Barn sgowt o Loegr ar Uwchgynghrair Cymru
Tro'r Seintiau Newydd oedd hi'r wythnos yma, ac eto, stori gyfarwydd wrth i gynrychiolwyr Cymru ddod mor agos, ond methu a sgorio yn erbyn pencampwyr Sweden, Helsingborgs.
Gallai'r Seintiau fod wedi mynd ar y blaen o fewn y munud agoriadol. Tarodd ergyd Craig Jones y postyn, a daeth sawl cyfle arall hefyd wrth i Jones yn benodol greu trafferthion di-ri i lawr yr asgell dde - ond methodd blaenwyr y Seintiau a manteisio ar y croesiadau isel a pherygl y tu cefn i amddiffynwyr Helsingborgs.
Byddai dwy gol o fantais ar yr egwyl yn ddim byd mwy nac adlewyrchiad teg o stori'r gêm yn enwedig yn yr hanner cyntaf.
Tynhaodd Helsingborgs eu hamddiffyn yn yr ail hanner, a gyda'r tîm o Sweden ynghanol eu tymor, gwelwyd mwy ohonynt fel uned ymosodol. Serch hynny, cadwodd y Seintiau eu trefn a'u disgyblaeth a byddant yn teithio dramor yr wythnos nesaf yn llawn gobaith.
Diddorol oedd gweld cymaint o gynrychiolwyr o glybiau mawr Lloegr yn y gêm, gan gynnwys Wigan Athletic, Bolton Wanderers, Everton a Blackburn Rovers. Cefais sgwrs hir gydag un ohonynt, ac fe sicrhaodd imi mai dod yno i weld chwaraewyr Helsingborgs oeddynt, ac nid rhai'r Seintiau. Gofynnais iddo beth fyddai ei angen gan dîm o Uwchgynghrair Cymru i dynnu sylw'r sgowtiaid, a'r ateb oedd chwaraewyr ifanc tua deunaw neu bedwar ar bymtheg oed a oedd yn gwneud eu marc yn gyson.
Wedi dweud hynny roedd perfformiadau chwaraewyr fel Craig Jones ar y noson yn tynnu llygaid, nid yn gymaint ar gyfer safon Uwchgynghrair na Phencampwriaeth Lloegr, ond hwyrach i dimau Adran Un neu Ddau, neu yng Nghyngres y Blue Square.
Cefais farn hefyd am safon Uwchgynghrair Cymru gydag chynrychiolydd un o glybiau mawr Lloegr sydd yn adnabod peldroed o fewn gogledd Cymru'n dda. Doedd o ddim yn teimlo fod peldroed drwy'r haf yn ateb i unrhyw beth, ond yn syml iawn fe fyddai gwella safon y chwaraewyr ar y cyfan yn fwy o fantais.
Cyfeiriodd tuag at y timau a welwyd yng Nghaernarfon a Bangor yn y gorffennol (cyn bodolaeth Uwchgynghrair Cymru). Roedd o'r farn fod angen ail sefydlu'r meddylfryd a oedd yn bodoli'r adeg honno, o dalu pris teg am chwaraewyr da. Roedd o'r farn fod gormod o glybiau heddiw yn talu yn ormodol am chwaraewyr cyffredin. Byddai ymarfer yn fwy aml o gymorth hefyd o fewn y clybiau rhan amser, roedd eisoes yn ymwybodol fod rhai clybiau ond yn ymarfer unwaith yr wythnos a hefyd os nad oes gem ar y penwythnos , cyfeiriodd tuag at enghreifftiau pan na threfnir sesiwn ymarfer, gan roi penwythnos rhydd i'r chwaraewyr!
Angen newid agwedd, troi yn llawer mwy proffesiynol ein trefn, a chael gwell chwaraewyr a fyddai yn cynnig cysondeb a pharodrwydd i ymarfer fyddai, yn ei farn o, yn gwella'r sefyllfa yn sylweddol.
Ar adeg pan mae rhywun yn crafu ei ben i feddwl beth a allai wella safon Uwchgynghrair Cymru, mae cael barn rhywun o'r tu allan fel chwa o awyr iach - a doedd y sylwadau yn ddim mwy na synnwyr cyffredin. Hwyrach fodd bynnag fod newid agwedd neu fabwysiadu agwedd llawer mwy proffesiynol ymysg chwaraewyr a'r dulliau o'u trefnu, a gwella ffitrwydd yn llawer anoddach I'w wneud nag ei ddweud.
Mae swyddogion canolog Uwchgynghrair Cymru yn gweithio'n brysur i wella safonau oddi ar y cae. Hwyrach y dylid hefyd edrych yn fanylach ar beth yn union sydd yn cael ei wneud o fewn y clybiau i gynhyrchu, cynnal a hefyd denu chwaraewyr o safon uwch.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 