gaerfyrddin yr wythnos nesaf.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.