Gol, gol, gol, gol, gooooooooooooooool do Brasil!
Nos Iau, bydd Brasil yn Stadiwm y Mileniwm, yn wynebu'r Aifft yn eu gem gyntaf yn y Gemau Olympaidd.
Beth bynnag eich barn am gynnwys gemau peldroed yn y gemau, byddwch yn siŵr o weld sioe o safon os am deithio i Gaerdydd nos Iau.
Bydd Brasil yn chwarae eu hail gêm, amser cinio ddydd Sul yn Old Trafford, a rhydd hyn gyfle i ddilynwyr peldroed gogledd Cymru deithio draw i Fanceinion i'w gweld. Fe fyddai yn siŵr o fynd - dwi eisoes wedi cael fy nhiced.
Mae'r gemau yn holl bwysig i dîm peldroed Brasil. Tydyn nhw 'rioed wedi ennill Medal Aur peldroed y Gemau Olympaidd o'r blaen, a chyda Cwpan y Byd 2014 i'w gynnal ym Mrasil, mae pwysau mawr ar y tîm yma i lwyddo lle bu methiant yn y gorffennol.
Mae tîm Brasil yn y gemau yn gnewyllyn o'u tîm at gyfer Cwpan y Byd, a chawson gip ar eu gallu'r wythnos diwethaf wrth iddynt chwalu'r tîm Prydeinig yn deilchion mewn gêm gyfeillgar baratoadol.
Pwy all wrthod y cyfle i weld Hulk, Leandro Damião, Neymar, ac Oscar yn llawn celfyddyd eu gallu?
Ymddengys fod yna ddisgwyl i Frasil addasu ar eu dull arferol o chwarae gan ddod yn fwy effeithiol yn erbyn dulliau amddiffynnol gwledydd Ewropeaidd.
Mae disgwyl hefyd i Frasil ddod yn fwy ymosodol ac adeiladol nag a buont yn ddiweddar ac mae son am iddynt geisio ail greu dyddiau'r 'joga bonito (sef y gêm brydferth) drwy fod yn fwy creadigol yng nghanol y cae, yn hytrach nac ar yr esgyll.
Roedd yr hyn a welwyd yn erbyn tîm Prydain yn awgrymu eu bod ymhell ar y ffordd i wneud hynny yn effeithiol. Gyda sêr ifanc newydd megis Oscar yng nghanol y cae, Neymar yn yr ymosod, Hulk yn arwain yn gryf a galluog, a Leandro Damião yn creu dryswch wrth basio'n gelfydd ac ymuno a'r blaenwyr, roedd edrych ar Frasil yn union fel edrych ar Frasil!
Os ydych y deall eich peldroed, fe fyddwch yn deall yn hollol yr hyn dwi' newydd ddweud!
Os wnaiff Sbaen lwyddo i orffen ar y brig yng Ngrŵp D, yna caf eu gweld hwy hefyd yn Old Trafford ar y Sadwrn dilynol yng ngêm yr wyth olaf. Tybed a fydd y dull a welwyd yn Ewro 2012 o chwarae heb flaenwr penodol yn cael ei efelychu yn y tîm Olympaidd?
Brasil yn erbyn Sbaen yn ffeinal? Digon posib, ond yn y cyfamser - boed i athrylith y Brasiliaid barhau am y bythefnos nesaf a'n diddori'r holl ffordd i'r ffeinal ac yna I Gwpan y Byd 2014.
Mwynhewch y 'joga bonito'!
Gol, gol, gol, gol, gooooooooooooooool do Brasil!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 