Ceidwad y gôl-eudy
Petawn i'n gallu troi'r cloc yn ôl a newid amser, dyma'r adeg i wneud hynny!
Gôl-geidwad oeddwn i pan yn ifanc. Ond, doedd y cyfleoedd ddim yno, ac fe roedd yna ddigon ohonynt yn bodoli fel arwyr, megis Bert Trautmann ( yr Almaenwr o Manchester City) , y Cymro o Arsenal, Jack Kelsey ac yn nes ymlaen y golwr o Rwsia, Lev Yashin ynghyd a'r Sais, Gordon Banks.

Ond erbyn heddiw mae'r dyhead am fod yn golwr yn ymddangos fel petai'n perthyn i'r gorffennol, er bod Cymru o bosib yn ffodus o gael Boaz Myhill (Glyn ydi ei enw go iawn o, ac mae'n ofid mawr na allaf ddweud fod Glyn yn y gôl i Gymru!), a hefyd mae Wayne Hennessey ar gael.
Mi fyddai Manchester City wedi rhoi unrhyw beth am droi'r cloc yn ôl i gyfnod Bert Trautmann yr wythnos yma, gyda dim ond un nad yw yn ddigon da i Sunderland yn dod ar fenthyg i geisio sicrhau lle iddynt yn Ewrop y tymor nesaf.
Petawn i ond yn rhyw ugain oed unwaith eto!!
Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y chwaraewn, fel bachgen y deallwn, ac fel bachgen y meddyliwn er mai barn llawer ydoedd ystyried y gôl-geidwad fel rhywun nad oedd yn llawn llathen!
Heblaw am Trautmann, Yashin a Banks, golwr oedd un o fy arwyr llenyddol hefyd - y Ffrancwr, Albert Camus, ac fe ddywedodd o ei fod yn ddyledus i bêl droed am ddysgu popeth iddo ac am wneud iddo ddeall moesoldeb dynol.
Ond heddiw, i ble'r aeth y golwyr i gyd? Does fawr olwg ar y Neville Southall newydd y dyddiau yma!
Pan dyfodd llawer o'r golgeidwaid ifanc yn ddynion, hwyrach y rhoddwyd heibio'r pethau bachgennaidd fel arbed ciciau o'r smotyn a thyfu i fyny o fod yn flaenwyr, sgorwyr a chreawdwyr ganol cae!
Ond i mi, mae'r chwant am gael fy ystyried fel golgeidwad wedi parhau gydol oes, hwyrach fod hyn, ac athroniaeth Camus o bosib , yn egluro popeth amdanaf!


Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 