Siom clybiau Cymru yng Nghwpan Ewropa
Noson siomedig i beldroed Cymru gyda thri chlwb yn colli eu lle yng Nghwpan Ewropa nos Iau .
Roedd Dinas Bangor yn llawn gobaith ar ôl teithio draw i Foldova i wynebu Zimbru Chisinau yn dilyn gêm ddi-sgôr ar Nantporth, ond er ymdrech deg, colli o ddwy gol i un oedd yr hanes.
Gwelais y gêm yn ei chyfanrwydd ar y rhyngrwyd, ac er i Fangor ddechrau yn ddisgybledig roedd dwy gol o fewn tri munud o gwmpas yr hanner awr yn ddigon i gipio buddugoliaeth i Zimbru. Ond nid hawdd oedd hyn gyda Mark Smyth y rhwydo i Fangor funud cyn yr egwyl ac yn codi gobeithion. Parhawyd y tensiwn drwy'r ail hanner - ymdrech Chris Jones yn cael ei chlirio oddi ar y llinell, ac yna yn yr eiliadau olaf peniad Dave Morley yn dod mor agos wrth grafu dros ben y trawst.
Daeth antur Derwyddon Cefn i ben wrth i dîm MyPa o'r Ffindir sgorio bum gwaith - tair ohonynt yn yr hanner cyntaf a'r bedwaredd dau funud ar ôl yr egwyl. Roedd rheolwr y Derwyddon, Huw Griffiths, wedi gobeithio y byddai ei dim wedi llwyddo i sgorio, beth bynnag fo'r sgôr, ond nid felly y bu. Profiad gwerthfawr fodd bynnag a ddylai osod sylfeini cadarn ar gyfer eu hymdrech i ddychwelyd i Uwchgynghrair Cymru yn y dyfodol.
Codwyd gobeithion ar Barc Stebonheath wrth i Lanelli fynd ar y blaen pan lwyddo Luke Bowen i sgorio gyda chic o'r smotyn bum munud i mewn i'r ail hanner, ac fe fyddai hyn wedi bod yn ddigon i gipio buddugoliaeth ar sail gol oddi cartref. Parhaodd y freuddwyd am naw munud cyn gweld Aleksi Paananen yn sgorio'r gôl allweddol sydd yn anfon KuPS Kuopio o'r Ffindir i'r rownd nesaf.
Siomedig eto, a stori sydd yn rhy nodweddiadol o hynt a helynt ein timau ar y cyfandir.
Nos Fawrth nesaf, tro pencampwyr yr Uwchgynghrair fydd hi - gyda'r Seintiau Newydd yn wynebu Helsingborgs o Sweden ar Neuadd y Parc yng Nghroesoswallt. Roeddwn yno dwy flynedd yn ôl yn eu gweld yn chwalu Bohemiaid Du yn o bedair gôl i ddim. Rwyf yn gobeithio bod yno nos Fawrth nesaf hefyd, a bydd angen perfformiad tebyg os nad gwell gan y Seintiau os am efelychu gwefr y noson gofiadwy honno.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 