Dim chwarae teg i Lanelli
Gêm fawr i Lanelli bnawn Sadwrn - a hwyrach rhai mwy byth yr wythnos nesaf!
Ond oes yna unrhyw synnwyr mewn gofyn i dim chwarae chwe gêm mewn pythefnos a hynny pan maent yn ymdrechu i ennill yr Uwchgynghrair?
Gofynwyd am estyniad i'r tymor, sydd i ddod i ben ar Ebrill 24, er mwyn sicrhau tegwch cystadleuol, ac roedd hyn yn anochel yn dilyn y gaeaf gwael a gafwyd, gyda nifer fawr o gemau yn cael eu gohirio.
Ond na, ni chaniatwyd.
Dwi wedi ei chael yn anodd i ddeall agwedd swyddogion pêl-droed ers pan gefais fy ngyhuddo o beidio a rhoi tîm gorau Trefynnnon ar y cae mewn gêm gwpan leol ganol wythnos beth amser yn ôl.
Fy ateb oedd, os oedd y swyddogion yn gwybod beth oedd tîm gorau Treffynnon, yna byddai croeso iddynt enwi y tîm ar gyfer y gêm nesaf, yn enwedig o ystyried canlyniadau Treffynnon dros y cyfnod!
Chafwyd fawr o ateb heblaw neges gorchmynion i gau fy ngheg!
Oes yna unrhyw reswm dros fynnu fod pethau yn dod i ben ddiwedd Ebrill? Ydi'r byd ar fin dod i ben ar Fai y cyntaf?
'Da fyd im yw dyfod Mai' meddai Dafydd ap Gwilym sydd yn gwneud imi feddwl mai trefnydd gemau oedd Mr Ap Gwilym, ac yn ysu am gael y gemau ' allan o'r ffordd' er mwyn cael seibiant o fis Mai ymlaen!
Wn i ddim am Uwchgynghrair unrhyw wlad, heblaw Cymru, a fyddai'n mynnu fod rhaid i dîm sydd yn yr un sefyllfa a Llanelli chwarae cymaint o gemau allweddol mewn pythefnos, os am geisio cipio'r goron.
Tydi sefyllfa fel yma yn gwneud dim i gyflwyno delwedd yr Uwchgynghrair fel un a hygrededd Ewropeaidd sydd yn ceisio codi safonnau ar gyfer y detholoedig rai y tymor nesaf.
Bu trafodaethau a phenderfyniadau dwys ynglyn a sut i achub Uwchgynghrair Cymru drwy gydol y tymor (a hwyrach nad yw y rhain chwaith heb ddod i ben) , ond nid achub yr Uwchgynghrair sydd ei angen erbyn heddiw, ond gwneud yr Uwchgynghrair yn werth ei achub.
Tydi'r drefn weinyddol, ar hyn o bryd, a'r ffordd y mae Llanelli wedi cael eu trin, ddim yn fy argyhoeddi fod y fath achubiaeth am ddigwydd.
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 