Cymraes yn chwarae pel-droed yn y Gemau Olympaidd
Mae peldroed merched yn cael tipyn o sylw yng nghanol y gemau Olympaidd, a cyn i chi feddwl nad oes yna unrhyw ferch o Gymry i'w gweld yn unman - meddyliwch eto.
Aelod o garfan ac un o selogion tîm cenedlaethol merched Canada ydi merch a fyddai yn gymwys i chwarae dros Gymru (heb sôn am y tîm Prydeinig), sef Rhian Wilkinson.
Mae ei thad yn Brydeiniwr a'i nain yn enedigol o Gaerdydd ac fe gafodd ei mam, Shan ei magu yn y brifddinas. Roedd Rhian yn byw yn y Bontfaen am ddwy flynedd ar ddechrau'r nawdegau, gan fynychu'r ysgol leol, a hefyd yn ôl ei gwefan, fe ddysgodd ychydig o Gymraeg!
Chwaraeodd Rhian yng ngem agoriadol Canada yn erbyn Japan yn Stadiwm Coventry, (colli o ddwy gôl i un) - a hefyd yn yr ail gêm wrth chwalu De Affrig o dair gôl i ddim, eto yng Nghoventry.
Bydd y gêm yn erbyn Sweden ar ddydd Mawrth yn hollol allweddol os yw Rhian a thim Canada am gamu ymlaen i'r wyth olaf.
Felly - dim angen canu God Save y Queen, na pryderu am ddyfodol Cymru wrth gefnogi y ferch sydd a'i gwreddiau yng Nghymru - dysgwch y geiriau ar gyfer 'O! Canada' reit sydyn!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 